Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’n hymrwymiad i roi cefnogaeth i ddatblygu Banc Cymunedol wedi ei ysgogi gan y ffaith ein bod yn credu y byddwn fel gwlad, cymunedau ac unigolion, yn elwa o gael corff ariannol sy’n gwasanaethu cymunedau Cymru, sy’n eiddo i aelodau yng Nghymru, y mae ei benderfyniadau pwysica’n cael eu gwneud yng Nghymru, ac sy’n rhoi blaenoriaeth i gynnig gwasanaeth yn y ddwy iaith mewn mannau hygyrch i bobl Cymru.

Nid oes gan Lywodraeth Cymru y pwerau datganoledig i greu Banc Cymunedol ei hun, felly rydym wedi mynd ati i weithio gyda’r sector a chydag arbenigwyr perthnasol, gan lunio gweledigaeth ar gyfer banc cymunedol yn y dyfodol a gweithredu fel catalydd ar gyfer newid. Rydym wedi cefnogi gwaith cymdeithas gydweithredol Cambria Cydfuddiannol Limited (CCL) a sefydlwyd i ystyried ymarferoldeb sefydlu Banc Cymunedol i Gymru, ac yn sgil hynny, yn 2021 camodd Monmouthshire Building Society (MBS) ymlaen gyda’r weledigaeth a’r ymrwymiad ar gyfer sefydlu banc cymunedol.

Yn fy natganiad ym mis Chwefror, dywedais fod Monmouthshire Building Society yn ystyried ei dulliau a’r amserlen berthnasol ar gyfer cyflawni fesul cam, yng nghyd-destun yr ansicrwydd economaidd sydd ohoni. 

Cefais gyfarfod â phennaeth MBS a chynrychiolydd eu Bwrdd yn gynharach yr wythnos hon a chefais wybod y bydd MBS, yn sgil yr amodau marchnad sydd bellach wedi newid, yn cynnal adolygiad strategol o’i dull gweithredu o ran darparu gwasanaethau bancio cymunedol. Mae amodau economaidd yn effeithio ar y farchnad forgeisi a bydd effaith hynny yn ymestyn y tu hwnt i’r tymor byr. O’r herwydd, mae MBS wedi cadarnhad nad yw’n credu bod y rhagolygon yn addas ar gyfer lansio banc cymunedol sy’n hyfyw yn economaidd ar hyn o bryd.

O ganlyniad i hynny, mae MBS wedi cadarnhau ei bod yn rhoi’r gorau i’w phrosiect cyfredol, a bydd unrhyw gynnig bancio cymunedol yn y dyfodol yn cael ei lywio gan ei hadolygiad nesaf. Mater i MBS yw rhoi gwybod i’w holl bartneriaid ynghylch ei dull gweithredu yn y dyfodol ac amserlenni cysylltiedig unwaith y bydd y gwaith hwn wedi ei gwblhau. Nid yw MBS yn disgwyl y bydd hyn yn digwydd yn ystod tymor y Senedd hon.

Er bod y newyddion hyn yn amlwg yn siomedig, sefydliad annibynnol a masnachol yw Monmouthshire Building Society, sydd wedi buddsoddi yn sylweddol yn ei gwaith ar fancio cymunedol hyd yma. Nid yw MBS wedi cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth Cymru, a mater i’r gymdeithas ei hun yw dod i ganlyniad ar y mater hwn a symud ymlaen yn unol â hynny.

Mae cyllid yn sector sy’n cael ei reoleiddio’n dynn, a bydd cynigion newydd gan unrhyw gorff yn destun craffu gan yr Awdurdod Rheoli Darbodus a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Yn wir, er gwaethaf ymdrechion niferus cyrff gwahanol o bob rhan o’r DU i sefydlu banc cymunedol, nid oes yr un ohonynt eto wedi llwyddo.

Mae ein gweledigaeth yn aros fel yr oedd – i ddatblygu gwasanaethau bancio cymunedol yng Nghymru, fydd yn ychwanegu gwerth a dewis yn y maes cyllid ac yn helpu’r gymuned i fagu cyfoeth. Mae Llywodraeth Cymru felly yn parhau’n agored i weithio’n adeiladol gyda’r sector er mwyn archwilio opsiynau a chyfleoedd a byddwn yn parhau i drafod yn weithredol â CCL yn hyn o beth.

Yn ddealladwy, mae dyheadau ynglŷn â Banc Cymunedol wedi eu sbarduno gan fanciau’n cau a’r set o heriau a ffactorau ehangach sy’n effeithio ar fywyd y stryd fawr a chymunedau.  Er ein bod o’r farn y dylai banc cymunedol chwarae ei ran i ddatrys yr heriau hyn, nid oes un ateb syml. Er bod mentrau newydd fel hybiau bancio yn cynnig rhyw gysur a’r posibilrwydd o ryw wasanaeth wyneb yn wyneb rhwng banciau a chymunedau, y gwir yw mai dim ond nawr y mae’r rheini’n raddol ymddangos a’u bod eisoes lawer yn rhy hwyr i’r rheini sy’n teimlo’r anghyfleustra ac wedi’u siomi neu eu gadael ar ôl. Gallai Bil Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol Llywodraeth y DU arwain at ddeddfwriaeth fydd yn rhwystro’r ‘banc olaf yn y dref’ rhag codi pac – ond mesur dros dro fyddai hynny. Nid ydym yn credu bod mesur o’r fath yn dderbyniol. Rydym ni, yn Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i ddatblygu atebion blaengar i’r heriau cymhleth hyn.

Rwy’n croesawu gwaith Link sy’n gweithio gyda’r Banciau i greu Hybiau bancio newydd sy’n gysylltiedig â rhwydwaith y Swyddfa Bost ac o’m rhan ninnau, rydym yn annog bod Undebau Credyd yn rhan o’r Hybiau hyn, fel eu bod yn cynnig cyfleusterau credyd a benthyca i gymunedau.

Mae Llywodraeth Cymru’n dal i gefnogi 13 o brosiectau gydag Undebau Credyd, sy’n chwarae rhan mor bwysig ym mywydau ariannol eu haelodau a’u cymunedau, mae hyn yn cynnwys eu cefnogi i gyrraedd i mewn i gymunedau drwy hybiau a lleoliadau estyn allan.

Mae rhaglen cynhwysiant digidol Llywodraeth Cymru, Cymunedau Digidol Cymru, eisoes yn gweithio gyda sefydliadau ledled Cymru i arfogi pobl â’r cymhelliant, y mynediad, y sgiliau a’r hyder er mwyn ymgysylltu â byd sy’n dod yn fwyfwy digidol, gan gynnwys gwasanaethau bancio ar-lein, yn seiliedig ar eu hanghenion.

Er mwyn gallu cynnal arfarniad cadarn a gwybodus o anghenion mewn cyd-destun sy’n newid yn gyflym, ac yn unol ag egwyddorion Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol, rwy’n gweithio gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip i ddatblygu a threfnu cronfa o dystiolaeth holistaidd yng Nghymru fydd yn hanfodol i’r llywodraeth ac eraill allu penderfynu ar eu camau yn y dyfodol.

Nid yw’r ffordd tuag at fancio cymunedol yng Nghymru yn un hawdd, ond nid yw ar ben. Rydym yn parhau i weithio â CCL a sefydliadau a chyrff allweddol yng Nghymru er mwyn archwilio’r holl opsiynau o safbwynt creu banc cymunedol yng Nghymru sy’n cyd-fynd â’n dyheadau, ac anghenion cymunedau a busnesau.