Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw fe gyhoeddais yr adroddiad blynyddol cyntaf ar gyfer y cynllun Mwy na geiriau  2022-27.  Mae’r cynllun yn adeiladu ar y fframweithiau Mwy na geiriau blaenorol gyda’r nod o ddatblygu a chryfhau ymhellach darpariaeth Gymraeg yn ein gwasanaethau iechyd a gofal.

Pan fo unigolion yn defnyddio ac yn derbyn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae hynny’n aml pan font ar eu mwyaf bregus. Mae gallu cyfathrebu yn eich iaith eich hunain yn hanfodol ar adegau fel hyn.

Dengys ein cynllun Mwy na geiriau ein hymrwymiad i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd a’n nod yw bod hyn yn cael ei wreiddio led led Cymru fel y gall unigolion dderbyn gofal sy’n bodloni eu hanghenion ieithyddol heb orfod gofyn am hynny, gan arwain at ganlyniadau saffach a gwell.  Dyna egwyddor y Cynnig Rhagweithiol, elfen allweddol o’r cynllun.

Mae ein nodau yn uchelgeisiol, ac fe gymer amser i gryfhau gwasanaethau Cymraeg a dyna pam fod yna linell amser bum mlynedd i’n cynllun. Er hynny, wrth i mi gyflwyno’r adroddiad blynyddol heddiw rwy’n falch o’r cynnydd sydd wedi’i wneud a’r sylfeini cadarn sydd wedi’u gosod ar gyfer y dyfodol.

Fel y dengys yr adroddiad, mae yna enghreifftiau ardderchog o fentrau sydd ar y gweill i gryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd a gofal.

Er mwyn ein helpu i wireddu ein huchelgais sefydlais Fwrdd Cynghori Mwy na geiriau fis Awst diwethaf a fydd yn helpu i fonitro a chraffu ar gynnydd yn erbyn y cynllun. Bydd gwybodaeth, sgiliau a phrofiadau’r aelodau yn helpu i yrru’r gwaith o gyflawni’r cynllun yn ei flaen, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu gwaith hyd yma.

Mae diwylliant ac arweinyddiaeth yn ffactorau allweddol i sbarduno newid er mwyn sicrhau bod Mwy na geiriau yn cael ei weithredu’n llwyddiannus. Mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud yn y maes yma yn cynnwys pennu amcanion personol ar gyfer arweinwyr y GIG yng Nghymru; uwch-reolwyr yn cymryd rhan yn y rhaglen arweinyddiaeth Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog; a sicrhau fod Mwy na geiriau wedi bod yn eitem reolaidd yng nghyfarfodydd Bwrdd Arweinyddiaeth y GIG. 

Mae datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu yn elfen hanfodol o Mwy na geiriau. 

Rydym wedi cyflwyno cwrs ymwybyddiaeth iaith gorfodol i holl staff y gwasanaeth iechyd. O fewn yr ychydig fisoedd cyntaf o gyflwyno’r hyfforddiant roedd 65% o staff wedi cwblhau’r hyfforddiant. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn datblygu modiwl ymwybyddiaeth iaith ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.

Gall nifer sylweddol o’r staff sy’n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol siarad ychydig o Gymraeg, ond efallai nad ydynt wedi defnyddio’u Cymraeg am beth amser ac felly maent yn ddihyder i ddefnyddio’r iaith. Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu Rhaglen Dysgu Cymraeg ar gyfer Iechyd a Gofal er mwyn cefnogi’r cydweithwyr hyn i loywi eu sgiliau Cymraeg.

Rwyf hefyd yn falch o’r rheini yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi deall pwysigrwydd siarad Cymraeg gyda chleifion gan ddysgu’r iaith o’r cychwyn. Mae’r adroddiad yn cyfeirio’n benodol at Alison Cairns, enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni, sy’n defnyddio’i Chymraeg yn ei gwaith mewn gofal cymdeithasol a chafodd Manuela Niemetscheck, un o’r rhai gyrhaeddodd y rownd derfynol ac sy’n gweithio i’r gwasanaeth iechyd, ei hysbrydoli i ddysgu Cymraeg gan ei bod yn gweld pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg hefyd yn datblygu cwrs “cwrteisi” i gynyddu ymwybyddiaeth am yr effaith gadarnhaol y gall dysgu a defnyddio’r Gymraeg ei chael ar y rhai sy’n derbyn gofal. Bydd y cwrs newydd hwn yn helpu i sicrhau erbyn 2027 y bydd gan bob un o’r 200,000 o staff sy’n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol lefel cwrteisi o Gymraeg.

Er mwyn dathlu a rhannu’r mentrau hyn gydag eraill dechreuodd y gwaith yn 2022-23 ar greu porthol i gasglu a chyfathrebu enghreifftiau o arfer da. 

Mae gan dechnoleg rôl bwysig i’w chwarae o ran cynyddu’r rhyngweithio rhwng cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a phroffesiynolion. Dyna pam ein bod wedi sicrhau fod ap y GIG a gyflwynwyd yn ddiweddar, sy’n cynnwys ystod eang o nodweddion defnyddiol i helpu’r cyhoedd i ryngweithio gyda’r GIG, ar gael yn gwbl ddwyieithog.

Rydym yn gwybod bod angen i ni wella’r data yr ydym yn ei gasglu a’i ddal am y defnydd o’r Gymraeg a bod angen mwy o waith i sicrhau bod ein systemau ni yn gallu rhannu, cofnodi ac olrhain gwybodaeth gan gynnwys dewis iaith. Mae gwaith ar y gweill a fydd yn ein helpu ni i symud hyn yn ei flaen. 

Taith yw cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ac fe gyflawnwyd llawer yn y flwyddyn gyntaf er gwaetha’r heriau digynsail sy’n wynebu ein gwasanaethau. Rwy’n gwybod y bydd ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill led led Cymru yn parhau i ymateb i’r her o weithredu’r camau yn Mwy na geiriau. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu’r gofal sydd wedi’i ganolbwyntio ar yr unigolyn y mae siaradwyr Cymraeg yn ei haeddu.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.