Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan MS, Minister for Health and Social Services
Julie Morgan MS, Deputy Minister for Health and Social Services

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fis Hydref, cyhoeddwyd bod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi dod i gytundeb lefel gwasanaeth, a oedd yn gwireddu ein hymrwymiad i barhau i ddarparu’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol i leoliadau gofal cymdeithasol drwy gydol y pandemig hwn.

Ar y cyfan, ers 9 March 2020, mae ychydig dros 1bn o eitemau o PPE wedi’u darparu ar draws y sector iechyd a gofal. O’r rhain, mae 451.4m o eitemau wedi cael eu dosbarthu i’r sector gofal cymdeithasol.

Mae’r sefyllfa o ran PPE yn parhau i fod yn sefydlog, ac ar hyn o bryd mae gwerth 24 wythnos o’r holl fathau o eitemau mewn stoc ar y lefelau defnydd presennol gyda chynlluniau wrth gefn pe bai angen eu defnyddio ar lefel ehangach eto.

Mae’r cymorth hwn i staff wedi cael ei atgyfnerthu drwy ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i barhau i ddarparu PPE am ddim i staff iechyd a gofal cyhyd â bod ei angen yn ystod y pandemig. Wrth wireddu’r ymrwymiad hwn, rydym wedi ymestyn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth tan fis Mawrth 2022 er mwyn parhau i helpu staff iechyd a gofal.

Mae manylion y Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn ymestyn y ddarpariaeth bresennol o PPE, sy’n golygu na ddylai’r darparwyr gwasanaeth weld unrhyw newidiadau i’r broses gyflenwi, a gallant barhau i gael cyfarpar fel sydd ei angen i helpu eu staff.

Mae PPE am ddim hefyd ar gael i ddarparwyr gofal cymdeithasol annibynnol.

Mae swyddogion yn parhau i weithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro ac adolygu’r canllawiau ategol ar atal a rheoli heintiau a’r defnydd priodol o PPE mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Caiff unrhyw ddiweddariadau a diwygiadau i’r canllawiau eu rhannu cyn gynted ag y byddant ar gael drwy ein rhwydweithiau priodol, ond rydym yn annog pawb sy’n gweithio’n y sector i fod yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf, ac ymgyfarwyddo â’r canllawiau hynny, sydd ar gael yn Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol | LLYW.CYMRU