Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn ddiolch i bawb sy’n gweithio yn y sector addysg ac awdurdodau lleol sy’n parhau i weithio’n gyflym ers i Adran Addysg Llywodraeth y DU gyhoeddi ei hasesiad risg diwygiedig ynghylch RAAC.

Ddydd Llun, 4 Medi, cadarnhawyd y byddai dwy ysgol ar Ynys Môn, sydd â RAAC yn eu hadeiladau, yn cau dros dro er mwyn gallu cynnal archwiliadau diogelwch pellach. Yn dilyn camau rhagweithiol ar ran y ddau bennaeth, mae Ysgol David Hughes wedi ailagor yn ddiogel i bob dysgwr, ac mae Ysgol Uwchradd Caergybi wedi gallu agor yn rhannol i ddisgyblion, gan ddarparu gwersi wyneb yn wyneb i bedwar grŵp blwyddyn ar y tro, am yn ail â’i gilydd, ochr yn ochr â thri grŵp ysgol a a fydd yn cael gwersi ar-lein.

Drwy gydol yr wythnos hon, mae pob awdurdod lleol wedi bod yn parhau i adolygu eu hystâd ysgolion er mwyn dod o hyd i unrhyw rannau a allai gynnwys RAAC. O ganlyniad i’r gwaith hwn, nodwyd dau achos pellach o RAAC mewn rhannau o ysgolion yng Nghymru.

Ddydd Mercher, 13 Medi, gwnaeth Cyngor Sir Conwy y penderfyniad i gau Ysgol Maes Owen dros dro fel mesur rhagofalus tra bo peirianwyr strwythurol yn cynnal ymchwiliad pellach o’r RAAC a nodwyd yn yr ysgol.

Ddydd Iau, 14 Medi, daethpwyd o hyd i RAAC mewn rhannau o do fflat yn Ysgol Trefnant yn Sir Ddinbych yn dilyn arolygiad manwl. Fel mesur rhagofalus, gwnaeth Cyngor Sir Ddinbych y penderfyniad i gau’r ysgol dros dro tra bo ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal. 

Wrth i gam cyntaf ein proses i ddod o hyd i RAAC dynnu i ben, gallwn gadarnhau ein bod wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan yr holl awdurdodau lleol. Nid oes RAAC wedi’i nodi mewn unrhyw ysgolion eraill. Mae ail gam y broses eisoes ar y gweill, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wrthi’n craffu ar yr wybodaeth er mwyn gweithio gydag awdurdodau lleol i nodi unrhyw ddata neu arolygon pellach neu waith tebyg sy’n ofynnol, ac er mwyn trefnu i gyflawni’r gwaith hwnnw.

Fel y nodwyd yn flaenorol, bydd hyn yn cael ei weithredu ar unwaith ac yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr. Rwy’n deall yn llawn y pryderon fu gan rieni, gofalwyr a staff dros yr ychydig wythnosau diwethaf, ac rwyf am roi sicrwydd ichi bod y broses rydym yn ei dilyn fesul cam yn un fanwl a thrylwyr.

Mae ColegauCymru hefyd wedi bod yn gweithio gyda cholegau addysg bellach er mwyn inni gael gwybodaeth ynghylch p’un a oes RAAC wedi’i nodi o fewn ystâd colegau. Dim ond mewn un coleg y daethpwyd o hyd i RAAC hyd yma, mewn rhan fach iawn o un adeilad ar ystad Coleg Caerdydd a’r Fro, ac mae hyn yn cael ei reoli yn unol â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol. Mae’r sefydliadau addysg bellach eraill wedi cadarnhau nad oes unrhyw le sy’n destun pryder ar hyn o bryd, a’u bod yn cymryd camau i fwrw ymlaen ag ail gam y broses o asesu RAAC.

Rydym hefyd yn gweithio’n agos gyda CCAUC a Phrifysgolion Cymru i gael darlun llawn o effaith RAAC yn y sector addysg uwch. Fel y nodwyd yn flaenorol, mae prifysgolion yn trefnu asesiadau, gan weithio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Ystadau Prifysgolion (AUDE), sy’n cynnal arolwg o sefydliadau, a byddant yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf maes o law. Hyd yma, ac eithrio Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor, ni nodwyd RAAC mewn unrhyw sefydliadau eraill. Yng Nghaerdydd mae’r ardal dan sylw wedi’i gau ac mae gwaith lliniaru yn mynd rhagddo, ynghyd ag arolygon pellach. Ym Mangor, nid yw’r ardal dan sylw yn agored i fyfyrwyr na’r cyhoedd, ac mae wedi’i chau dros dro i’r staff.

Rydym yn parhau i argymell defnyddio canllawiau presennol Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol i ymchwilio i bresenoldeb RAAC mewn adeiladau cyhoeddus a’i asesu. Mae ei ganllawiau atodol, a gyhoeddwyd eleni, yn cynnwys cyngor ar asesu risg, gwaith cyweirio a rheoli’r sefyllfa pan ganfyddir RAAC.