Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rydym wedi ymrwymo i wella gwasanaethau a chanlyniadau i gleifion canser yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid sicrhau bod gan y GIG set o systemau digidol modern a dibynadwy sy’n ei alluogi i drin cleifion canser, ac sy’n galluogi ac yn gwella gofal integredig ar draws gwahanol dimau clinigol.

System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru yw’r system graidd sydd wedi bod ar waith ar draws Cymru. Mae’r system hon yn darparu’r cofnod triniaeth i gleifion canser, y system weinyddiaeth ar gyfer y cleifion yng Nghanolfan Ganser Felindre, a hon yw’r brif ffynhonnell ar gyfer data canser o ran amseroedd aros, archwiliadau clinigol, a chofnodi canser.

Mae’r System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru yn dod i’w diwedd fel system hyfyw gan nad yw’n bosibl ei diweddaru bellach mewn modd sy’n ei chadw’n gyfredol â’r newidiadau sy’n digwydd mewn arferion a phrosesau clinigol. Roedd Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Canser yn 2018 yn cynnwys cam gweithredu i ymchwilio i sut y gellid disodli’r system hon, ac o ganlyniad cyflwynwyd achos busnes i Lywodraeth Cymru ar gyfer datblygu System Gwybodaeth Canser newydd i Gymru.

Cytunodd Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £6.5 miliwn o’r Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol yn 2019 dros gyfnod o dair blwyddyn ariannol, gan weithio gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ac ymddiriedolaethau a byrddau iechyd i weithredu’r Rhaglen Gwybodeg Canser hon.  

Mae dwy elfen i’r Rhaglen Gwybodeg Canser:

  1. Gweithredu System Weinyddiaeth ar gyfer Cleifion Cymru a Phorth Clinigol Cymru fel y System Gwybodeg Canser newydd i Ganolfan Ganser Felindre. Canolfan Ganser Felindre oedd yr unig ysbyty yng Nghymru a oedd yn defnyddio System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru fel ei system weinyddu ar gyfer ei chleifion. Y System Weinyddiaeth ar gyfer Cleifion Cymru yw’r system ddigidol a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o ysbytai yng Nghymru i drefnu ymweliadau cleifion â chlinigau. Er mwyn cyflwyno System Gwybodaeth Canser newydd ar gyfer Cymru gyfan, roedd yn hanfodol bod gan Ganolfan Ganser Felindre ddull amgen o weinyddu ei chlinigau drwy ddefnyddio’r System Weinyddiaeth ar gyfer Cleifion Cymru.
  1. Datblygu’r brif swyddogaeth glinigol o fewn Porth Clinigol Cymru. Dyma’r system sy’n cynnwys cofnod y claf, gan gynnwys ei nodweddion a’r manylion am ei ganser, yn ogystal â’r driniaeth sydd wedi ei rhagnodi a’r canlyniadau a gafwyd.

Mae’n dda gennyf gyhoeddi bod Canolfan Ganser Felindre wedi llwyddo i symud o System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru i’r System Gwybodeg Canser ar 14 Tachwedd 2022. Mae hon yn gamp enfawr gan bawb sydd wedi cymryd rhan, a’r garreg filltir bwysig gyntaf ar gyfer y Rhaglen.

Mae hynny’n golygu bod y risgiau sy’n rhan gynhenid o’r system etifeddol wedi cael eu dileu, a bod y system ddigidol y mae Canolfan Ganser Felindre yn ei defnyddio i weinyddu clinigau a chofnodi data cleifion yn fwy diogel a dibynadwy. Mae hefyd yn golygu bod y cofnod gofal canser bellach yn bodoli mewn ffurf sydd wedi ei hintegreiddio’n effeithiol â systemau cenedlaethol eraill, a’i fod yn fwy gweladwy i glinigwyr ar draws Cymru sy’n darparu gofal i gleifion sy’n cael triniaeth yng Nghanolfan Ganser Felindre.

Mae’r datblygiad pwysig hwn wedi bod yn bosibl o ganlyniad i lefel ddigynsail o gydweithredu rhwng timau canser ledled Cymru i safoni sut y maent yn defnyddio data, ac i gytuno ar ryngwynebau digidol cyffredin. Mae wedi bod yn dasg heriol iawn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a chyrff eraill y GIG i gyflawni hyn oherwydd y pandemig. Rhaid talu teyrnged i waith caled pawb sydd wedi bod yn rhan o hyn. Mae’r llwyddiant hwn hefyd yn creu sail ar gyfer  darparu data sy’n dod yn fwyfwy safonol, cyfanredol, a hygyrch y gellir eu defnyddio i wella gwasanaethau a chanlyniadau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ac eto, wedi dweud hynny, rhaid nodi mai dim ond yn ei dyddiau cynnar y mae’r rhaglen hon.

Y camau nesaf fydd gweithredu swyddogaeth cofnod y claf ar gyfer holl dimau canser y byrddau iechyd er mwyn eu galluogi i symud o System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru a dechrau cadw data am gleifion a’u triniaeth yn y System Gwybodeg Canser newydd ar gyfer Cymru gyfan. Byddwn hefyd yn symud gwasanaethau gofal lliniarol a gwasanaethau sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru i’r system newydd, yn  ogystal â’r potensial i gyflwyno swyddogaeth newydd i wneud cais am radiotherapi i ganolfannau canser eraill. Yn ogystal â hynny, byddwn yn parhau i ddatblygu’r system i wella ei hawtomatiaeth a’i gallu i ddal data cynyddol benodol am bob math o ganser. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau bod timau clinigol ar wahanol bwyntiau ar hyd llwybr y claf yn meddu ar yr wybodaeth angenrheidiol, ac er mwyn i Gymru allu parhau i gymryd rhan yn yr archwiliad clinigol cenedlaethol ar gyfer mwy o fathau o ganser.

Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwireddu’r manteision sy’n deillio o’r datblygiad hwn yn llawn yn ystod y 18 mis nesaf, rwyf wedi cymeradwyo dyraniad o £2.9 miliwn pellach o’r Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol. Mae hynny’n dod â chyfanswm y buddsoddiad i £11 miliwn, a fydd yn sicrhau y bydd gan gleifion canser yng Nghymru, a thimau clinigol ar draws y wlad, gofnod clinigol modern sy’n addas ar gyfer ei ddiben.