Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cynorthwywyr addysgu yn ran annatod o'n gweithlu addysg, yn darparu cymorth hanfodol i’n plant a’n pobl ifanc o ddydd i ddydd. Mae ganddynt rôl hollbwysig i'w chwarae o ran helpu i ymdrin ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a gwireddu ein huchelgeisiau cyffredin ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Mae cynorthwywyr addysgu wedi tynnu sylw ers tro at bryderon mewn perthynas â'u rolau mewn ysgolion, yn amrywio o fynediad i hyfforddiant, defnydd, a thelerau ac amodau. Fel rhan o'm hymrwymiad i gefnogi gwaith hanfodol ein cynorthwywyr addysgu, mae gwaith yn mynd rhagddo i ymateb i’r pryderon hyn gyda'n partneriaid cymdeithasol gan gynnwys yr undebau llafur addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol.

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen, sydd hefyd yn cynnwys cynorthwywyr addysgu a chynrychiolwyr penaethiaid, wedi nodi sawl maes allweddol i roi sylw iddynt:

  • y defnydd a wneir o gynorthwywyr addysgu;
  • mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol;
  • safoni rolau;
  • cyflog, fel ystyriaeth tymor hwy i awdurdodau lleol yn seiliedig ar y canlyniadau a gyflawnwyd uchod.

Bydd fy swyddogion yn parhau â’r gwaith sydd ar y gweill gyda’n partneriaid yn ystod y misoedd nesaf i nodi’r ffordd gorau i wneud gwelliannau yn y meysydd hyn. Mae’n galonogol i mi bod cynnydd eisoes yn cael ei wneud.

Y defnydd a wneir o gynorthwywyr addysgu

Mae canllawiau ar ddefnydd priodol o gynorthwywyr addysgu mewn ysgolion eisoes wedi’u darparu i arweinwyr ysgol drwy Hwb. Fodd bynnag, bydd cyngor ac arweiniad pellach yn rhan o gynnig dysgu proffesiynol bywiog sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar y cyd â rhanddeiliaid.

Mae Grŵp Llywio Dysgu Proffesiynol Cynorthwywyr Addysgu newydd yn datblygu adnoddau ar gyfer arweinwyr a Llywodraethwyr ar y defnydd a wneir o gynorthwywyr addysgu. Bydd y pecyn dysgu proffesiynol hwn, a ddatblygwyd ar y cyd gyda penaethiaid, cynorthwywyr addysgu a staff rhanbarthol, ar gael i arweinwyr a Llywodraethwyr ar gyfer dysgu cydamserol byw ac o bell.

Rwyf hefyd bellach wedi cytuno i ariannu prosiect ymchwil cymharol i edrych ar y defnydd o gynorthwywyr addysgu mewn systemau addysg eraill, i lywio datblygiadau yn y dyfodol mewn canllawiau yn y maes hwn.

Mynediad at hyfforddiant a datblygiad proffesiynol

Ers 2017, mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r Consortia Rhanbarthol, wedi cefnogi datblygiad Llwybr Dysgu Cynorthwywyr Addysgu (TALP) er mwyn cynyddu nifer ymgeiswyr Cynorthwywyr Addysgu Lefel Uwch, a darparu hyfforddiant i bob cynorthwyydd addysgu newydd, a chynnig cyfleoedd i ennill cymwysterau
lefel 2 mewn rhai pynciau craidd.

Yn fwy diweddar, ers ei sefydlu, mae’r Grŵp Llywio hefyd bellach wedi bod yn nodi bylchau yn y ddarpariaeth o ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant i gynorthwywyr addysgu eu hunain gyda’r nod o sicrhau mynediad cyfartal at hyfforddiant cyson, o ansawdd uchel, wedi’i dargedu.

O fis Medi 2022, bydd cynorthwywyr addysgu yn cael mynediad at Hawl Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol newydd i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru, a fydd ar gael yn hawdd drwy Hwb. Bydd yr Hawl yn gwella mynediad at y cynnig dysgu proffesiynol cenedlaethol ar gyfer arweinwyr ysgol, athrawon a chynorthwywyr addysgu. Mae egwyddorion craidd yr Hawl yn cael eu datblygu ar y cyd â phartneriaid haen ganol ar hyn o bryd. Gobeithiaf allu darparu rhagor o wybodaeth am gynnwys tebygol yr Hawl cyn toriad y Pasg.

Rhan bwysig o’r cynnig dysgu proffesiynol hwn fydd sicrhau y gall penaethiaid, athrawon a chynorthwywyr addysgu ddatblygu ochr yn ochr â’i gilydd, er mwyn cynyddu’r broses o ddatblygu syniadau a dealltwriaeth ar y cyd.

Mae meysydd eraill sy'n cael eu harchwilio ar hyn o bryd yn cynnwys pennu gofynion cymwysterau sylfaenol ar gyfer cynorthwywyr addysgu, a datblygu llwybr gyrfa hyblyg ymhellach ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Gobeithiaf allu darparu diweddariadau pellach ar gynnydd yn y maes hwn cyn diwedd tymor yr haf.

Safoni rolau

Un o'r materion allweddol rydym wedi cael adborth arno yw safoni rolau Cynorthwywyr Addysgu ledled Cymru. Mae hwn yn faes yr wyf wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag ef. Bydd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen bellach yn mynd ati i edrych ar y maes hwn, a bydd yn penderfynu a ellir gweithredu set safonol o ddisgrifiadau swydd ledled Cymru a sut.

Mae hwn yn fater cymhleth, ond gobeithiaf y gallwn gymryd camau i sicrhau mwy o eglurder a chysondeb yn y rolau a gyflawnir. Er mwyn cefnogi’r prosiect hwn mae’n bleser gennyf ddweud fy mod wedi cytuno i ariannu pecyn o weithgarwch ymchwil, i lywio gwaith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn seiliedig ar brofiad o bob rhan o Gymru a mannau eraill ac i ddarparu sylfaen gadarn o dystiolaeth ar gyfer eu hadolygiad.

Cyflog

Mae cyflog hefyd wedi'i godi gan gynorthwywyr addysgu fel maes y mae angen rhoi sylw iddo, gan gynnwys cysondeb o fewn ac ar draws awdurdodau lleol. Rwy’n ymwybodol bod strwythurau cyflog gwahanol ar waith ledled Cymru, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru'r gallu i bennu cyflogau ac amodau ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol a / neu ysgolion yw hyn o hyd, ac mae gan awdurdodau unigol ddulliau gwahanol yn eu fframweithiau cyflog lleol i adlewyrchu ystyriaethau lleol. Fodd bynnag, gall y gwaith ar y defnydd a wneir a safoni ar gyfer y rolau y cyfeirir ato uchod ddod â mwy o gydlyniad i gefnogi trafodaethau cyflog, i weithio tuag at fwy o gysondeb rhwng ardaloedd awdurdodau lleol ac i gefnogi awdurdodau lleol i adlewyrchu’r rôl bwysig y mae cynorthwywyr addysgu yn ei chwarae, yn eu termau ac amodau

Llesiant

Mae llesiant y gweithlu addysg yn hollbwysig. Rwyf wedi comisiynu Education Support (darparwr arbenigol o adnoddau llesiant a chymorth i’r gweithlu addysg) i archwilio a datblygu pecyn pwrpasol o gymorth llesiant ar gyfer cynorthwywyr addysgu. Bydd y pecyn yn cael ei ddatblygu ar y cyd â chynorthwywyr addysgu gan ystyried eu profiadau a’u gofynion cymorth penodol. Gobeithiaf fod mewn sefyllfa i gyflwyno’r cymorth hwn mewn ysgolion yn y dyfodol agos.

Cynrychiolaeth corff llywodraethu

Yn olaf, byddaf yn ysgrifennu at yr holl Gyrff Llywodraethu ledled Cymru yn argymell eu bod yn neilltuo rôl 'Hyrwyddwr Cynorthwywyr Addysgu' i un o'u haelodau, gyda chyfrifoldeb i sicrhau y ceisir persbectif a mewnbwn cynorthwywyr addysgu a'u cynnwys wrth wneud penderfyniadau allweddol o fewn yr ysgol, ac i arwain ar y Corff Llywodraethol mewn perthynas â defnydd cynorthwywyr addysgu, hyfforddiant a lles. Wrth wneud hynny, bydd yn darparu ar gyfer cynrychiolaeth cynorthwywyr addysgu o fewn Cyrff Llywodraethu a deallaf o fy nhrafodaethau â’r proffesiwn y byddai hwn yn gam pwysig a groesawir ac yn arwydd cryf.

Rwy’n gobeithio bod y mesurau a amlinellir yn y datganiad hwn yn rhoi sicrwydd i gynorthwywyr addysgu ledled Cymru o’r pwys yr wyf yn ei roi ar y gwaith hanfodol a wnânt i gefnogi dysgwyr, a’m hymrwymiad i geisio mynd i'r afael â'u pryderon. Rwy’n hyderus y bydd y gwaith sydd eisoes ar y gweill yn gwneud gwahaniaeth, ac mae’n arbennig o galonogol bod y gwaith hwn yn cael ei wneud drwy weithio mewn partneriaeth, gyda chydweithio rhwng chyflogwyr, staff, undebau llafur a swyddogion Llywodraeth Cymru. Y math hwn o gydweithio a fydd, yn fy marn i, yn arwain at welliannau cynaliadwy.