Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Mae'r "ffordd Gymreig o drethu" yn ddull cydweithredol, seiliedig ar ymddiriedaeth, o ddelio â threth, a hyrwyddir gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC). Mae'n canolbwyntio ar gefnogi trethdalwyr i wneud pethau'n iawn y tro cyntaf, a chaiff ei arwain gan egwyddorion Cydweithio, Cadarnhau (er mwyn sicrwydd a chysondeb), a Chywiro (cywiro gwallau). Dyma'r ethos sydd wedi bod yn sail i gasglu a rheoli ein trethi datganoledig ers 2018.
Yn fy natganiad ysgrifenedig dyddiedig 10 Rhagfyr 2024, nodais fod yr OBR wedi cynyddu faint o refeniw Treth Trafodiadau Tir, 2025-26, a ragwelwyd ganddynt. Roedd y cynnydd hwn yn cynnwys £2.6m o dderbyniadau treth ychwanegol yn sgil buddsoddi adnoddau ychwanegol yn ACC.
Ar hyn o bryd mae ACC yn rhagweld erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon y byddant wedi casglu £2.5m yn fwy eleni na'r llynedd ac wedi diogelu £100,000 ychwanegol o dreth yn fwy na'r llynedd.
Mae hyn yn dangos bod y ffordd Gymreig o drethu yn gweithio. Drwy fuddsoddi mewn system sy'n seiliedig ar gydweithio, tryloywder ac ymgysylltu cynnar, rydym yn sicrhau canlyniadau tecach i drethdalwyr ac i Gymru gyfan.
Mae'r canlyniadau hyn hefyd yn tynnu sylw at werth buddsoddi parhaus yng ngallu chapasiti ACC. Bydd yr adnoddau ychwanegol y cytunwyd arnynt ar gyfer 2025/26 yn caniatáu i ACC barhau â'i waith i leihau risg treth, diogelu’r refeniw sy'n ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a hynny wrth gynnal y dull ataliol, seiliedig ar ymddiriedaeth, sy'n ganolog i'n system dreth ddatganoledig.
