Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mai 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi cael wythnos lwyddiannus arall o ran cyflawni ein Rhaglen Frechu. Mae dros 3 miliwn o’r brechlyn wedi’u rhoi yng Nghymru a thros y penwythnos, cyflawnom garreg filltir bwysig arall gyda mwy na 1 filiwn o bobl wedi cael eu hail ddos ac wedi’u diogelu’n llawn.

Mae hyn yn gyflawniad rhyfeddol mewn cyfnod mor fyr. Rwy'n hynod ddiolchgar i'n holl gydweithwyr yn y GIG a'r holl wirfoddolwyr ledled Cymru y mae eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus wedi golygu ein bod wedi sicrhau cynnydd rhagorol wrth gyflawni ein rhaglen frechu COVID-19.

Rydym yn parhau i fonitro’n ofalus yr amrywiolyn a elwir yn amrywiolyn India (VOC-21APR-02) yng Nghymru. Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion barhau i weithio'n agos gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a thimau Digwyddiadau lleol byrddau iechyd i deilwra ymatebion diogelu iechyd sy'n seiliedig ar dystiolaeth i glystyrau India 2. Caniateir disgresiwn a hyblygrwydd lleol i ddehongli'r canllawiau, yn seiliedig ar yr hyn a fyddai'n gweithio'n weithredol yn lleol neu'n hyperleol, sy'n cynnwys defnyddio ail ddosau, mewn rhai ardaloedd, pe bai hyn yn flaenoriaeth glinigol, a lle mae'r cyflenwad yn caniatáu. Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi ysgrifennu at GIG Cymru i roi eglurhad.

Mae ein timau Profi Olrhain Diogelu yn parhau i sicrhau ein bod yn olrhain a monitro unigolion sydd wedi dod i gysylltiad ag achosion o’r amrywiolyn ac rydym hefyd yn datblygu cynlluniau lleol ymhellach ar gyfer y posibilrwydd y bydd angen cyflwyno profion wedi’u targedu neu brofion ymchwydd. Mae nifer yr achosion o’r amrywiolyn India fel y’i gelwir yn dal i fod yn isel yng Nghymru, ac mae nifer y bobl sydd eisoes wedi cael eu brechu yma yn uchel, gan gynnwys niferoedd uchel ymhlith ein grwpiau sydd fwyaf agored i niwed wedi cael yr ail ddos.

Mae ymddangosiad amrywiolyn India (VOC-21APR-02) yn ein hatgoffa nad yw COVID-19 wedi diflannu eto, a’i bod yn bwysig iawn i gael y brechlyn pan ddaw eich tro chi, gan gynnwys cael yr ail ddos, pan gaiff ei gynnig, i sicrhau y cewch eich diogelu gymaint â phosibl.

Mae sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys yn un o egwyddorion allweddol ein rhaglen frechu. Er bod y nifer sy'n manteisio ar frechlyn COVID-19 yng Nghymru wedi bod yn uchel iawn, mae grwpiau o'r boblogaeth o hyd sydd, er iddynt dderbyn mwy nag un cynnig, yn dal heb eu brechu.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei bedwerydd adroddiad ar gydraddoldeb o ran darparu’r rhaglen frechu COVID-19. Mae'r adroddiad yn dangos cynnydd yn y gyfran o bobl sydd wedi’u brechu yn yr holl grwpiau economaidd-gymdeithasol a grwpiau ethnig a nodwyd, sy’n newyddion cadarnhaol. Fodd bynnag, gwelwyd yr anghydraddoldeb mwyaf yn y ddarpariaeth rhwng grwpiau ethnig mewn oedolion rhwng 50 a 59 oed. Gwelwyd anghydraddoldebau hefyd rhwng oedolion sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig Cymru.

Mae hyn yn rhywbeth y mae’r rhaglen yn hoelio llawer o sylw arno. Er bod bylchau anghydraddoldeb o ran darparu o leiaf un dos o frechlyn COVID-19 rhwng grwpiau ethnig a grwpiau economaidd-gymdeithasol ymysg oedolion hŷn yng Nghymru wedi lleihau ers mis Mawrth, rydym yn gwybod bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pawb yn cael eu brechu. Rydym yn cymryd camau i ddeall pwy sydd heb eu brechu o hyd, a’r rhesymau pam nad ydynt yn manteisio ar y cynnig er mwyn cyrraedd yr unigolion a’r grwpiau hynny.

Hoffwn atgoffa pawb bod y rhaglen frechu ar agor ac ar gael i bob oedolyn cymwys yng Nghymru, waeth beth fo'u cefndir, eu statws, eu hamgylchiadau neu eu treftadaeth. Bydd y GIG bob amser yn barod i chi. Os na wnaethoch chi fanteisio ar eich cynnig cyntaf o’r brechlyn am ba reswm bynnag ond eich bod wedi newid eich meddwl, nid yw byth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad. Rwy'n eich annog yn gryf i gael eich dos cyntaf a'ch ail ddos o frechlyn COVID-19 i ddiogelu eich hun a chadw Cymru'n ddiogel.

Yfory byddwn yn cyhoeddi ein diweddariad rheolaidd nesaf. Nes ymlaen yr wythnos hon byddaf hefyd yn cyhoeddi diweddariad pellach i'n Strategaeth Frechu, i adlewyrchu ar y cynnydd a wnaed hyd yma ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y ffordd ymlaen. Mae brechu yn gwneud gwahaniaeth go iawn i drywydd y pandemig hwn. Mae pob dos a ddarperir yn fuddugoliaeth fach yn erbyn y feirws ofnadwy hwn.