Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae creu gwasanaethau Adferiad a buddsoddi ynddynt i gefnogi pobl sy'n dioddef o effeithiau tymor hir Covid-19 –  y cyfeirir ato gan amlaf fel Covid Hir –  wedi bod yn flaenoriaeth. Er bod cyfnod argyfwng y pandemig wedi dod i ben, nid yw'r coronafeirws wedi diflannu eto, ac rydym yn disgwyl i'r galw am wasanaethau Adferiad barhau am beth amser.

Hyd yn hyn, rydym wedi buddsoddi £10m i gefnogi datblygiad y gwasanaethau adsefydlu cymunedol, integredig ac amlbroffesiwn hyn yn ardaloedd pob un o fyrddau iechyd Cymru.

Ym mis Chwefror a mis Medi'r llynedd, rhoddais ddiweddariadau am yr adolygiadau o’r rhaglen Adferiad. Mae'r adroddiad sy’n cael ei gyhoeddi heddiw (Saesneg yn Unig) yn rhoi sicrwydd pellach bod gwasanaethau Adferiad yn parhau i ddiwallu anghenion pobl sy'n eu defnyddio. Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi derbyn gofal wedi dweud bod ansawdd eu bywydau wedi gwella a’u bod wedi cael profiad cadarnhaol o’r gwasanaethau.

Mae datblygu gwasanaethau Adferiad wedi galluogi pob bwrdd iechyd i feithrin gallu hanfodol mewn gwasanaethau adsefydlu ac adfer cymunedol. Mae hefyd wedi helpu i ddatblygu sgiliau ac arbenigedd y gweithlu. O ganlyniad, mae gennym ased cymunedol gwerthfawr, y mae'n rhaid i ni ei feithrin a manteisio arno.

Heddiw, rwy'n cyhoeddi cynnydd yn y cyllid ar gyfer gwasanaethau Adferiad o £5m i £8.3m o fis Ebrill 2023. Bydd hyn yn helpu i ehangu mynediad “ar sail anghenion" neu "ar sail symptomau" ar gyfer pobl sydd â chyflyrau hirdymor eraill y mae eu hanghenion adsefydlu ac adfer yn debyg i anghenion pobl sydd â Covid Hir – er enghraifft, pobl sydd ag enseffalomyelitis myalgig/syndrom blinder cronig (ME/CFS), ffibromyalgia a chyflyrau ôl-feirysol cysylltiedig eraill.

Yn aml, mae pobl sydd â'r cyflyrau hyn dweud eu bod yn teimlo nad oes neb yn deall ac yn gwrando, a’u bod yn teimlo’n anweledig, ac mae llawer wedi teimlo'n rhwystredig nad ydynt wedi gallu cael mynediad at wasanaethau Adferiad. Bydd y cynnydd hwn mewn cyllid yn helpu i sicrhau mynediad teg. 

Bydd hefyd yn parhau i gefnogi'r ap hunanreoli adfer o Covid a Chanllawiau Cymru gyfan ar gyfer rheoli Covid Hir.

Bydd y cyllid cylchol hwn yn creu sylfeini cadarn ar gyfer datblygu, mewn modd cynliadwy a pharhaus, y model gwasanaeth adsefydlu ac adfer integredig ac amlbroffesiwn sy'n sail i wasanaethau Adferiad.

Fy ngobaith i yw y bydd Adferiad nid yn unig yn helpu i leddfu effeithiau iechyd hirhoedlog y pandemig, ond bydd hefyd yn mynd i'r afael â rhai o’r anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol sy'n gysylltiedig â chyflyrau hirdymor, ac sy’n cael eu hanbwybyddu’n aml - colli neu leihau incwm a cholli ymdeimlad o bwrpas. Mae cefnogi pobl i ddychwelyd i waith neu addysg yn bwysig ar gyfer iechyd a lles corfforol a meddyliol pobl.  

Rwy'n disgwyl gweld mynediad at wasanaethau Adferiad yn cael ei ehangu. Rhaid defnyddio'r buddsoddiad hwn, sy'n ategu’r cyllid i ehangu capasiti gofal sylfaenol a chymunedol a ddarperir i'r GIG, awdurdodau lleol a Byrddau Partneriaeth Ranbarthol, i symbylu ac integreiddio ymdrechion gwasanaethau lleol i wella canlyniadau iechyd a gofal poblogaethau lleol.