Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 8 Tachwedd 2016, gwnes i ddatganiad i'r cyfarfod llawn ar y Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru. Soniais am ein bwriad i ddechrau profi’r cynnig mewn chwe awdurdod lleol o fis Medi 2017 ymlaen. Dyma, felly, roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am yr hyn sydd wedi’i wneud hyd yn hyn.

Ers mis Tachwedd, mae fy swyddogion wedi cynnal cyfarfodydd rheolaidd a chydweithio'n agos â’r chwe awdurdod lleol a fydd yn profi’r cynnig fel gweithredwyr cynnar o fis Medi 2017 ymlaen. Yr awdurdodau lleol hynny yw: Ynys Môn a Gwynedd (gweithio ar y cyd), Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe. Mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar bennu’r ardaloedd penodol o fewn yr awdurdodau lleol hynny lle bydd y cynnig yn ar gael, yn ogystal â nifer y plant cymwys o fewn pob awdurdod, a’r gost debygol o ddarparu’r cynnig yn yr ardaloedd dan sylw. Ar ôl ystyried niferoedd y plant sydd i gael eu cynnwys yn y chwe awdurdod lleol, rwyf wedi gallu gwahodd Caerffili fel awdurdod lleol ychwanegol i gymryd rhan o fis Medi ymlaen.

Mae brwdfrydedd a hyblygrwydd yr awdurdodau lleol hyn wedi ein plesio’n arw, ac mae eu gwybodaeth leol a’u dealltwriaeth o’r sector gofal plant wedi creu cryn argraff arnom. Maent wedi ymgysylltu â rhieni a darparwyr, fel y gwnaethom ninnau drwy ein hymgyrch #TrafodGofalPlant. Mae’r negeseuon y mae’r gweithredwyr cynnar hyn yn eu clywed yn debyg iawn i'r rhai yr wyf innau’n eu clywed o ran cost, mynediad, hyblygrwydd, dewis, a’r her drefniadol o geisio sicrhau cydbwysedd rhwng gofal plant a gwaith.

Yn ogystal ag ymgysylltu â’r gweithredwyr cynnar ac awdurdodau lleol eraill, rydym yn parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid, gan gynnwys rhieni, darparwyr, sefydliadau gofal plant, yr arolygiaethau a chomisiynwyr. Mae gan y rhain oll gyfoeth o brofiad a gwybodaeth a fydd yn hanfodol ar gyfer y gwaith o ddatblygu a phrofi’r cynnig, ac yna’i roi ar waith.

Rwyf wedi dweud yn glir o'r dechrau bod yn rhaid i'n cynnig gofal plant weithio ar gyfer rhieni: rhaid darparu dewis a hyblygrwydd ar eu cyfer. Rhaid i’r cynnig hefyd weithio i ddarparwyr, er mwyn iddynt allu cynnal safonau a helpu i feithrin datblygiad ein plant mewn amgylcheddau diogel a llwyddiannus. Rwyf bellach wedi cytuno y bydd y gweithredwyr cynnar yn profi gwahanol bethau mewn gwahanol leoedd, fel y nodir isod, i weld beth sy'n llwyddiannus a beth sy’n llai llwyddiannus ar draws ystod mor amrywiol â phosib o amgylchiadau a chymunedau. Bydd yr hyn a ddysgir yna’n llywio’r cynnig gofal plant wrth inni symud tuag at ei gyflwyno ledled Cymru.

Bydd Ynys Môn a Gwynedd yn gweithio gyda'i gilydd i brofi’r hyn y gall darparwyr gofal plant ei wneud mewn ardaloedd gwledig lle mae llawer o bobl yn teithio cryn bellter i’w gwaith. Byddant hefyd yn profi’r ddarpariaeth yn Gymraeg, a sut y gall y cynnig weithio ar draws ffiniau awdurdodau lleol. Bydd Ynys Môn  yn profi’r cynnig yn yr ardaloedd ar lan Afon Menai, ynghyd â Llangefni. Bydd Gwynedd yn profi’r cynnig yn ardaloedd llesiant Bangor, Porthmadog, Ffestiniog a Dolgellau. Ym mis Ionawr 2018, caiff ardal lesiant Caernarfon ei hychwanegu.

Bydd Blaenau Gwent yn rhoi'r cynnig ar waith ar draws yr awdurdod lleol o fis Medi 2017 ymlaen. Bydd hyn yn profi sut y mae'r cynnig yn helpu o ran goresgyn y rhwystrau i gyflogadwyedd y mae anghenion gofal plant yn eu creu, yn enwedig mewn ardaloedd o weithgarwch economaidd isel. Bydd hefyd yn gyfle i brofi effaith y cynnig o ran tlodi mewn gwaith.

Bydd Caerffili yn profi’r cynnig yn ardal glwstwr Dwyrain Canol y Cymoedd. Mae’r rhanbarth hwn yn cynnwys cymysgedd da o ardaloedd trefol a gwledig ac ardaloedd sydd â gwahanol lefelau o gyflogaeth a chyfoeth. Mae’r ddarpariaeth gofal plant sydd yno eisoes yn ddigonol, ac mae yno nifer sylweddol o deuluoedd sy'n gweithio a fyddai'n gymwys. Hefyd mae yno nifer fawr o ysgolion cynradd (cyfrwng Cymraeg a chyfrwng Saesneg) sy'n cynnig darpariaeth feithrin y Cyfnod Sylfaen. Mae ardal Dwyrain Canol y Cymoedd hefyd yn darparu cyfle i brofi materion trafnidiaeth ar gyfer cysylltu darpariaeth gofal plant a darpariaeth y Cyfnod Sylfaen yn lleol.

Bydd Sir y Fflint yn profi’r cynnig mewn ardaloedd penodedig o Fwcle, Bagillt a Brychdyn. Bydd hyn yn caniatáu profi’r cynnig mewn ardaloedd â lefelau cyflogaeth uchel ac isel, ar draws llwybrau teithio i'r gwaith (gan gynnwys teithio y tu hwnt i Gymru), ac mewn cymysgedd o leoliadau a gynhelir a lleoliadau nas cynhelir. Yn yr ardaloedd hyn, gellir profi capasiti darparwyr gofal plant, a'r galw amdano, ynghyd â sut y mae pethau’n cyd-fynd â darpariaeth y Cyfnod Sylfaen a darpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Bydd Rhondda Cynon Taf yn profi mewn pedwar dalgylch ar draws y tri chwm, yn ogystal ag un dalgylch cyfrwng Cymraeg, er mwyn sicrhau y caiff y cynnig ei ledaenu’n gyson ar draws yr awdurdod. Dalgylchoedd yr ysgolion canlynol sydd dan sylw: Ysgol Gyfun Rhydywaun, Ysgol Gyfun Bryncelynnog, Ysgol Gymunedol Glynrhedynog ac Ysgol Gyfun Aberpennar. Yn y dalgylchoedd hyn, ceir amrywiaeth o gyfraddau gweithgarwch economaidd, sydd felly’n gyfle i brofi effaith y cynnig o ran tlodi mewn gwaith.

Bydd Abertawe yn profi’r cynnig mewn wardiau ledled y ddinas, gan gynnwys Dyfnant, Penclawdd, Llangyfelach, West Cross, Treforys, Pontarddulais a Gorseinon. Mae'r rhain yn ardaloedd â niferoedd uchel o rieni sy'n gweithio. Darperir ar eu cyfer drwy ddarpariaeth mewn ysgolion ac mewn lleoliadau gofal plant preifat. Bydd hyn yn gyfle i brofi gwahanol fodelau o ddarpariaeth, cyfraddau defnydd, a lefel y galw. Hefyd, bydd yr ardal yn profi’r ddarpariaeth yn Gymraeg a’r cyfleoedd ar gyfer plant ag anghenion ychwanegol.

Mae ein ffocws ar hyn o bryd, felly, ar gefnogi’r gweithredwyr cynnar hyn i fod yn barod erbyn mis Medi 2017. Fodd bynnag, bydd fy swyddogion hefyd yn parhau i weithio gyda gweddill yr awdurdodau lleol fel eu bod yn y sefyllfa orau posibl i roi'r cynnig ar waith yn nes ymlaen. Yn y gyllideb derfynol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2016, dyrannwyd £10 miliwn yn 2017-18 i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddatblygu’r cynnig. Rhagwelwn y bydd y rhan helaeth o'r £10 miliwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol i dalu am ofal plant a ariennir gan y Llywodraeth yn ystod y cyfnod cynnar. Dylai hyn ganiatáu inni, yn y lle cyntaf, brofi gydag oddeutu 10% o’r teuluoedd sy’n gymwys. Bydd angen swm llai o arian ar gyfer costau gweinyddol ac i gomisiynu gwerthusiad annibynnol o'r cynllun. Bydd yr hyn y byddwn yn ei ddysgu gan y gweithredwyr cynnar yn ein helpu i fireinio polisïau a systemau cyn cyflwyno'r cynnig yn ehangach.

Bydd cyflawni’r ymrwymiad hwn yn heriol; mae’r dasg sydd o’n blaenau’n un sylweddol. Bydd angen inni sicrhau a chreu’r seilwaith priodol, a bydd hynny’n cymryd amser. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhieni, darparwyr a phartneriaid allweddol eraill i sicrhau bod y system yn cefnogi ein plant ac yn helpu rhieni sy'n gweithio. Byddaf yn darparu diweddariadau pellach i Aelodau'r Cynulliad wrth inni ddechrau profi’r cynnig yn ymarferol.