Neidio i'r prif gynnwy

JJulie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae pandemig Covid 19 wedi dangos yn glir bod cysylltedd digidol yn hanfodol i weithrediad a gwydnwch cymdeithas fodern. Wrth inni ddod allan o'r pandemig, bydd ffyrdd newydd o weithio a byw yn parhau i fynnu mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy a gwasanaethau symudol.

Nid yw'r cyfrifoldeb dros fynd i'r afael â materion telathrebu yng Nghymru wedi'i ddatganoli i Weinidogion Cymru ac mae'n gyfrifoldeb Llywodraeth y DU, y diwydiant telathrebu ac Ofcom. Rydym wedi camu i'r adwy dro ar ôl tro i wella cysylltedd digidol lle y gallwn, gan ddenu cyllid o'r UE a ffynonellau eraill i ofalu am fuddiannau dinasyddion a busnesau yng Nghymru.  Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gweithgarwch i wella'r ddarpariaeth band eang ledled Cymru.

Yn gyntaf, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein tasglu chwalu rhwystrau.  Mae'r tasglu, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant band eang a symudol, cyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, a'r rheoleiddiwr Ofcom, wedi canolbwyntio ar bum maes allweddol: cynllunio, rheoleiddio, asedau cyhoeddus, gwaith stryd a chyfathrebu.  Mae'r pum gweithgor a sefydlwyd gennym i archwilio'r materion hyn wedi cwblhau eu gwaith i nodi rhwystrau ac i gynnig atebion posibl i fynd i'r afael â'r rhwystrau hynny.  Bydd bwrdd y tasglu yn cyfarfod ym mis Gorffennaf i ystyried canfyddiadau'r gweithgor ac i wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.  Bwriadaf gyhoeddi eu hargymhellion pan fyddaf yn eu derbyn.

Yn ail, mae ein gwaith o gyflwyno ffibr llawn gydag Openreach wedi bod yn defnyddio band eang gigabit i gartrefi a busnesau dros y tair blynedd diwethaf yn erbyn cefndir anodd y pandemig a heriau eraill gan gynnwys sicrhau cytundeb gan landlordiaid a thirfeddianwyr i ddefnyddio ffibr ar dir ac mewn adeiladau. Hyd at ddiwedd mis Mawrth 2022, mae'r prosiect wedi darparu mynediad at fand eang gigabit i 29,959 o safleoedd a gynhwyswyd yn y broses o'i chyflwyno y cytunwyd arni. Yn ogystal â hyn, aethpwyd i'r afael â 4,382 o safleoedd eraill o ganlyniad uniongyrchol i broses gyflwyno wedi ei hariannu gan arian cyhoeddus, er nad oeddent wedi’u targedu gan y prosiect. Nid yw Llywodraeth Cymru yn ariannu'r safleoedd canlyniadol hyn ac felly rydym yn croesawu'r ffaith eu bod wedi’u cwblhau yn fawr.

O ystyried yr heriau sy'n wynebu'r prosiect, rydym bellach wedi dod i gytundeb ag Openreach i ymestyn y prosiect hyd at 31 Mawrth 2023 i sicrhau bod cymaint o safleoedd â phosibl yn gallu elwa. Nifer y safleoedd sydd i'w hadeiladu o dan y cyflwyniad y cytunwyd arno yw 37,137.  Er bod hyn ychydig yn is na'r 39,000 o safleoedd a ragwelwyd, rydym yn cydnabod bod nifer sylweddol o'r safleoedd a oedd wedi'u dad-gwmpasu eisoes wedi cael mynediad i fand eang gigabit o dan gynlluniau oedd yn cael eu harwain yn fasnachol. Yn ogystal, rydym yn cydnabod bod yn rhaid dad-gwmpasu rhai safleoedd lle'r oedd y costau gwirioneddol yn uwch na'r costau wedi'u modelu yr oedd Openreach wedi'u rhagweld yn wreiddiol, ac felly ni ellid eu cyfiawnhau o safbwynt gwerth am arian.

Fel yn achos y cyflwyno hyd yma, rydym yn hyderus iawn y bydd cyfanswm nifer y safleoedd a fydd yn elwa o'r prosiect mewn gwirionedd yn uwch na 39,000 o safleoedd pan fydd y cyflwyno'n cau ym mis Mawrth 2023 drwy safleoedd canlyniadol ychwanegol nad ydynt wedi'u contractio, gan ddarparu budd ychwanegol heb unrhyw gost ychwanegol i'r trethdalwr. Ar hyn o bryd rydym yn rhagweld y bydd cyfanswm nifer y safleoedd sy'n cael mynediad i fand eang gigabit drwy'r prosiect hwn yn debygol o fod tua 40,000 o safleoedd.

Yn olaf, hoffwn roi diweddariad byr ar gynllun grant Mynediad Band Eang Cymru. Yn dilyn argymhelliad gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn dilyn ei waith ar faterion seilwaith digidol, rydym wedi cynnal adolygiad o'r cynllun.  Tynnodd yr adolygiad sylw at nifer o argymhellion y mae fy swyddogion yn gweithio drwyddynt, a gobeithiaf allu dweud mwy cyn bo hir.  Fodd bynnag, bydd un newid pwysig i'r ffordd y mae'r cynllun yn gweithredu yn cael ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf.  Cyn bo hir, bydd ymgeiswyr yn gallu llenwi eu holl fanylion drwy broses ymgeisio ar-lein yn hytrach na gorfod llenwi ffurflen gais ac yna ei e-bostio i'r tîm. Bydd y broses ymgeisio newydd yn ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i wneud cais. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau unwaith y bydd y broses yn fyw.