Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r ymrwymiad i gyflwyno Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol yn un o elfennau craidd ein Rhaglen Trawsnewid ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Blant yng Nghymru. Yr angen i wella cysondeb ymarfer ledled Cymru yw'r rhesymeg y tu ôl i hyn, gan gefnogi ffordd o weithio sy'n seiliedig ar gryfderau er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i'n plant a'n pobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghymru.

Mae sgwrs genedlaethol wedi bod yn digwydd gydag awdurdodau lleol a'u partneriaid wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i blant ledled Cymru gan gynnwys y trydydd sector, yr heddlu a byrddau diogelu yn ogystal â chyrff cenedlaethol fel y Comisiynydd Plant. Casglodd yr ymgysylltiad a'r ddeialog agored hon farn a thystiolaeth ynghylch sut y gall Fframwaith Ymarfer Cenedlaethol ychwanegu'r gwerth mwyaf. Yn ystod y deuddeg mis diwethaf rydym wedi rhannu dau bapur ymgysylltu. Mae'r papurau hyn yn amlinellu nod y Fframwaith a sut y byddai'n gweithio'n ymarferol, yn ogystal â drafftiau o'r safonau a argymhellir. 

Roedd yr adborth a gawsom yn tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol defnyddio'r gwaith hwn i gryfhau gwaith amlasiantaethol, yn seiliedig ar 5 safon strategol: Seilwaith Amlasiantaethol, Strategaeth Amlasiantaethol, Dysgu Amlasiantaethol, Llywodraethu Amlasiantaethol a Chyflenwi Amlasiantaethol. Er mwyn adlewyrchu'r dull strategol hwn, mae teitl y Fframwaith wedi newid i “Strategaeth Genedlaethol ar Ymarfer Amlasiantaethol ar gyfer Plant”. 

Fodd bynnag, mae angen rhagor o waith o hyd, gan gynnwys cryfhau atebolrwydd cyffredin ar gyfer ymarfer amlasiantaethol gyda mwy o eglurder o ran rolau, cyfrifoldebau a pherchnogaeth o’r strategaeth. Yn ogystal, mae'n rhaid i ni fod â threfniadau llywodraethu clir ar waith i oruchwylio gweithredu, gan sicrhau nad yw’r rhain yn cynyddu biwrocratiaeth nac yn achosi dryswch. 

Mae'r adborth o'n hymgysylltiad yn dweud wrthym na all y Fframwaith fod yn ddogfen annibynnol ac mae angen rhagor o waith i ddatblygu fframwaith atebolrwydd ar y cyd, nodiadau ymarfer ac adnoddau ar gyfer ymarferwyr rheng flaen sy'n defnyddio'r gyfres wreiddiol o safonau, er enghraifft “plant a phobl ifanc sydd ar goll”, gyda chanllawiau ategol ychwanegol. 

Er mwyn rhoi amser i gryfhau'r Strategaeth a'r pum safon amlasiantaethol, yn ogystal â datblygu'r adnoddau ychwanegol a amlinellir uchod, rydym yn gweithio i gyhoeddi'r Strategaeth a'r set gyntaf o nodiadau ymarfer ym mis Ebrill eleni. Yna bydd nodiadau ymarfer pellach yn cael eu cyhoeddi yn ystod 2025. Ym mis Ebrill byddwn hefyd yn dechrau gweithio ar ddatblygu fframwaith atebolrwydd ar y cyd. 

Roeddwn i eisiau rhannu'r diweddariad hwn gyda chi a phwysleisio pa mor bwysig ydyw ein bod ni'n cael y Strategaeth hon yn iawn, ac yn cael y cymorth adnoddau angenrheidiol i gyflawni ei nod.