Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar y Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol (2022-2025)

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau am y cynnydd a wnaed yn erbyn y Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol cyfredol (2022-2025) sy'n cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i sefydlu Corff Sgiliau Creadigol, ac yn amlinellu'r camau nesaf arfaethedig.

Sefydlwyd Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol ym mis Mai 2022, ac mae'n cynnwys 12 o weithwyr proffesiynol y diwydiant o'r sectorau cerddoriaeth, sgrin, gemau, animeiddio a thechnoleg ymgolli yn ogystal â chynrychiolwyr o’r meysydd darlledu, hyfforddiant, undeb, addysg uwch ac addysg bellach a hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant. Cynghorodd y Panel Cynghori ar y Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol cyfredol, gan nodi 10 blaenoriaeth sy'n allweddol o ran cefnogi anghenion sgiliau y gweithlu creadigol.   

Mae'r Gronfa Sgiliau Creadigol yn cefnogi prosiectau sy'n cyflawni yn erbyn un neu fwy o'r 10 blaenoriaeth a nodwyd.  Cefnogodd rownd gyntaf y gronfa 17 o brosiectau gyda £1.5M o gyllid.  Ar hyn o bryd mae 17 o brosiectau eraill yn derbyn £1.5M ychwanegol o gyllid drwy ail rownd y Gronfa Sgiliau Creadigol.  

Manteisiodd dros 27,000 o unigolion a dros 300 o gwmnïau o brosiectau a gefnogwyd gan rownd gyntaf y gronfa, gyda 488 o gyrsiau hyfforddi wedi'u cyflwyno a 300 o leoliadau profiad gwaith wedi'u sicrhau.  Rydym wedi cyhoeddi adroddiad sy'n manylu ar uchafbwyntiau prosiect Cronfa Sgiliau Creadigol 1.  Bydd gwerthusiad llawn o'r ddwy rownd yn cael ei gynnal unwaith y bydd prosiectau cyfredol y Gronfa Sgiliau Creadigol wedi'u cwblhau ddiwedd mis Mawrth 2026. Bydd y gwerthusiad yn asesu effaith pob un o'r 34 prosiect a ariannwyd gan Sgiliau Creadigol i ganfod pa mor dda y maent wedi mynd i'r afael ag anghenion sgiliau y sectorau creadigol ac i sicrhau bod y Gronfa yn cyflawni fel y dylai. 

Mae Cymru Greadigol wedi gwneud cynnydd da wrth gyflawni'r ymrwymiadau o fewn y Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol cyfredol ac mae'r Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol yn parhau i roi cyngor ar anghenion sgiliau uniongyrchol a thymor hwy y sector creadigol. 

Mae ymrwymiad y Cynllun Gweithredu i flaenoriaethu prosiectau a all ddangos dull partneriaeth o ran cymorth sgiliau wedi arwain Cymru Greadigol i gydweithio â llawer o randdeiliaid allweddol yn y diwydiant. Mae'r rhain yn cynnwys y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus, y Sefydliad Ffilm Prydeinig a phrosiectau sgrin Screenskills, Beacon Cymru, Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddoriaeth a Phrifysgol De Cymru ar brosiectau cerddoriaeth, ac Esports Cymru, Academi Cloth Cat ac Academi Cyfryngau Cymru ar brosiectau gemau ac animeiddio.  Mae'r dull hwn o weithio ar y cyd yn osgoi dyblygu diangen ac yn gwneud y mwyaf o adnoddau gan ddod â phartneriaid at ei gilydd i ddarparu pwyntiau mynediad clir a thryloyw a llwybrau dilyniant ar draws yr holl sectorau creadigol. 

Roeddwn yn falch o ymweld ag Academi Cyfryngau Cymru yr wythnos diwethaf i weld y gwahaniaeth maen nhw'n ei wneud ar lawr gwlad wrth wella mynediad i bobl ifanc i'r sector animeiddio trwy eu prosiect animeiddio cyfredol sy'n darparu dau gwrs lefel mynediad BTEC Lefelau 2 a 3 newydd mewn animeiddio.

Mae'r Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol hefyd yn cefnogi'r gwaith o gyflawni ymrwymiadau ehangach y Rhaglen Lywodraethu. Un enghraifft yw'r Warant i Bobl Ifanc, sy'n rhoi cynnig gwaith, addysg, hyfforddiant neu hunangyflogaeth i bawb dan 25 oed ac yn creu 125,000 o brentisiaethau pob oedran.   Mae Cymru Greadigol wedi creu cyfanswm o 499 o leoliadau cyflogedig dan hyfforddiant, gan gynnwys 59 lleoliad prentisiaeth ar gynyrchiadau a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ers 2020.  Mae darparu lleoliadau hyfforddi mewn swydd cyflogedig allweddol yn y gweithle yn parhau gydag amcangyfrif o 75 o leoliadau cyflogedig dan hyfforddiant yn cael eu darparu fesul blwyddyn.

Yn ogystal â hynny, mae nifer o brosiectau'n cyflawni ymrwymiad y Cynllun Gweithredu i gefnogi uchelgeisiau Cymraeg 2050 i hyrwyddo'r iaith a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae hyn yn sicrhau bod hyfforddiant yn cael ei hyrwyddo a'i ddarparu drwy'r Gymraeg lle bo hynny'n bosibl a bod y rhai sydd â diddordeb mewn dysgu neu wella eu sgiliau iaith Gymraeg yn cael cyfle i wneud hynny. Ymhlith y prosiectau a gefnogir mae O'r Sgript i'r Sinema a ddarperir gan NFTS Cymru, hyfforddiant ôl-gynhyrchu Cymraeg Academi Gorilla a phrosiect Cyfarwyddwyr Cymraeg gyda BBC Studios.  Roedd 26.5% o gyfranogwyr ar brosiectau a gefnogwyd drwy rownd gyntaf y Gronfa Sgiliau yn siaradwyr Cymraeg.  Galluogodd un prosiect, The Hollow Pixel Academy, chwe phrentis i gwblhau'r cwrs "Cymraeg yn y Gweithle" gyda Dysgu Cymru a chefnogwyd un prentis i gyflawni TGAU yn y Gymraeg.  Enillodd Hollow Pixel Wobr Pencampwr Cyflogwr gan Wobrau Prentisiaethau Cymru am eu prosiect Cronfa Sgiliau Creadigol.

Mae'r Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol yn credu bod blaenoriaethau a nodwyd yn y cynllun yn parhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol i fynd i'r afael ag anghenion y sectorau cerddoriaeth, sgrin, gemau, animeiddio a thechnoleg ymgolli ac er bod cynnydd wedi'i wneud, mae'n amlwg bod gwaith i'w wneud o hyd i fynd i'r afael â holl ymrwymiadau'r Cynllun Gweithredu. 

Felly, fy mwriad yw i'r Cynllun Gweithredu ar Sgiliau Creadigol a'r Panel Cynghori ar Sgiliau Creadigol presennol barhau tan fis Mai 2026.