Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis diwethaf, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am ein datblygiadau o ran cyflawni ein Rhaglen Ddatgarboneiddio.  Mae’r Rhaglen hyd at fis Mawrth 2019 yn canolbwyntio ar gyflawni gofynion y Ddeddf sef:

• Diffinio pa allyriadau sy'n cael eu cynnwys yn ein cyfrif yng Nghymru;
• Gosod y llwybr datgarboneiddio yng Nghymru, gan gynnwys gosod y targedau dros dro (ar gyfer 2020, 2030 a 2040) a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf (ar gyfer 2016-2020 a 2021-25)  
• Pennu sut y byddwn yn cyrraedd ein targedau gostwng allyriadau, trwy ein Cynllun Cyflawni ar y cyd sy'n cynnwys y gyllideb garbon gyntaf (2016-2020).

Ym mis Rhagfyr 2016, cynhaliodd Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd (UKCCC), ein Corff Cynghori Annibynnol, gais am dystiolaeth, gan holi barn rhanddeiliaid pa allyriadau y dylid eu cyfrif a’n dull o’u cyfri yng Nghymru.  Hyrwyddodd Llywodraeth Cymru yr alwad hon am dystiolaeth gan gynnal digwyddiad ar y cyd i randdeiliaid gyda’r UKCCC ym mis Ionawr.

Ym mis Ebrill 2017 rhoddodd yr UKCCC gyngor imi ar gyfrifo allyriadau yng Nghymru a hoffwn ddiolch i randdeiliaid am eu mewnbwn.  Cynhelais werthusiad o’u cyngor yn ogystal â thystiolaeth ehangach, ac rwyf wedi trafod hyn gyda’m cydweithwyr yn y Cabinet.  O ganlyniad gallaf gadarnhau ein bod yn bwriadu cytuno gyda holl argymhellion y Corff Cynghori yng Nghymru, sef:

Cyfri pob un o’r allyriadau yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hynny o’r allyrwyr mwyaf, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu o dan Gynllun Masnachu Allyriadau yr UE.  Nid ydym yn bwriadu defnyddio unrhyw ddulliau cymhleth na rhoi uchafswm fel ardaloedd erailld.  Rydym yn credu mai cynnwys cyfanswm yr allyriadau yw’r dull mwyaf tryloyw a symlaf o gyfrif allyriadau.  Rydym yn cydnabod nad oes gennym dulliau gweithredu ar gyfer pob un o’n hallyriadau ond fel rhan o’n Cynllun Cyflenwi, fydd yn pennu y newid i economi garbon isel, byddwn yn galw ar eraill, fel Llywodraeth y DU, i weithredu ble y bo angen.

Cynnwys allyriadau o hedfa a morgludiant rhyngwladol. Er nad yw hedfan a morgludiant wedi ei ddatganoli i Gymru, rydym yn sylweddoli bod gennym gyfrifoldeb byd-eang i gynnwys pob allyriad yn ein fframwaith cyllido.  Rydym felly yn cytuno gyda’r argymhelliad i gynnwys gwerthiant tanwydd ar gyfer morgludiant a hefyd cytuno y dylid cymryd camau priodol ar lefel byd-eang neu yr UE yn hytrach nag ar lefel Cymru yn unig, a allai arwain at ganlyniadau nas bwriadwyd.    

Caniatâu swm cyfyngedig ar gyfer gwrthbwyso rhyngwladol.  Er ein bod yn canolbwyntio ar ddatblygu’r camau yng Nghymru, rydym yn cydnabod, os ydynt yn cynnwys pob un o’r allyriadau o fewn ein fframwaith – gan gynnwys y meysydd hynny ble mae ein pwerau wedi’u cyfyngu – efallai y bydd angen rhywfaint o hyblygrwydd drwy ddefnyddio gwrthbwyso i helpu i reoli’r amgylchiadau hynny na ragwelwyd.  Rydym felly yn cytuno â’r argymhelliad gan yr UKCCC i ddilyn y dull sy’n cael ei ddefnyddio yn y DU a’r Alban trwy ganiatâu graddfeydd o wrthbwyso.  Nid yw gwrthbwyso yn dod yn lle lleihau allyriadau ond bydd yn cael ei ystyried fel yr ateb olaf.  

Yng Nghymru, mae gennym gyfrifoldeb byd-eang drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.  Os ydym i ddefnyddio gwrthbwyso fel yr ateb olaf, byddem am sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn cynlluniau credadwy a dibynadwy mewn gwledydd sy’n datblygu, fydd nid yn unig yn gallu lleihau allyriadau ond yn cefnogi manteision ehangach.  Dyna pam yr ydym yn cytuno gydag argymhelliad UKCCC a dim ond yn edrych ar wrthbwyso ar y cychwyn fel rhan o Fecanwaith Marchnad Gydymffurfio.  Wrth fynd ymlaen, byddai’n bosibl defnyddio  cynlluniau eraill, megis rhaglen Cymru dros Affrica.  Mae’r cyllid nid yn unig yn helpu i leihau allyriadau ond mae’n rhoi coed i gymunedau, sy’n helpu i ddarparu bwyd, ac yn sefydlogi’r pridd i leihau dŵr sy’n llifo a thirlithriadau.    

Gyda’i gilydd, bydd y penderfyniadau hyn yn garreg filltir bwysig wrth sefydlu fframwaith ar gyfer Cymru sydd wedi’i datgarboneiddio.  Maent yn rhoi sylfaen i osod targedau dros dro a chyllidebau carbon.  I gynnal y broses hon, rwyf wedi comisiynu UKCCC i roi cyngor imi ar bennu targedau a chyllidebau ble y maent yn gweld cyfleoedd i Gymru ddatgarboneiddio.  Byddant yn cyhoeddi Cais am Dystiolaeth o’r 6 Gorffennaf tan 11 Medi 2017 a byddwn yn cynnal 2 ddigwyddiad rhanddeiliaid yng Ngogledd a De Cymru.  Rwy’n gofyn i’r rhanddeiliaid roi mewnbwn i’r Alwad, i sicrhau ein bod yn derbyn cyngor sy’n benodol i Gymru.  

Rwyf hefyd yn sylweddoli bod angen inni ddechrau gweithredu nawr.  Cynhaliwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweinidogol Datgarboneiddio cyntaf yn ddiweddar ac un o’r meysydd yr ydym wedi cytuno i weithredu arno ar y cyd yw Datgarboneiddio’r Sector Cyhoeddus.     Er mai dim ond ychydig o allyriadau Cymru, tua 1% ar hyn o bryd, y mae’r Sector Cyhoeddus yn gyfrifol amdanynt, mae angen arweiniad ar lefel genedlaethol a lleol i gyrraedd y lefel o ddatgarboneiddio sydd ei angen.  Mae’r Sector Cyhoeddus mewn sefyllfa unigryw nid yn unig i sicrhau bod eu hadeiladau’n effeithlon, ond hefyd i ddylanwadu ar allyriadau mewn dull llawer ehangach trwy gyflawni gwasanaethau, caffael nwyddau a gwasanaethau a dylanwadu ar weithredu trwy gymunedau lleol.  

Ein huchelgais cyffredinol yw y bydd y Sector Cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030.  Fodd bynnag, o fewn yr uchelgais hwn mae dewisiadau i’w gwneud.  Byddwn yn lansio Cais am Dystiolaeth fydd yn edrych ar y dewisiadau hynny, o ran y diffiniad o’r Sector Cyhoeddus, pa allyriadau sydd i’w cyfri; y diffiniad o garbon niwtral a sut y bydd yr uchelgais yn cael ei fonitro a’i nodi.  Hoffwn annog rhanddeiliaid i ymateb i’r cais pwysig hwn.

https://www.theccc.org.uk/consultations/