Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, y Gweinidog dros Blant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ym mis Medi 2017, gwnaethom ddechrau cyflwyno ein Cynnig Gofal Plant mewn saith awdurdod lleol ar draws Cymru sy'n weithredwyr cynnar. Mae ein cynnig, sy'n ymrwymo i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant i rieni sy'n gweithio, ac sydd â phlant 3 a 4 mlwydd oed, am 48 wythnos y flwyddyn, yn un uchelgeisiol.  Mae'r rhaglen hon o weithredu cynnar yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod y cynnig yn diwallu anghenion plant, rhieni a darparwyr pan fydd yn cael ei gyflwyno'n llawn ar draws Cymru ym mis Medi 2020.

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn yn yr awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar, ac amlinellu rhai o'n camau nesaf i ddatblygu'r cynnig.

Ar hyn o bryd, mae'r cynnig ar waith yn Ynys Môn, Gwynedd, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe. Blaenau Gwent yw'r unig un sy'n treialu'r cynnig ar draws yr awdurdod cyfan. Yn yr awdurdodau eraill, mae'r cynnig ar gael mewn ardaloedd penodedig er mwyn i ni allu profi ystod o agweddau a materion sy'n effeithio ar y broses o gyflwyno'r cynnig a'r niferoedd sy'n manteisio arno. Bydd dysgu wrth brofiad y gweithredwyr cynnar yn bwysig i'n helpu i fireinio ein polisïau a’n systemau cyn eu cyflwyno’n ehangach. Dyna pam y penodwyd NatCen ac Arad ym mis Awst i fynd ati i gynnal gwerthusiad annibynnol trylwyr o'r broses gychwynnol hon.

Mae nifer fawr o rieni wedi dangos diddordeb yn y cynnig, gyda 50% o'r ceisiadau a ragwelwyd yn nhymor yr hydref wedi dod i law erbyn diwedd mis Medi. Cafwyd adborth cychwynnol cadarnhaol ar y cyfan gan rieni cymwys sy'n defnyddio'r cynnig a darparwyr gofal plant. Yn ôl rhieni, mae'r cynnig eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i'w bywydau gan leihau'r straen ar incwm a helpu i sicrhau nad yw gofal plant yn eu rhwystro rhag gweithio neu gynyddu eu horiau.

Mae'n gynnig newydd ac felly bydd yn cymryd amser i wreiddio’n llawn. Mae'r awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar wedi bod yn hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r cynnig a thargedu'r rhieni hynny nad ydynt eisoes wedi gwneud cais.  Rydym hefyd yn cydweithio â nhw er mwyn deall yn well pam y mae rhai rhieni'n penderfynu peidio â defnyddio'r cynnig. Fodd bynnag, o ystyried  natur y cynnig newydd hwn – hynny yw ei fod yn cael ei arwain gan y galw – mae’n hanfodol ein bod yn profi ac yn dysgu, ac yna’n addasu’n unol â hynny wrth inni fynd ati i ehangu’r cynnig a’i gyflwyno dros y blynyddoedd i ddod.

Ar ôl adolygu'r niferoedd sydd wedi manteisio ar y cynnig dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi penderfynu y gallwn ehangu'r ardaloedd cymwys presennol er mwyn dysgu gymaint â phosibl o'r flwyddyn gyntaf a chynyddu'r gwariant. Yn dilyn trafodaethau manwl gyda'r awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar ynghylch ardaloedd, nifer y plant a chostau, mae'n dda gennyf roi gwybod i'r aelodau ein bod yn bwriadu ehangu'r cynnig i'r ardaloedd canlynol dros y misoedd nesaf:

Awdurdod Lleol sy'n Weithredwr CynnarArdaloedd newyddDerbyn ceisiadau:Gweithredu:
Ynys MônYn cynnwys yr ardaloedd canlynol: Y Fali 2, Trearddur 1 a 2, Llanfihangel Esceifiog, Brynteg, Llanbedrgoch, Pentraeth, Amlwch wledig, Bodorgan, Llanfair yn Neubwll 1 a 2, Aberffraw a Rhosneigr 1, Parc ar Fynydd, Llaneilian, Moelfre, Llanfaethlu, a Mechell Rhagfyr 2017Ionawr 2018
GwyneddArdal llesiant Caernarfon. Yn cynnwys y wardiau canlynol: Bethel, Bontnewydd, Cadnant, Clwt y Bont, Cwm y Glo, Deiniolen, Groeslon, Llanberis, Llandwrog, Llanllyfni, Llanrug, Llanwnda, Menai (Caernarfon), Peblig (Caernarfon), Penisa’r waun, Pen-y-groes, Seiont, Talysarn, Waunfawr, a Clynnog.Tachwedd 2017Rhagfyr 2017
Ardal llesiant Penllyn, sy'n cynnwys y Bala, Llandderfel a LlanuwchllynTachwedd 2017Ionawr 2018
CaerffiliArdal llesiant Basn Caerffili Wardiau: Cwm Aber; Bedwas; Tretomos; Machen; Llanbradach; Morgan Jones; Pen-yr-heol; Sant Iago; a Martin Sant.Tachwedd 2017Ionawr 2018
Ardal llesiant Gwaelod Islwyn. Wardiau: Abercarn; Crosskeys; Dwyrain Rhisga; Gorllewin Rhisga; ac Ynysddu.Tachwedd 2017Ionawr 2018
Sir y FflintWardiau De Cei Connah, Gwepra Cei Connah, Castell Fflint, Cwnsyllt y Fflint, Oakenholt y Fflint, Trelawny y Fflint, Dwyrain Treffynnon, Gorllewin Treffynnon, Saltney Cyffordd yr Wyddgrug, a Saltney Stonebridge Tachwedd 2017Tachwedd 2017
Wardiau yr Hob; Caergwrle a Kinnerton UchafRhagfyr 2017Ionawr 2018
AbertaweRydym yn gweithio gydag Awdurdod Lleol Abertawe i bennu ardaloedd ehangu posibl. Caiff rhagor o wybodaeth ei chyhoeddi ar wefannau'r Awdurdod Lleol a Llywodraeth Cymru maes o law.I’w gadarnhau – caiff cyhoeddiad ei wneud ar wefan yr Awdurdod LleolIonawr 2018
Rhondda Cynon TafWardiau Ynyshir a Phont-y-clunRhagfyr 2018Ionawr 2018

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r awdurdodau lleol sy'n weithredwyr cynnar am eu gwaith caled hyd yn hyn. Maent wedi gweithio â ni i ddatblygu a gweithredu'r polisi, gan gynnwys y meini prawf cymhwysedd i rieni, y broses ymgeisio a’r dulliau o dalu darparwyr gofal plant.

Hoffwn ddiolch hefyd i'r sector gofal plant am eu cefnogaeth ac am gydweithio â ni mewn ffordd mor gadarnhaol i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r cynnig gofal plant. Hoffwn ddiolch iddynt hefyd am eu hadborth ar eu profiad hyd yma o gyflwyno'r cynnig. Yn ail gam ein hymgyrch lwyddiannus #TrafodGofalPlant, byddwn yn ymgysylltu ymhellach â darparwyr gofal plant drwy holiaduron ar-lein, grwpiau ffocws ac ymgynghori uniongyrchol.

Rydym wedi ymrwymo i roi’r Cynnig Gofal Plant ar waith yn llawn erbyn mis Medi 2020. Yn y Gyllideb Ddrafft, mae'r cyllid i gefnogi’r cynnig gofal plant yn cynyddu i £25m yn 2018-19 ac i £45m yn 2019-20. Bydd hyn yn caniatáu i ni ehangu a phrofi rhai agweddau ar ddarparu’r cynnig mewn awdurdodau lleol eraill o fis Medi 2018 ymlaen. Fel rhan o hyn, byddaf yn disgwyl i’r awdurdodau lleol newydd sy’n ymuno â ni gydweithio â naill ai'r awdurdodau lleol presennol neu awdurdodau lleol cyfagos wrth roi’r cynnig ar waith, er mwyn adeiladu ar arferion gorau a sicrhau arbedion maint.

Rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio â chi wrth i ni ehangu'r cynnig hwn a'i ddarparu i rieni a phlant ledled Cymru.