Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roedd fy natganiad ysgrifenedig ar 24 Mai 2023 yn cadarnhau bod y cynnig cyflog i staff yr Agenda ar gyfer Newid y GIG ar gyfer 2022-23 a 2023-24 wedi cael ei dderbyn gan ochr yr undebau ar y cyd. Yn ogystal â hyn, fe wnes i gadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn mynd ati ar unwaith i ddechrau’r broses ar gyfer gwneud y dyfarniad cyflog fel y byddai gweithwyr yn cael y taliadau cyn gynted ag y bo’n ymarferol. Mae staff yr Agenda ar gyfer Newid yn cynnwys gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG, nyrsys, staff y gwasanaeth ambiwlans, porthorion, glanhawyr, staff cymorth gofal iechyd a llawer o rai eraill nad ydynt yn feddygon ysbyty. Mae trafodaethau ar wahân yn parhau gyda Chymdeithas Feddygol Prydain ynghylch Meddygon Ymgynghorol, Meddygon Iau a Meddygon SAS a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am hyn pan fydd ar gael.

Er gwaethaf safbwynt ar y cyd y mwyafrif o’r undebau iechyd ar gyfer staff yr Agenda ar gyfer Newid, roedd dau undeb – y Coleg Nyrsio Brenhinol a Chymdeithas y Radiograffwyr – yn parhau i fod mewn anghydfod ynghylch dyfarniad cyflog 2022-23. Gan gynnal y cydgytundeb, parhaodd fy swyddogion i drafod â’r Coleg a’r Gymdeithas er mwyn ceisio mynd i’r afael â phryderon penodol dilys ac osgoi unrhyw weithredu diwydiannol pellach.

Rwy’n falch ein bod, drwy weithio mewn partneriaeth, wedi gallu datblygu ac egluro ymhellach rai o’r elfennau yn y dyfarniad, nad ydynt yn ymwneud â chyflog, sydd o’r pryder mwyaf i’r proffesiynau a gynrychiolir gan y ddau undeb. Bydd y Coleg a’r Gymdeithas nawr yn ymgynghori â’u haelodau gyda’r bwriad o sefydlu a yw hyn yn ddigonol i ddatrys eu hanghydfod. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol deirochrog, drwy Fforwm Partneriaeth Cymru, i sicrhau bywydau gweithio gwell i staff y GIG a gwasanaethau cyhoeddus gwell i’n pobl.

Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.