Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Mr John Lloyd Jones OBE yn parhau fel Cadeirydd dros dro Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru hyd fis Rhagfyr 2019. Cafodd Mr Lloyd Jones ei benodi dros dro am flwyddyn gan y cyn Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth er mwyn canolbwyntio ar y gwaith o sefydlu'r Comisiwn. Roedd disgwyl i gyfnod Mr Lloyd Jones ddod i ben ar 21 Mehefin 2019. Bydd ymarfer penodiad cyhoeddus ar gyfer dewis Cadeirydd i'r Comisiwn yn cychwyn yn fuan.

Bydd yr estyniad hwn yn galluogi Mr Lloyd Jones i oruchwylio'r gwaith o lunio Adroddiad Blynyddol cyntaf y Comisiwn. Hoffwn ddiolch i Mr Lloyd Jones am gytuno i barhau yn y swydd a hefyd ddiolch iddo am ei holl waith hyd yma fel Cadeirydd dros dro y Comisiwn. Mae wedi sefydlu bwrdd o safon uchel ac wedi sicrhau dechrau gwych i'r Comisiwn.

Edrychaf ymlaen at dderbyn adroddiad blynyddol cyntaf y Comisiwn ym mis Tachwedd. Mae’r Comisiwn wedi cyfarfod a thrafod gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru. Yr adroddiad hwn fydd cyfle cyntaf y Comisiwn i gyflwyno ffrwyth y trafodaethau hyn,  ynghyd â’i ddadansoddiad cychwynnol o anghenion Cymru o safbwynt seilwaith ar gyfer y dyfodol a blaenoriaethau o ran ymchwilio yn y dyfodol.