Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gweld newidiadau sylweddol yn ein bywydau o ddydd i ddydd na ellid bod wedi eu rhag-weld. Mae hyn wedi cynnwys delio â phandemig, ynghyd â materion allweddol fel llifogydd difrifol ac eang ar draws y wlad a pharatoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r pandemig wedi effeithio arnom i gyd, ac mae’n amlwg, ar drothwy misoedd y gaeaf fel hyn, y bydd yn parhau i gael effaith fawr ar bob agwedd ar ein bywydau.

Ym mis Mawrth 2019, penderfynais beidio â gweithredu’r penderfyniad i newid cyfradd y comisiwn ar werthiant cartrefi preswyl mewn parciau, ond yn hytrach ailystyried y mater o’r newydd. Roeddwn eisiau trafod â’r sector ac roedd yn fwriad gennyf i gynnal ymchwil pellach er mwyn sicrhau bod gennyf y dystiolaeth gryfaf ar gyfer gwneud penderfyniad yn y dyfodol.

I ategu hyn, mae swyddogion wedi datblygu arolwg drafft ar gyfer perchnogion safle ochr yn ochr â dogfen ddrafft at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn casglu tystiolaeth bellach ar y mater. Edrychwyd hefyd ar yr opsiynau ar gyfer sicrhau arbenigedd ariannol i ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd.

Fodd bynnag, ers dechrau’r argyfwng Covid-19, mae adnoddau wedi cael eu ailgyfeirio ac mae swyddogion tai wedi bod yn gweithio i gefnogi pobl sy’n wynebu argyfwng tai brys er mwyn iddynt allu aros mewn llety sicr a diogel.

Er fy mod yn cydnabod pwysigrwydd cyfradd y comisiwn a’r effaith a gafodd hyn ar berchnogion cartrefi mewn parciau, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ohirio casglu tystiolaeth bellach ar y mater hwn dros dro, er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar yr heriau brys sy’n ein wynebu o ganlyniad i Covid-19. Bydd y penderfyniad hwn yn cael ei adolygu ar ôl etholiadau’r Senedd.

Yn y cyfamser, os oes gan berchnogion cartrefi mewn parciau bryderon unigol, gallant gysylltu â’u hawdurdod lleol. Gellir cael gafael ar y manylion cyswllt drwy chwilio am god post yma. Gallant hefyd gael cymorth cyfreithiol annibynnol gan y Gwasanaeth Cynghori ar Lesddaliadau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Hoffwn ddiolch i’r rheini sy’n preswylio mewn cartrefi preswyl mewn parciau, perchnogion a rheolwyr y safleoedd, a’r rheini sy’n cynrychioli’r sector am eu hymroddiad parhaus i’r drafodaeth ar y mater hwn.