Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, mae gennym sylfaen gadarn ar gyfer rhoi Cymru ar lwybr mwy cynaliadwy. Mae'r Ddeddf yn siapio sut rydym yn gweithio a'r polisïau rydym yn eu datblygu, gan ein helpu i fynd i'r afael â'r heriau a wynebwn sy’n pontio’r cenedlaethau. O'r cynnydd rydym yn ei wneud ar ein Coedwig Genedlaethol a'n Strategaeth Tlodi Plant, i'n deddfwriaeth sy’n gysylltiedig â’r bartneriaeth gymdeithasol a'n cyfraddau ailgylchu, rydym yn diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol gan sicrhau nad yw gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion hwythau yn cael ei roi yn y fantol. Dyma'r egwyddor datblygu cynaliadwy y mae'n ofynnol i Lywodraeth Cymru ei gwireddu a'i hybu gan feddwl am yr hirdymor, gweithio gyda phobl a chymunedau, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull mwy cydgysylltiedig.

Yn 2023, cyhoeddwyd Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus 2023-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n nodi amrediad o gamau gweithredu a gweithgareddau parhaus a gynlluniwyd i feithrin dealltwriaeth well o’r egwyddor datblygu cynaliadwy, a gwella’r modd y caiff ei chymhwyso yn Llywodraeth Cymru.

Roedd y Cynllun hwn hefyd yn cynrychioli ymateb o sylwedd Llywodraeth Cymru i argymhelliad yr adroddiad Adolygiad Adran 20 gan gyn-Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. 

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi’r Diweddariad ar Gynnydd, sy’n ystyried y 51 o gamau gweithredu sy’n rhan o’r Cynllun. Mae'r Diweddariad ar Gynnydd hefyd yn rhoi trosolwg o'r gwersi a ddysgwyd hyd yma ac mae’n tynnu sylw at adnoddau a all helpu'r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf ac eraill i feithrin eu dealltwriaeth o'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn eu sefydliadau, ac i’w chymhwyso ymhellach. 

Rwy'n falch ein bod wedi cryfhau trefniadau i weithredu’r Ddeddf yn Llywodraeth Cymru drwy Fframwaith Gallu Polisi newydd. Rydym hefyd wedi hwyluso cyfres o sesiynau cyfnewid gwybodaeth i gyrff cyhoeddus ledled Cymru, wedi creu taflen ar gyfer pobl ifanc ar Gynllun Gwella’r Gyllideb, ac wedi rhyddhau cyhoeddiad ar Ethnigrwydd a Llesiant i gyd-fynd â’n hadroddiad Llesiant Cymru ar gyfer 2023. 

Mae'r Cynllun a'r Diweddariad ar Gynnydd blynyddol yn rhan bwysig o'r hanes ynglŷn â sut rydym yn parhau i gryfhau’r trefniadau i weithredu’r Ddeddf. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod y gellir ac y dylid gwneud mwy bob amser. Mae’r Diweddariad ar Gynnydd yn ein hatgoffa bod dysgu a gwella parhaus yn gamau ar y daith tuag at lwyddiant – taith sy'n galw am ymrwymiad, ymdrech fwriadol ac arweinyddiaeth barhaus. Rwy'n ddiolchgar i'r holl bartneriaid sy'n cymryd rhan am ymrwymo i'r Cynllun ac edrychaf ymlaen at barhau i gydweithio â chi i feithrin llesiant Cymru ymhellach.