Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, byddaf yn cyhoeddi ein diweddariad wythnosol ar raglen frechu COVID-19. Mae dros 3.7 miliwn dos o’r brechlyn wedi cael eu rhoi yng Nghymru. Yn yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi cofnodi dros 124,000 o ddosau, gan gynnwys 15,700 o ddosau cyntaf a mwy na 108,000 o ail ddosau. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r gwaith aruthrol hwn. Mae hyn yn gynnydd pwysig yn ein rhaglen ac yn diogelu Cymru.

Hoffwn hefyd amlinellu ein safbwynt o ran gwneud brechlynnau’n orfodol yng Nghymru. Hyd yma mae nifer y gweithwyr cartrefi gofal sydd wedi manteisio ar y brechlyn wedi bod yn uchel ac rydym yn gweithio gyda’r GIG a’r sector cartrefi gofal i fonitro hyn yn agos iawn. Rydym hefyd yn datblygu canllawiau i weithwyr ym mhob sector am y rhaglen frechu. Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y gyfraith a gwneud brechlynnau’n orfodol yng Nghymru.

Y brechlyn yw’r ffordd orau o atal salwch difrifol a lledaeniad y clefyd. Mae sicrhau bod lefelau uchel iawn o bobl yng Nghymru wedi cael dau ddos yn rhoi mwy o ddewisiadau inni ar gyfer y dyfodol, o ran byw gyda llai o gyfyngiadau, yn enwedig os gallwn gadw achosion o’r coronafeirws yn isel yn y gymuned. Bydd pawb sy’n gymwys yn cael gwybodaeth am y brechlyn i’w helpu i ddod i benderfyniad os oes ganddynt unrhyw bryderon. Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru dudalen cwestiynau cyffredin am y brechlynnau COVID-19 a diogelwch i’ch helpu i ddod i benderfyniad. Rwy’n annog pob oedolyn cymwys i dderbyn y cynnig o frechlyn coronafeirws pan ddaw eu tro.

Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn annog unrhyw un sydd heb gael y brechlyn eto, i fynd i gael ei frechu. Os ydych yn credu eich bod wedi colli allan, neu os nad ydych eisoes wedi derbyn cynnig i gael y brechlyn am ba bynnag reswm, gallwch gysylltu drwy’r ffyrdd hyn. Dyw hi fyth yn rhy hwyr i drefnu apwyntiad.