Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Awst 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ein strategaeth ansawdd aer genedlaethol, Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach, yn disgrifio sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â heriau llygredd aer drwy weithio ar y cyd ar draws adrannau'r Llywodraeth, gwahanol sectorau a chyda'r cyhoedd. 

Mae cyfathrebu effeithiol am lygredd aer i ysgogi newid o ran ymddygiad yn allweddol i ddiogelu iechyd cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, yn ogystal â'r amgylchedd. Mae effeithiau iechyd llygredd aer wedi bod yn destun ymchwil helaeth ac yn hysbys iawn. Gall ymyriadau ymarferol i godi ymwybyddiaeth o ffynonellau llygredd aer a chamau lliniaru helpu pawb i leihau eu  cysylltiad â llygredd aer a'u cyfraniadau at lygredd aer. 

Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 ddyletswyddau newydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hyrwyddo ymwybyddiaeth o'r risgiau iechyd a'r amgylchedd a achosir gan lygredd aer a ffyrdd o leihau'r rhain. Heddiw, rwy'n cyhoeddi ymgynghoriad ynghylch Cynllun Cyflawni drafft ar gyfer Hyrwyddo Ymwybyddiaeth o Lygredd Aer sy'n nodi'r camau y byddwn ni, a'n partneriaid, yn eu cymryd i godi ymwybyddiaeth o lygredd aer a mynd i'r afael â llygredd aer.

Rydym wedi cyd-lunio'r Cynllun drafft gyda Grŵp Cyflawni pwrpasol dan gadeiryddiaeth Hyrwyddwr Aer Glân Cymru, yr Athro Paul Lewis. Mae amrywiaeth o arbenigwyr yn cael eu cynrychioli ar y Grŵp Cyflawni, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, y byd academaidd a sefydliadau sy'n gweithio i leihau effaith aer gwael ar iechyd pobl. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at waith datblygu'r Cynllun.

Fel rhan o'r Cynllun Cyflawni rydym yn bwriadu datblygu ymgyrch gyfathrebu  i hysbysu'r cyhoedd am effeithiau llosgi domestig ar iechyd, yr amgylchedd a'r gymuned ehangach. Bydd ein ffocws ar rannu gwybodaeth glir, sy'n seiliedig ar dystiolaeth i helpu pobl i wneud dewisiadau gwybodus.

‘Rydym hefyd yn bwriadu darparu ystod o weithgareddau codi ymwybyddiaeth ynghylch gadael i injan segura pan fo cerbyd yn llonydd sy'n drosedd a all ddenu dirwy cosb benodedig. Gwyddom fod y llygredd a achosir gan hyn yn peri niwed ac mae'n destun pryder arbennig y tu allan i ysgolion a lleoliadau iechyd. Felly, heddiw ‘rwyf hefyd yn lansio ymgynghoriad  ar gynigion i wella'r ffordd yr eir i'r afael â segura llonydd, gan gynnwys cyflwyno ystod cosb ar gyfer y drosedd bresennol. 

Er mwyn cefnogi ein gweithgarwch codi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad, ‘rydym wedi nodi cyllideb flynyddol o £575,000 dros oes tair blynedd y Cynllun Cyflawni. Mae cyllid ychwanegol hefyd ar gael drwy gynlluniau grant presennol, gan gynnwys ein Cronfa Gymorth Rheoli Ansawdd Aer Lleol, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i fynd i'r afael â llygredd aer ar bob lefel.

Mae gwelliannau ansawdd aer yn flaenoriaeth yn ein Strategaeth Aer Glân. Trwy gyflawni camau gweithredu wedi'u targedu a gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol, gweithwyr iechyd proffesiynol a chymunedau, gallwn chwarae rhan hanfodol wrth greu Cymru iachach i bawb.

Bydd ymgynghoriad ar y Cynllun Cyflawni drafft, a fydd yn dod i ben ar  28 Hydref, ar gael yma

Mae'r ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer segura llonydd, a fydd yn dod i ben ar 30 Medi, i'w weld yma

Bydd yr ymatebion a ddaw i law i'r ddau ymgynghoriad yn helpu i lunio fersiwn derfynol y Cynllun Cyflawni a'n polisi ehangach ar gyfer ansawdd aer.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.