Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar 23 Mawrth, rhoddais ddiweddariad i Aelodau’r Cynulliad ar gynnydd y gwaith o ddatblygu’r Cynnig Gofal Plant ar gyfer Cymru, ac yn benodol mewn ardaloedd o fewn y saith awdurdod lleol sy’n gweithredu’n gynnar lle byddai’r cynnig ar gael o fis Medi 2017.

Bydd y saith awdurdod lleol sy’n gweithredu’n gynnar yn derbyn ceisiadau gan rieni cymwys erbyn diwedd mis Mehefin er mwyn gallu prosesu’r ceisiadau a chadarnhau cymhwysedd mewn pryd i rieni wneud eu trefniadau gofal plant ar gyfer mis Medi.

Mae ffocws ein cynnig gofal plant ar gefnogi teuluoedd sy’n gweithio. I fanteisio ar y cynnig o fis Medi, bydd angen i rieni sy’n gymwys:

• fod â phlentyn cymwys o fewn yr amrediad oedran;
• byw o fewn ardaloedd penodol yn y saith awdurdod lleol sy’n gweithredu’n gynnar;
• bodloni’r diffiniad o riant sy’n gweithio fel y nodir isod.

At ddibenion gweithredu’n gynnar, mae ‘rhiant sy’n gweithio’ yn cyfeirio at rieni a gwarcheidwaid sy’n gweithio ac yn ennill, ar gyfartaledd, isafswm wythnosol cyfwerth ag 16 awr o’r isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol. Bydd angen i’r ddau riant mewn teulu dau riant, neu’r unig riant mewn teulu un rhiant, fodloni’r gofyniad hwn. Mae ein diffiniad o ‘weithio’ yn cynnwys rhieni cyflogedig neu hunangyflogedig, a rhieni ar gontractau dim oriau, lle gallant ddangos eu bod yn bodloni’r isafswm cyflog dros gyfnod o 3 mis.

Bydd canllawiau manwl ar gyfer y saith awdurdod lleol sy’n gweithredu’n gynnar yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan yn ddiweddarach heddiw.

Gall rhieni mewn ardaloedd peilot gysylltu â’r awdurdod lleol sy’n gweithredu’n gynnar neu eu Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd lleol am ragor o wybodaeth neu am help gyda’u ceisiadau.

Fodd bynnag, dim ond darn o’r darlun yw rhieni. I sicrhau bod y cynnig gofal plant yn gweithio, mae angen i ni ofalu bod cymaint o ddarparwyr gofal plant â phosibl yn cymryd rhan, ac yn fodlon ac yn gallu cynnig y ddarpariaeth a gyllidir gan y Llywodraeth.

Gallaf gadarnhau y bydd unrhyw ddarparwr gofal plant sydd wedi’i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, neu OFSTED yn Lloegr, ac sydd wedi’u harolygu ganddynt, yn gallu darparu elfen gofal plant y cynnig o fis Medi 2017. Er bod yn rhaid i’r rhiant a’r plentyn fyw o fewn un o’r ardaloedd penodol yn y saith awdurdod lleol sy’n gweithredu’n gynnar, gall unrhyw leoliad gofal plant cofrestredig ddarparu elfen gofal plant y cynnig, ble bynnag y maent wedi’u lleoli. Mae hyn yn bwysig i sicrhau bod gan rieni ddewis o ran ble gallant fanteisio ar y cynnig, p’run a yw hynny’n agos i gartref neu’r gwaith. Dylai hefyd olygu bod cymysgedd ehangach o ddarparwyr yn gallu cymryd rhan, gan roi gwybodaeth werthfawr i ni am sut mae’r cynnig yn gweithio yn ymarferol a’i effaith ar y sector.

Un o’r negesuon rydym wedi’i derbyn yn gyson yw y bydd gosod cyfradd gyllido sy’n deg ac sy’n adlewyrchu’r farchnad bresennol yn hollbwysig i sicrhau cyfranogiad y sector gofal plant a sicrhau bod cymaint o leoedd gofal plant â phosibl ar gael. Felly, rwyf wedi comisiynu Alma Economics i gynnal adolygiad economaidd annibynnol o’r sector gofal plant yng Nghymru. Bydd eu gwaith yn mesur effaith economaidd y sector gofal plant ac yn darparu dadansoddiadau manwl o’r costau a’r taliadau sy’n ofynnol i ddarparwyr gofal plant weithredu yn effeithlon a chynaliadwy. Bydd hyn hefyd yn helpu i lywio’r gyfradd gyllido yn y tymor hirach.

Yn y cyfamser, mae angen i mi osod cyfradd y bydd darparwyr gofal plant yn ei derbyn o fis Medi 2017. Mae rhanddeiliaid wedi dweud yn gwbl glir yn eu trafodaethau â ni eu bod o blaid cyfradd genedlaethol sengl a fydd yn gymwys ym mhob lleoliad waeth ble maent yn gweithredu yng Nghymru. Ar sail proses fanwl a chymhleth o ddadansoddi data sy’n cael ei dal gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant awdurdodau lleol, trafodaethau ag aelodau CWLWM ac adborth gan ddarparwyr gofal plant, rwyf wedi penderfynu gosod cyfradd o £4.50 yr awr. Bydd hon yn gyfradd gyllido sengl ar draws y saith awdurdod lleol sy’n gweithredu’n gynnar, gan sicrhau eglurder a chysondeb y cynnig gofal plant i bob rhiant a darparwr. Bydd y gyfradd hon am ofal plant yn unig gan fod darparwyr gofal plant bellach yn gallu codi ar rieni am fwyd ac unrhyw wasanaethau ychwanegol a ddarperir, fel costau trafnidiaeth neu weithgareddau y telir amdanynt. Fodd bynnag, byddaf yn disgwyl i ddarparwyr ystyried canllawiau y byddwn yn eu cyhoeddi mewn perthynas ag unrhyw daliadau ychwanegol i’w gwneud.

Mae gan awdurdodau sy’n gweithredu’n gynnar drefniadau ar waith eisoes i ddarparu addysg gynnar i bob plentyn 3 a 4 oed a bydd cyfleoedd i brofi cysondeb y ddwy elfen o’r 30 awr yn yr ardaloedd peilot.

Bydd yn bwysig i ni ddysgu gan y gweithredwyr cynnar hyn er mwyn gallu mireinio ein polisïau a’n systemau cyn eu cyflwyno’n ehangach. Felly, byddwn yn monitro ac yn gwerthuso gweithrediad cynnar y cynnig gofal plant gyda llygad barcud ledled y saith awdurdod sy’n gweithredu’n gynnar. Mae contract ar gyfer gwerthuso annibynnol wedi’i roi allan i dendro ar hyn o bryd.

Er ein bod yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar gefnogi’r gweithredwyr cynnar hyn i fod yn barod ar gyfer mis Medi 2017, rydym yn parhau i siarad â rhieni, darparwyr, awdurdodau lleol ac eraill ac yn gwrando arnynt am y problemau a’r heriau a wynebant. Fis Medi y llynedd, lansiais ein hymgyrch #TrafodGofalPlant. Mae dros 6,000 o rieni a darparwyr wedi ymgysylltu â ni hyd yma drwy’r ymgyrch, gyda 3,750 o ymatebion gan rieni i’n harolwg ar-lein #TrafodGofalPlant. Mae hyn yn ogystal â’r sioe deithiol #TrafodGofalPlant a’r digwyddiadau darparwyr rhanbarthol a gynhaliwyd mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru ym misoedd Chwefror a Mawrth. Bydd yr holl dystiolaeth a’r wybodaeth a gasglwyd drwy ein gwaith ymgysylltu yn cael eu hasesu yn ystod y misoedd nesaf a byddaf yn cyhoeddi adroddiad llawn ar y canfyddiadau maes o law.

Rwy’n ddiolchgar i’r saith awdurdod lleol a fydd yn dechrau darparu’r cynnig gofal plant o fis Medi 2017 am eu gwaith hyd yma ac am gyfraniadau gan y sector a rhanddeiliaid allweddol eraill. Maent i gyd wedi dangos brwdfrydedd a hyblygrwydd, wrth gyfrannu at ddatblygu polisi ac wrth bwyso ar eu profiad eang o ddarparu ar lawr gwlad. Mae wedi bod yn broses gydweithredol go iawn yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy a sefydlwyd gan y Ddeddf Llesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol ac edrychaf ymlaen at barhau â’r berthynas hon wrth i ni ddarparu’r cynnig hwn i rieni a phlant ledled Cymru.