Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Hydref 2015, cymerwyd y cam dewr o fabwysiadu model arloesol newydd a fyddai'n golygu newid mawr yn y ffordd y darperir gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru. Cafodd y newidiadau hyn eu harbrofi gyntaf mewn ymateb i Strategic Review of Welsh Ambulance Services (2013) gan yr Athro Siobhan McClelland. Ym mis Chwefror 2017, yn dilyn peilot 18 mis llwyddiannus, cadarnheais y câi'r model ei roi ar waith yn llawn.

Mae'r newidiadau sydd wedi'u sbarduno'n glinigol a gyflwynir o dan y model newydd yn sicrhau bod cleifion yn cael yr ymateb iawn ar sail eu hangen clinigol ac ers i'r model newydd gael ei arbrofi mae Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) wedi llwyddo i ddangos gwelliannau sylweddol yn yr amserau ymateb ar gyfer y galwadau ‘Coch’ blaenoriaeth uchaf.  Nid yw hyn yn ymwneud â bwrw targedau i greu'r argraff bod y gwasanaeth wedi gwella ac yn ei hafod mae'r model yn ymwneud â gweddnewid ansawdd y gofal a ddarperir i'r cleifion.

Bydd y newidiadau hyn yn golygu bod gwasanaeth ambiwlans brys Cymru ymhlith y rhai mwyaf blaengar yn y byd. Calondid oedd gweld i'r gwerthusiad annibynnol o'r model gasglu nid yn unig mai symud i'r model newydd oedd y peth cywir i'w wneud, ond hefyd ei bod wedi helpu i ddarparu gwasanaeth â gwell canolbwynt ar ansawdd y gofal y mae cleifion yn ei gael yn ogystal â gwella effeithlonrwydd wrth ddefnyddio adnoddau ambiwlans. Mae'r model hefyd wedi denu diddordeb ledled y DU ac yn fyd-eang gan wasanaethau ambiwlans sy'n dymuno dyblygu ein llwyddiant, gyda modelau tebyg iawn i'n modelau ninnau'n cael eu cyflwyno yn Lloegr a'r Alban.

Wedi dweud hynny, nid ydym ni, na gwasanaeth Ambiwlans Cymru, yn llaesu dwylo. Er bod y model yn blaenoriaethu'r rhai y mae arnynt angen ymateb brys fwyaf, rydym yn cydnabod bod rhai cleifion llai brys wedi aros yn hwy, ar adegau dros y gaeaf, nag y byddem yn disgwyl. Er mwyn darparu'r ymateb gorau oll i gleifion, rhaid adolygu gwasanaethau yn gyson.

Gwnaeth y gwerthusiad annibynnol o'r model ymateb clinigol nifer o argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach i sicrhau bod y model yn parhau i ddarparu gwasanaeth diogel sy'n briodol yn glinigol i gleifion. Rwyf yn falch o ddweud bod cynnydd wedi'i wneud yn erbyn yr holl argymhellion.

Un o'r argymhellion allweddol oedd y dylid cynnal adolygiad o'r categorïau o alwadau y tu allan i'r categori  ‘Coch’ (bywyd yn y fantol). Penderfynodd adolygiad o'r holl godau blaenoriaethu Melyn a gynhaliwyd gan Grŵp Meddalwedd Asesu Blaenoriaethau Clinigol (CPAS) WAST, sy'n cynnwys arbenigwyr o fri rhyngwladol ym maes blaenoriaethu, Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans, ac uwch glinigwyr ambiwlans, ei bod yn dal yn briodol dyrannu codau i'r categorïau newydd. Ymhellach, mae cyfluniad codau yng Nghymru bron yr un fath â fersiynau o'r model ymateb clinigol a gyflwynwyd yn Lloegr a'r Alban.

Er mwyn sicrhau bod cleifion yn parhau i gael y lefel fwyaf priodol o ofal a thriniaeth ar gyfer eu hanghenion, bydd WAST yn sicrhau bod categorïau newydd o alwadau yn cael eu hadolygu'n gyson.

Casglodd yr adolygiad hefyd y byddai buddsoddi mewn systemau gwybodaeth

yn cynnig cyfleoedd i wella'r broses ar gyfer rheoli a dosbarthu galwadau, a'i gwneud yn fwy cydgysylltiedig yn ogystal â darparu gwybodaeth fwy cadarn i gefnogi datblygu gwasanaethau ymhellach.

Ym mis Tachwedd 2017, gyda chymorth cyllid cyfalaf o £4.48m gan Lywodraeth Cymru, uwchraddiodd gwasanaeth ambiwlans Cymru ei system Ddosbarthu gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) bresennol i system fodern sydd wedi hwyluso gwelliant sylweddol o ran cynllunio ac anfon ambiwlansys yn gyflymach i gleifion.

Cydnabu'r gwerthusiad hefyd fod rôl y gwasanaeth ambiwlans wedi datblygu yn y blynyddoedd diwethaf o fod yn rhywbeth mwy na dim ond mynd â phobl i'r ysbyty.  Erbyn hyn, ei rôl yw ymyrryd yn gynt yn nhaith y claf trwy ddatrys galwadau trwy eu hasesu dros y ffôn (clywed a thrin) a thrin mwy o bobl yn y lleoliad (gweld a thrin), lleihau nifer y teithiau ambiwlans os oes modd eu hosgoi a chaniatáu i'r gwasanaeth ambiwlans ganolbwyntio ei ymdrechion ar ymateb i'r achosion hynny lle mae bywyd yn y fantol.

Cafwyd cynnydd nodedig yng nghyfraddau ‘clywed a thrin’ a ‘gweld a thrin’ yn sgil buddsoddiad o bron £700,000.  Mae hyn wedi galluogi'r gwasanaeth ambiwlans i gynyddu nifer y clinigwyr sy'n gweithio ar ei ddesg cymorth clinigol sy'n sicrhau bod llai o gleifion yn cael ymateb ambiwlans neu'n cael  eu cludo i'r ysbyty pan nad oes arnynt angen gofal neu driniaeth bellach.  Rhwng 01 Ionawr 2018 a 31 Mawrth  2018, cafodd 17,990 o deithiau ambiwlans eu hosgoi yn dilyn asesiad wyneb-yn-wyneb yn y lleoliad, gan alluogi'r cleifion hyn i aros yn eu cartrefi eu hunain a chan ryddhau adnoddau ambiwlans i ymateb i alwadau brys eraill yn y gymuned.

Mae adnoddau'n cael eu buddsoddi hefyd yn agosach at gartref trwy gynlluniau lleol i osgoi derbyniadau i'r ysbyty; y defnydd o barafeddygon, nyrsys ac Ymarferwyr Cyffredinol sy'n gweithio mewn canolfannau cyswllt clinigol i ddarparu gwasanaeth brysbennu eilaidd dros y ffôn i sicrhau bod cleifion yn cael yr ymateb gorau ar sail eu hanghenion; ac mae nifer o fodelau parafeddygon cymunedol yn cael eu harbrofi ledled Cymru i ymchwilio i gyfleoedd i barafeddygon gefnogi gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol.

Mae clinigwyr WAST hefyd yn gweithio yn ystafelloedd rheoli'r heddlu i ddarparu cyngor clinigol a chymorth dros y ffôn i bersonél yr heddlu sy'n mynychu digwyddiadau lle gallai fod angen ymateb gan ambiwlans.  Mae hyn wedi arwain at ostyngiad yn y galwadau ar wasanaethau ambiwlans gan ryddhau adnoddau ambiwlans a'r heddlu trwy atal teithiau ambiwlans y mae modd eu hosgoi.

Mae'r Dangosyddion Ansawdd Ambiwlans (AQIs) a gyflwynwyd i gefnogi'r model yn gosod canolbwynt cryfach byth nid yn unig ar amseroldeb yr ymateb, ond hefyd ar briodoldeb ac ansawdd yr ymateb y mae pobl yn ei gael. Maent yn darparu sicrwydd y bydd cleifion nad ydynt bellach yn destun targed syml yn seiliedig ar amser yn cael ymateb diogel ac amserol i'w hanghenion clinigol. Calondid arbennig imi yw'r lefelau perfformiad uchel yn erbyn y saith dangosydd clinigol, sy'n dangos bod parafeddygon yn darparu gofal sy'n gwneud gwahaniaeth o bwys i ganlyniadau cleifion. Mae WAST wedi ymrwymo i gyflwyno pedwar dangosydd clinigol pellach o fewn y 12 mis nesaf.

Mae'r dangosyddion hyn hefyd wedi hwyluso dealltwriaeth well o'r gwasanaeth a ddarperir i bobl â chyflyrau penodol. Mae archwiliad o'r gallu i ymateb i gleifion sydd wedi cael strôc hefyd yn cael ei gynnal ar gyfer pob uned sy'n derbyn cleifion sydd wedi cael strôc gan PGAB.  Bydd hyn yn cynnig cipolwg ar wybodaeth ar lefel y claf ym mhob safle yng Nghymru ac yn cynnig sicrwydd ar yr ymateb i'r math hwn o ddigwyddiad.

Mae gwaith yn parhau hefyd i gysylltu gwybodaeth ar lefel y claf â gwybodaeth ar lefel y claf mewn adrannau brys i alluogi gwybodaeth am ganlyniadau clinigol a disgrifio'n well effaith ymatebolrwydd / ansawdd clinigwyr ambiwlans.  Bydd hyn yn cefnogi WAST ymhellach wrth sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu gwasanaeth diogel i gleifion er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i gleifion.

Yng ngoleuni'r cynnydd a amlinellir uchod, cytunodd y Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys  (PGAB) yn ei gyfarfod ar 27 Mawrth 2018 fod argymhellion yr adolygiad annibynnol wedi cael eu cyflawni ac y byddent bellach yn cael eu cau o gofio bod chwe ffrwd waith wedi cael eu sefydlu i gyflawni neu oruchwylio cynnydd a oedd wedi dod i ben neu a oedd yn parhau am gyfnod amhenodol.

Gan adeiladu ar y gwaith presennol hwn, mae Prif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans wedi cychwyn adolygiad o dan arweiniad Clinigol ar y categori Ambr i wella ymatebolrwydd ambiwlansys, canlyniadau clinigol a phrofiad cleifion ymhellach.

Bydd yr adolygiad yn edrych ar y canlynol:

  • Y sefyllfa bresennol mewn perthynas â pholisi, arferion a chanllawiau presennol, gweithgarwch a mesurau a risg;
  • Disgwyliadau a phrofiadau'r cyhoedd, staff a'r gwasanaeth ehangach ynghylch yr ymateb gan ambiwlansys i alwadau Melyn;
  • Ystyried ffactorau amgylcheddol megis lleoliad y digwyddiad / oedran y claf etc wrth benderfynu sut y caiff ymateb ei ddyrannu; a
  • Ffactorau mewnol neu allanol eraill a allai gyfrannu at  /  effeithio ar sut y mae WAST yn ymateb i alwadau categori Melyn.

Mae'n bwysig bod dinasyddion a staff yn cael y cyfle i gyfrannu at ddatblygiadau pellach wrth iddynt ddod i ddeall mwy am ddefnyddio a chyflenwi'r gwasanaethau hanfodol hyn, er mwyn gwella'r profiad i bawb sy'n eu defnyddio.  Caiff hyn ei fonitro fel rhan o’r adolygiad. Er mwyn sicrhau bod yr holl safbwyntiau perthnasol yn cael eu hystyried fel rhan o'r adolygiad, bydd y rhanddeiliaid yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd, staff (gan gynnwys undebau llafur a choleg y parafeddygon), rheolwyr gweithredol ar draws cyrff GIG Cymru ac Aelodau'r Cynulliad.

Rwyf wedi gofyn i  Brif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans roi adroddiad yr adolygiad terfynol imi ar ddechrau Medi, er mwyn cefnogi cyflawni'r argymhellion cyn gynted â phosibl. Byddaf wedyn yn gwneud datganiad llafar i hysbysu Aelodau'r Cynulliad am ganfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad.

Mae’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys wedi rhyddhau datganiad cyhoeddus am y cynnydd sydd wedi'i wneud ers i'r adroddiad gwerthuso annibynnol ar y model ymateb clinigol gael ei gyhoeddi ac yn rhoi manylion yr adolygiad arfaethedig. Mae'r datganiad i'w weld yn ddolen ganlynol:

http://www.wales.nhs.uk/easc/news/48190