Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod chweched tymor y Senedd, rydyn ni wedi rhoi lleihau gwastraff a mynd i’r afael â llygredd plastig wrth wraidd ein polisïau. Ers datganoli, mae Cymru wedi trawsnewid o fod yn wlad a oedd yn ailgylchu llai na 5% o'i gwastraff trefol – i fod yn ail yn y byd am ailgylchu gwastraff domestig. Mae ein cyflawniadau’n dangos pa mor benderfynol ydyn ni.

Mae Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023 ('Ddeddf SUPP') eisoes wedi cyfyngu ar werthu nifer o gynhyrchion plastig untro sy'n cael eu taflu yn aml, gan gynnwys gwellt, cytleri a ffyn cotwm. O 18 Rhagfyr 2026, bydd Deddf SUPP hefyd yn cyfyngu ar gyflenwi weips gwlyb sy'n cynnwys plastig. Rydyn ni hefyd wedi cymryd camau penderfynol ynghylch fêps untro, gan ymateb i'r niwed amgylcheddol sylweddol y maen nhw'n ei achosi drwy weithio gyda llywodraethau eraill y DU i wahardd eu cyflenwi o fis Mehefin y llynedd.

Rydyn ni wedi gweithio'n gyson ac yn agos gyda gwledydd eraill y DU i ddod o hyd i ffordd gyson i fynd i'r afael â'r difrod amgylcheddol mae llygredd plastig yn ei achosi. Mae'r dull hwn wedi adlewyrchu ein penderfyniad hirdymor i weithio ar y cyd â llywodraethau eraill y DU, gan gynnwys drwy Fframweithiau Cyffredin lle mae gwahaniaethau polisi'n cael eu parchu.

Roedd adolygiad Llywodraeth y DU o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 (UKIMA) yn cynnwys ymrwymiadau i wneud y Fframweithiau Cyffredin yn fecanwaith allweddol i gytuno ar gydweithredu ar bolisi a rheoli gwahaniaethau, ac i UKIMA gael ei rhoi  yn y cefndir. Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio ar y cyd drwy'r brosesau Fframwaith Cyffredin i gytuno ar waharddiad y UKIMA sydd ei angen ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Mae hyn yn golygu nad yw bellach yn hyfyw cytuno ar waharddiad o dan y UKIMA, a deddfu yn ei gylch, mewn pryd i weithredu'r 'Gwaharddiadau Cam 2' sy'n weddill yn nhymor hwn y Senedd. Rydyn ni eisoes wedi dechrau gweithio gyda llywodraethau eraill y DU yn y Fframweithiau Cyffredin ar gynnig ar gyfer Gwaharddiad y UKIMA. Rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i wahardd caeadau polystyren ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion bwyd tecawê, bagiau siopa plastig untro neu gynhyrchion wedi’u gwneud o blastig ocso-ddiraddiadwy, ac yn gweithio tuag at wneud hyn gyn gynted ag y bo modd. 

Drwy gael gwared ar gynhyrchion untro diangen, rydyn ni'n annog newid ymddygiad parhaol sy'n cefnogi'r trawsnewidiad i economi fwy cylchol. Rydyn ni'n cyflawni ein huchelgais i gefnu ar  ddiwylliant taflu, gan greu Cymru fwy cynaliadwy, un y byddwn yn falch o'i throsglwyddo i genedlaethau'r dyfodol.