Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy niweddariad ichi neithiwr ynglŷn â'r adolygiad o'r cyfyngiadau lleol a gyflwynwyd bythefnos yn ôl ym mwrdeistref Caerffili, hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ganlyniad yr adolygiad ffurfiol o'r cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf a'r sefyllfa sy'n datblygu ledled Cymru.

Yn Rhondda Cynon Taf, mae’r achosion wedi parhau i gynyddu. Mae hyn i'w ddisgwyl – gallai gymryd pythefnos neu fwy cyn cyrraedd yr uchafbwynt, oherwydd yr amser rhwng dal yr haint a dechrau'r symptomau. Bydd y cyfyngiadau'n parhau, felly, a byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa yn ofalus.

Mae’r achosion yn parhau i gynyddu hefyd ym Mlaenau Gwent a Phen-y-bont ar Ogwr, lle cyflwynwyd cyfyngiadau lleol yn gynharach yr wythnos hon. 

Rydym wedi bod yn monitro'r sefyllfa yn Sir Gaerfyrddin yn ofalus, gan fod cysylltiad agos iawn rhyngddi a chynnydd mewn achosion yn Llanelli. Mae 8 o bob 10 o’r achosion yn gysylltiedig â'r dref ac mae'r rhan fwyaf o'r rhain wedi'u holrhain i bobl sydd wedi bod yn cymdeithasu.

Gwelwyd cynnydd cyflym mewn achosion yn Abertawe. Rydym yn ymchwilio i'r rhain i ganfod o ble mae’r cynnydd wedi deillio, ond mae’n ymddangos bod cyswllt rhyngddynt a phobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos ag eraill ar aelwydydd ac yn gymdeithasol.

Gwelwyd achosion cynyddol yng Nghaerdydd a chynnydd cyson ym Mro Morgannwg, sydd wedi'u cysylltu â phobl yn cyfarfod ac yn cymysgu yng nghartrefi ei gilydd; pobl sy'n cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol, a rhai clystyrau bach mewn gweithleoedd.

Rydyn yn trin diogelwch iechyd pobl o ddifrif yng Nghymru ac rydym wedi ystyried yn ofalus a oes angen inni gyflwyno cyfyngiadau lleol pellach i reoli lledaeniad y coronafeirws yn rhai o'r ardaloedd hyn yn y De.

Rydym wedi penderfynu cyflwyno cyfyngiadau lleol yn Llanelli, a ddaw i rym o 6pm ddydd Sadwrn.  Bydd cyfyngiadau lleol hefyd yn dod i rym yn Abertawe a Chaerdydd o 6pm ddydd Sul.  

Byddwn yn monitro'r sefyllfa yng Nghastell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Thorfaen yn ofalus dros y penwythnos ac yn ystyried a oes angen i'r ardaloedd hyn hefyd ddod o dan y drefn cyfyngiadau lleol yr un pryd ag Abertawe a Chaerdydd.

Mae hyn yn golygu, i bawb sy’n byw yn Llanelli, Cardydd ac Abertawe:

  • Na fyddant yn cael mynd i mewn i’r ardal na’i gadael heb esgus rhesymol.
  • Na fyddant, am y tro, yn cael cwrdd o dan do gyda phobl nad ydynt yn byw gyda nhw – ni fydd hawl i ffurfio aelwyd estynedig (neu ‘swigen’).
  • Rhaid i bob safle trwyddedig beidio â gwerthu alcohol ar ôl 10pm.
  • Rhaid i bawb sy’n gallu gweithio gartref wneud hynny.

Bellach, bydd rhan helaeth o boblogaeth y De, gan gynnwys ein prifddinas, yn byw mewn ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol i ddiogelu eu hiechyd ac atal y coronafeirws rhag lledaenu.

Ac, wrth gwrs, mae cyfres o reolau newydd, sy'n berthnasol ledled Cymru – i bawb sy'n byw yng Nghymru – sy'n berthnasol i safleoedd trwyddedig, cyfarfod o dan do a gwisgo gorchuddion wyneb.

Gwyddom y gall pobl wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn eu hardaloedd lleol – rydym yn gweld hyn yn digwydd ym mwrdeistref Caerffili a Chasnewydd.

Nid ydym am gadw'r cyfyngiadau lleol am fwy o amser nag sydd angen – a chyda chymorth pobl, dim ond mesur tymor byr fydd hyn, i’n helpu i reoli’r feirws.

Rydym yn parhau i gadw golwg fanwl ar y Gogledd lle mae'r darlun yn gymysg – mae’r achosion yn gyffredinol yn llawer is nag yr ydym yn ei weld yn y De ar hyn o bryd ond mae tystiolaeth bod y coronafeirws yn cynyddu mewn rhai rhannau o'r rhanbarth. Byddwn yn cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol y Gogledd yr wythnos nesaf i drafod y sefyllfa sy'n datblygu.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau.