Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Tachwedd 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Fy amcanion  yw i dorri'r cysylltiad rhwng amddifadedd a deilliannau addysgol gwael, a gwella safonau llythrennedd a rhifedd. Rwy'n falch o roi diweddariad i chi heddiw ar y cynnydd sy'n cael ei wneud i wella llythrennedd a rhifedd.

Lansiwyd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ym mis Ionawr eleni yn barod i'w roi ar waith yn statudol ym mis Medi 2013. Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn darparu pecyn o ganllawiau a deunyddiau hyfforddi dwyieithog sydd ar gael ar-lein i helpu ysgolion i weithredu'r Fframwaith. O'r adborth rwyf wedi'i dderbyn hyd yma, mae'r Fframwaith wedi cael ei groesawu’n dda, ac rwyf wedi cael fy nghalonogi gan adroddiadau ar sut mae ysgolion yn sicrhau ei fod yn dod yn rhan annatod o'r cwricwlwm fel bo pob athro yn gallu addysgu llythrennedd a rhifedd. Mae'r Fframwaith rhyngweithiol sydd ar wefan Dysgu Cymru yn cynnig cymorth cynhwysfawr i ymarferwyr.

Bydd nodyn Estyn, sydd wedi'i gynnwys yn y canllawiau llythrennedd a rhifedd atodol, yn tawelu ofnau ysgolion. Mae'n nodi nad oes disgwyl i ysgolion integreiddio'r Fframwaith yn llawn ym mhob gwers y maen nhw'n ei chynllunio a'i chyflwyno o fis Medi 2013 ymlaen. Fodd bynnag, bydd Estyn am gael sicrwydd bod ysgolion yn gwneud cynnydd da tuag at gyflawni'r nod hwnnw, a byddaf innau hefyd yn awyddus i weld hyn yn digwydd.

Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi ysgolion wrth gyflawni hyn, a dyna pam yr ydym yn rhoi’r Rhaglen Gymorth Genedlaethol ar gyfer llythrennedd a rhifedd ar waith.  Mae'r Rhaglen bedair blynedd hon yn cynnig cymorth uniongyrchol i ysgolion ac athrawon i'w helpu i weithredu'r Fframwaith yn effeithiol i wella'r ffordd y mae llythrennedd a rhifedd yn cael eu haddysgu mewn ysgolion. Bydd y Rhaglen Gymorth Genedlaethol yn ategu rôl y consortia cyn cael ei throsglwyddo'n llwyr i'r consortia ar ddiwedd y rhaglen.  

Ym mis Mai 2012, cynhaliwyd y profion darllen a gweithdrefnau rhifiadol cyntaf i ddisgyblion ym Mlynyddoedd 2 i 9. Cyhoeddwyd gennym deunyddiau enghreifftiol cyn hynny i alluogi ysgolion i gael gwell syniad o'r hyn y gallant ei ddisgwyl. Cyhoeddwyd canlyniadau'r profion hynny ym mis Awst. Mae’r flwyddyn gyntaf hon o ganlyniadau  yn rhoi sylfaen i adeiladu arni a gwelir patrymau cynnar yn cael eu datgelu eisoes, megis y bwlch rhwng y rhywiau mewn gallu darllen.

Bwriad canlyniadau profion, ynghyd ag asesiad athrawon yw i gynnig gwybodaeth pwysig i’n ysgolion, athrawon a gadewch i ni beidio ag anghofio’n dysgwyr, am eu cynnydd o ran llythrennedd a rhifedd.  Dyma pam ym mis Gorffennaf, cyhoeddwyd gennym ddull diagnostig peilot i'w ddefnyddio ar y cyd â phrofion gweithdrefnau rhifiadol, sy'n sicrhau bod pob cwestiwn prawf yn cyfeirio at y datganiad(au) perthnasol yn y Fframwaith. Mae hyn yn caniatáu i athrawon werthuso cryfderau a gwendidau disgyblion, dosbarthiadau a grwpiau blwyddyn, ar lefel weddol fanwl. Ym mis Medi, cyhoeddwyd gennym ddull tebyg ar gyfer y prawf darllen. Gobeithiaf  y bu’n ddefnyddiol i ysgolion.

Ym mis Mai 2014, bydd disgyblion yn sefyll profion rhesymu rhifiadol am y tro cyntaf. Pan oeddem yn datblygu'r profion hyn, roeddem yn gwybod nad oedd y sgiliau sy'n ymwneud â rhesymu rhifiadol wedi bod yn destun prawf o’r blaen. Mae'n bosibl, felly, nad oedd yr addysgu na'r dysgu wedi canolbwyntio ar y math o ddulliau rhesymu a datrys problemau sy’n gysylltiedig â’r profion hyn. Fodd bynnag, mae'n briodol ein bod yn datblygu'r sgiliau bywyd hyn yn ystod addysg disgyblion.

Mae canfyddiadau'r rhag-brawf rhesymu rhifiadol wedi datgelu bod y sgoriau ar gyfer eitemau'r prawf yn is na'r disgwyl ar gyfer y grŵp oedran perthnasol, a bod sawl ffactor yn gyfrifol am hyn.  Mewn ymateb i hyn, cyhoeddaf y byddaf yn darparu pecyn cymorth cynhwysfawr a fydd yn cael ei gyflwyno trwy  gynnydd yn yr ariannu o £800,000 i’r Rhaglen Gymorth Genedlaethol  ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd y pecyn cymorth hwn wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer anghenion ysgolion ac yn cyfrannu at broses barhaus o welliant tymor hir o addysgu a dysgu mewn rhesymu rhifiadol.

Mae’r profion rhesymu rhifiadol 2014 yn llinell sylfaen o le mae ysgolion yn awr. Ar gyfer y dyfodol, bydd rhaid i’r brif ffocws fod ar sut mae dysgwyr yn datblygu dros amser. Mae’r disgwyliad y bydd ysgolion yn cefnogi eu dysgwyr i resymu’n rhifiadol ddim yn ofyniad newydd a osodwyd gan y Fframwaith ond un sydd wedi bod yn ymhlyg yn y cwricwlwm am beth amser drwy’r Fframwaith Sgiliau. O ran paratoi ar gyfer y set gyntaf o brofion rhesymu, bu deunyddiau sampl ar gyfer rhesymu ar gael ers mis Chwefror 2012, sydd yn baratoad defnyddiol. Bydd y rhain yn cael eu mireinio yn y Flwyddyn Newydd gyda mwy o ddeunyddiau enghreifftiol. Mae ein cymorth ar gyfer gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ymestyn y tu hwnt i'r Fframwaith, y profion a'r Rhaglen Gymorth Genedlaethol. Mae'r Rhaglen Ymgysylltu â Chyflogwyr ar Rifedd yn helpu disgyblion i ddatblygu sgiliau rhifedd cadarn, a'u hysgogi a'u paratoi ar gyfer y byd gwaith. Rwy'n hyderus y bydd ysgolion uwchradd a busnesau oll yn elwa ar y rhaglen hon. Mae'r paneli Arbenigol ar Lythrennedd a Rhifedd hefyd wedi rhoi cymorth defnyddiol i ddatblygu llythrennedd a rhifedd.  

Mae newidiadau niferus wedi digwydd ym maes addysg dros y 18 mis diwethaf a phrif nod y newidiadau hyn oll oedd gwella perfformiad mewn llythrennedd a rhifedd. Mae'n briodol ein bod yn adolygu’r trefniadau asesu a Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod y newidiadau hyn yn rhan annatod ohonynt ac yn cael eu symleiddio. I'r perwyl hwnnw, cyhoeddwyd gennym gam 1 yr ymgynghoriad ar 22 Hydref, sy'n holi barn pobl am y newidiadau arfaethedig i'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu sydd wedi’u hanelu at atgyfnerthu a chynnal y ffordd y mae llythrennedd, rhifedd a sgiliau ehangach yn cael eu haddysgu yng Nghymru.  Rydym yn dal i fod yn ymroddedig i wella safonau llythrennedd a rhifedd, a fydd yn rhan allweddol o’r adolygiad o’r cwricwlwm ac asesu.

Gellir canfod adroddiad crynodeb ar rhagbrawf rhesymu rhifiadol a gafodd eu cynnal ym mis Mai 2013 ar:     

http://learning.wales.gov.uk/resources/numeracy-test-trials-summary-report/?lang=cy