Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiweddaru’r Aelodau ar y cynnydd yn y gwaith o baratoi Rheoliadau i wneud safonau’r Gymraeg yn benodol gymwys i’r sefydliadau yn ail ymchwiliad Safonau Comisiynydd y Gymraeg.

Agorodd y Comisiynydd yr ail ymchwiliad ar 17 Tachwedd 2014, a hynny mewn perthynas â 119 sefydliad (Atodiad A).  Daeth yr ymchwiliad i ben ar 6 Chwefror 2015, a chyflwynodd y Comisiynydd 9 adroddiad Safonau i Weinidogion Cymru ddiwedd Mai 2015.   Yn unol â Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, rydym wrthi’n rhoi sylw dyladwy i gasgliadau’r Comisiynydd. Byddaf yn cyhoeddi ymateb llawn i’w chasgliadau yn ystod tymor yr hydref 2015, ynghyd â amserlen ddiwygiedig.

Y bwriad yw cychwyn gosod Rheoliadau ar gyfer y cylch nesaf cyn diwedd 2015.