Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth mwy na £2.7 miliwn o gyllid er mwyn sicrhau bod dinasyddion yr UE yn gwneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) ac yn aros yng Nghymru. Mae’r cyllid hwn wedi cael ei ddefnyddio, ac yn parhau i gael ei ddefnyddio, i sicrhau bod holl ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru yn ymwybodol o’r cynllun a bod ganddynt fynediad at gyngor am ddim ar fewnfudo, ni waeth pa mor gymhleth yw’r achos. Yn ôl yn 2019, rhagwelwyd y byddai angen i tua 70,000 o ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yng Nghymru wneud cais ar gyfer EUSS, ond mewn gwirionedd ers i’r cymorth ddechrau yn 2019 mae bron i 112,000 o geisiadau wedi cael eu gwneud ac mae nifer wedi gwneud hynny gyda chymorth un o’n partneriaid a ariennir.

Mae’r cymorth hyd yma, a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid a ariennir, megis Newfields Law, Settled a Chyngor ar Bopeth, wedi cael ei ddisgrifio fel arwydd clir bod dinasyddion yr UE yn parhau i gael croeso yng Nghymru ar ôl Brexit. Mae dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn cyfoethogi ein cymunedau ac yn cyfrannu at ein llwyddiant economaidd. Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod dinasyddion sydd wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru’n parhau i deimlo’n aelodau gwerthfawr o’n cymunedau.

Ers 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu gwerth mwy na £2.7 miliwn o gyllid er mwyn sicrhau bod dinasyddion yr UE yn gwneud cais ar gyfer Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) ac yn aros yng Nghymru. Mae’r cyllid hwn wedi cael ei ddefnyddio, ac yn parhau i gael ei ddefnyddio, i sicrhau bod holl ddinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru yn ymwybodol o’r cynllun a bod ganddynt fynediad at gyngor am ddim ar fewnfudo, ni waeth pa mor gymhleth yw’r achos. Yn ôl yn 2019, rhagwelwyd y byddai angen i tua 70,000 o ddinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yng Nghymru wneud cais ar gyfer EUSS, ond mewn gwirionedd ers i’r cymorth ddechrau yn 2019 mae bron i 112,000 o geisiadau wedi cael eu gwneud ac mae nifer wedi gwneud hynny gyda chymorth un o’n partneriaid a ariennir.

Rwy’n falch o gyhoeddi y bydd £200 mil ychwanegol yn cael ei roi i Gyngor ar Bopeth a Settled er mwyn iddynt barhau i ddarparu’r cymorth hwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Bydd cytundeb Newfields Law hefyd yn cael ei ymestyn am 6 mis ychwanegol er mwyn eu galluogi i gefnogi’r sector iechyd a gofal cymdeithasol gyda threfniadau recriwtio o dramor, a bydd yn cynnwys cymorth pellach ar gyfer ceisiadau EUSS.

Gobeithio y bydd dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystyried y cymorth pellach hwn yn ymrwymiad i ethos Llywodraeth Cymru o sicrhau bod Cymru yn noddfa, ac mae’n rhaid bachu ar y cyfle hwn i fyfyrio ar y gwaith gwych a gyflawnwyd yma yng Nghymru.

Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cael sylwadau gan Ddirprwyaeth yr Undeb Ewropeaidd i’r Deyrnas Unedig, a chan aelodau o Bwyllgor Economaidd a Chymdeithasol yr UE a ymwelodd â’r DU, yn diolch am y cymorth hael a roddwyd er mwyn galluogi dinasyddion yr UE i barhau i breswylio yng Nghymru.

Hoffwn ddiolch i’n partneriaid a ariennir a phob partner arall sy’n cynnig cymorth i wladolion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yma yng Nghymru.