Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Mehefin 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Roedd fy natganiad ysgrifenedig dyddiedig 7 Mai yn cadarnhau fy mod yn cymeradwyo cynlluniau integredig tymor canolig byrddau iechyd prifysgol Caerdydd a’r Fro a Chwm Taf, ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Roedd y sefydliadau hyn yn bodloni gofynion Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014 a Fframwaith Cynllunio’r GIG, drwy ddatblygu cynlluniau a oedd yn nodi sut y byddent yn defnyddio’r adnoddau oedd ar gael iddynt i fynd i’r afael ag anghenion iechyd y boblogaeth a gwella canlyniadau iechyd; gwella safonau gofal a sicrhau’r gwerth gorau.

Yn y datganiad hwnnw, dywedais hefyd y dylai byrddau iechyd prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac Aneurin Bevan weithio ar eu cynlluniau am gyfnod pellach i’w mireinio, cyn y gellid eu cyflwyno i’w byrddau i’w cymeradwyo, ac i minnau i’w hystyried.  

Gallaf gadarnhau yn awr fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi cyflwyno cynllun tair blynedd sy’n bodloni’r gofynion a nodir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru. Felly, rwyf wedi cadarnhau’r cynllun hwnnw.  

Daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i’r casgliad y dylai fanteisio ar gylch cynllunio o flwyddyn eleni, fodd bynnag, er mwyn rhoi cyfle i’r sefydliad gryfhau ei waith cynllunio ariannol a chynllunio gwasanaethau yn y tymor canolig, cyn cyflwyno fersiwn derfynol i’m sylw ym mis Ionawr 2015.  

Felly, mae wedi cyflwyno cynllun blynyddol sy’n disgrifio sut y bydd yn bodloni’r prif dargedau cenedlaethol, ac yn cryfhau ei gynllun tymor canolig ar yr un pryd. Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan hanes cryf o gyflawni. Mae hyn yn rhoi hyder y bydd uchelgais y bwrdd, sy’n cael ei amlinellu yn ei gynllun blwyddyn a’r cynllun tair blynedd sydd ar y gweill, yn cael eu cyflawni.

Mae gan bob un o’r byrddau iechyd a’r ymddiriedolaethau GIG eraill – Hywel Dda, Betsi Cadwaladr, Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru – gynlluniau blynyddol ar waith. Mae’r rhesymau pam fod pob sefydliad yn gweithredu o fewn cylch cynllunio blwyddyn i’w gweld yn fy natganiad dyddiedig 7 Mai.  

Yn unol â Fframwaith Cynllunio GIG Cymru, bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn craffu’n fanylach ar bob sefydliad, ac yn rhoi mwy o gefnogaeth iddynt er mwyn sicrhau eu bod yn canolbwyntio eleni ar ansawdd, ar wasanaeth ac ar y gofynion ariannol. Ar yr un pryd, bydd pob sefydliad yn parhau i fireinio a chryfhau ei gynllun tymor canolig.

Mae’r penderfyniadau hyn, gyda’i gilydd, yn dangos y trylwyredd angenrheidiol wrth wneud y trefniadau a nodir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru a Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014. Llwyddwyd i wneud cynnydd wrth i drefniadau cynllunio tair blynedd sefydliadau’r GIG ddod i oed.

Bydd y Gweinidog Cyllid a minnau yn cydweithio yn ystor yr haf i benderfynu pa gymorth y gellir ei roi i gefnogi dulliau newydd o ddarparu gwasanaethau, sy’n cryfhau’r gofal a roddir mewn cymunedau lleol, fel sy’n cael ei amlinellu yng nghynlluniau’r byrddau iechyd. Caiff y gwaith hwn ei gwblhau yng nghyd-destun adroddiad Ymddiriedolaeth Nuffield, ‘A Decade of Austerity in Wales? The funding pressures facing the NHS in Wales to 2025-26’.