Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yng Nghymru, cafodd awdurdodau lleol wybod am y broblem bosibl sy'n gysylltiedig â RAAC drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ym mis Chwefror 2020, yn dilyn rhybudd diogelwch a gyhoeddwyd yn 2019 gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol (SCOSS). Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i asesu risgiau cyflwr a diogelwch adeiladau, gan gynnwys uniondeb strwythurol pob adeilad o fewn eu hystâd ysgolion, ac i gadw cofnodion. 

Ar ôl i Adran Addysg Llywodraeth y DU rannu tystiolaeth newydd am RAAC ar 3 Medi 2023, rydym wedi bod yn gweithio'n agos ag awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Colegau Cymru, a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i asesu presenoldeb RAAC mewn adeiladau addysg cyn gynted â phosibl.

Hyd yma (ar 13 Rhagfyr), mae fwy na 95% o'r holl ysgolion a ariennir gan y wladwriaeth wedi'u hasesu ar sail blaenoriaeth, ac mae'r ysgolion sy'n weddill yn cael eu hasesu yn ystod yr wythnosau nesaf. Mae angen i arbenigwyr sy'n ymdrin ag asbestos weithio mewn nifer fach o ysgolion i asesu'r RAAC. A bydd yr asesiadau hynny'n cael eu cwblhau yn ystod mis Ionawr 2024.

Ar hyn o bryd dim ond pum ysgol sydd wedi cael eu nodi fel rhai sy'n cynnwys RAAC: dwy ysgol ar Ynys Môn, un yng Nghonwy, un yn Sir Ddinbych ac un yng Nghasnewydd. Roedd yr awdurdodau lleol yn yr achosion hyn wedi trefnu i beirianwyr adeiladu gynnal arolwg o'r ysgolion hynny ar frys – a phenodi contractwyr i wneud gwaith lliniaru. 

Yn Lloegr, mae'r Adran Addysg wedi nodi 231 o sefydliadau addysg yr effeithiwyd arnynt gan RAAC, ar 27 Tachwedd.

Nodwyd bod RAAC yn strwythurau to y ddwy ysgol uwchradd ar Ynys Môn. Erbyn hyn, mae Ysgol David Hughes wedi'u hailagor yn rhannol ac yn ddiogel i bob dysgwr, ac mae Ysgol Uwchradd Caergybi wedi gallu agor yn rhannol i ddisgyblion, gyda chyfuniad o wersi wyneb yn wyneb a dysgu ar-lein. Gobeithir y bydd pob disgybl yn mynd yn ôl i wersi wyneb yn wyneb ar 10 Ionawr 2024, yn gynt na'r disgwyl. Bydd gwaith lliniaru’n parhau yn y ddwy ysgol y tymor nesaf.

Fel mesur rhagofalus, penderfynodd Cyngor Conwy gau Ysgol Maes Owen dros dro tra bo peirianwyr adeiladu yn cynnal archwiliadau a gwaith lliniaru mewn perthynas â'r RAAC a ganfuwyd mewn to ar leddf. Agorodd yr ysgol yn y lle cyntaf ar sail cylchdro, cyn ailagor yn llawn i'w holl ddisgyblion.

Cafodd RAAC ei nodi mewn rhannau o do fflat yn Ysgol Trefnant yn Sir Ddinbych yn dilyn archwiliad manwl. Fel mesur rhagofalus, penderfynodd Cyngor Ddinbych gau'r ysgol dros dro tra bo gwaith lliniaru pellach yn cael ei gynnal. 

 

Nodwyd bod RAAC yn bresennol mewn lloriau yn un rhan o Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd. Felly, unwaith eto fe wnaeth peirianwyr adeiladu gynnal asesiad brys a phenodwyd contractwyr i ymgymryd â gwaith cyweirio, cyn caniatáu i ddisgyblion ddychwelyd i'r rhan honno o'r ysgol.

Erbyn hyn, gall gwaith pellach gael ei gynllunio yn ôl yr angen i gael gwared ar y RAAC mewn modd diogel a rheoledig.

Mae tri choleg; Coleg Caerdydd a’r Fro, Grŵp Colegau NPTC a Choleg Gŵyr Abertawe, a dwy brifysgol; Caerdydd a Bangor, hefyd wedi nodi bod RAAC yn bresennol mewn adeiladau ar eu campysau, ac maent i gyd yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r broblem.

Hoffwn ddefnyddio’r cyfle hwn i ddiolch i staff, dysgwyr a rhieni am eu hamynedd a’u cefnogaeth. Rwyf hefyd yn gwybod bod cydweithwyr wedi bod yn gweithio’n ddi-flin i geisio datrys llu o broblemau heriol a chymhleth sy’n gysylltiedig â RAAC.

Dros y naw mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi bod yn gweithredu rhaglen helaeth ar gyfer adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a disodli'r rhai sydd fwyaf angen eu disodli am resymau diogelwch ac ansawdd. Mae’r gwaith hwn yn destun balchder. Mae gwario cyfalaf ar addysg yn Lloegr wedi cael ei dorri’n sylweddol, ond mae ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwir gynt yn rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif) yn darparu'r rhaglen adeiladu fwyaf ers y 1960au i fynd i’r afael ag adeiladau ysgolion a cholegau addysg bellach sy’n heneiddio yng Nghymru.

O ganlyniad i’r ymrwymiad cryf i wella cyfleusterau ar gyfer ein dysgwyr, cynyddodd Llywodraeth Cymru lefel y cyllid cyfalaf sydd ar gael drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i £300m bob blwyddyn ar gyfer y cyfnod 2022-23 i 2024-25 – sy’n cynrychioli cynnydd o 33% o'i gymharu â llinell sylfaen 2021-22.

Hyd yn hyn mae dros £2.35bn wedi'i dargedu at brosiectau adeiladu newydd ac adnewyddu sylweddol.

O'r 1,463 o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, manteisiodd fwy na 170 o ysgolion o'r buddsoddiad hwn o dan y don fuddsoddi gyntaf, ac mae 200 o ysgolion a cholegau yn elwa ar y don bresennol. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £203 miliwn mewn cyfalaf cynnal a chadw dros y 4 blynedd diwethaf, yn golygu bod awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi gallu mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar gynnal a chadw mewn perthynas â’u hysgolion a'u colegau. Wrth ystyried RAAC, mae cynnal a chadw adeiladau ysgolion a cholegau a cheisio atal dŵr rhag treiddio i mewn i’r adeiladau yn feini prawf allweddol wrth gynnal eu huniondeb strwythurol.  Mae'r cyllid hefyd wedi galluogi awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i gael gwared ar asbestos mewn ysgolion a cholegau, sydd wedi helpu i ddod o hyd i RAAC a’i asesu.