Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n cyhoeddi’r datganiad hwn er mwyn sicrhau bod Aelodau’n ymwybodol o’r ymrwymiad i gyflawni Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn cant y cant ar gyfer pob bwrdd iechyd , ac i gryfhau’r mandad i gefnogi’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau yn y maes hwn. Rwy’n disgwyl i fyrddau iechyd gyflawni cant y cant erbyn mis Medi 2024.

Mae gwasanaeth cyswllt toresgyrn yn sicrhau bod cleifion 50 oed a hŷn sydd wedi torri asgwrn ar ôl cwympo yn cael gwiriad o iechyd eu hesgyrn a’u risg o gwympo, a bod hyn yn cael ei reoli er mwyn lleihau’r risg o dorri asgwrn eto. Mae gwasanaethau cyswllt toresgyrn, sy’n cynnwys tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, yn cynnig buddion amlwg i’r claf yn yr hirdymor. Dangoswyd hefyd eu bod yn effeithiol yn glinigol ac yn gost-effeithiol.

Ar ddechrau 2022, ymchwiliodd swyddogion i ddarpariaeth gwasanaethau cyswllt toresgyrn. Dangosodd y data hyn amrywiad sylweddol a lle i wella. Ynghyd ag ymgyrchoedd cryf gan y trydydd sector a chleifion, arweiniodd hyn at gynnal cynhadledd gyntaf Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn Cymru ar 20 Hydref 2022. Daeth y gynhadledd â mwy na 150 o glinigwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt ynghyd i hyrwyddo iechyd esgyrn ac i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith o reoli toriadau dilynol o esgyrn brau. Gwnaeth y gynhadledd hefyd lansio Grŵp Sicrwydd a Datblygu Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn Cymru Gyfan yn ffurfiol.

Cafodd grŵp Sicrwydd a Datblygu Gwasanaeth Cyswllt Toresgyrn Cymru Gyfan ei sefydlu er mwyn helpu byrddau iechyd i gyflawni buddion yn glinigol ac yn ariannol. Cynhaliodd y grŵp ei gyfarfod cyntaf ar ddiwedd mis Hydref ac i ddechrau mae’n gweithio i hyrwyddo ac annog byrddau iechyd i gyfrannu at archwiliad cenedlaethol o’r Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn. Gwneir hyn er mwyn darparu llinell sylfaen fanwl gywir i’r grŵp sicrwydd a darparwyr yr archwiliad i weithio gyda hi.

Mae’r Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Cwympiadau ac Eiddilwch yn cefnogi pob bwrdd iechyd drwy gyfres o ymweliadau. Ei nod yw darparu cyngor penodol a deall y rhwystrau lleol sy’n atal cynnydd. Mae’r Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol hefyd wedi cael gwahoddiad i ddod i’r ymweliadau hyn i rannu ei chyngor a’i myfyrdodau amhrisiadwy.

Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd berchnogi'r gwasanaethau hyn a defnyddio'r cyllid sydd eisoes ar gael iddyn nhw. Mae rhagamcanion gan y Gymdeithas Osteoporosis Frenhinol yn nodi y byddent yn arbed arian drwy wneud hynny.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn parhau i ariannu cyfranogiad yn y rhaglen archwiliadau clinigol cenedlaethol, sy'n cynnwys y Gronfa Ddata Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn. Mae'r gronfa ddata yn rhoi'r data a'r naratif i ni ynglŷn â Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn yng Nghymru. Mae'n meincnodi cynnydd yn erbyn ardaloedd eraill o fewn y Deyrnas Unedig ac mae'n hanfodol er mwyn ein helpu i bennu ein dull cenedlaethol o sicrhau bod Gwasanaethau Cyswllt Toresgyrn yn cael eu datblygu ledled Cymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.