Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig ar 10 Hydref 2025 i hysbysu'r aelodau am sefydlu'r Tasglu Datblygu Nitradau Morol. Wrth i'r toriad nesáu, rwy'n darparu'r datganiad hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am waith y Tasglu a'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod y datblygu – gan gynnwys tai – yn gallu parhau mewn ffordd gynaliadwy cyn gynted â phosibl. 

Mae'r Tasglu yn dod ag uwch-swyddogion o Lywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru ynghyd. Mae'r cyfarfodydd wedi bod yn adeiladol ac yn gydweithredol – gan adlewyrchu'r uchelgais a rennir gan bob parti i ddod o hyd i atebion cynaliadwy fel mater o'r pwys mwyaf. 

Mae'r elfennau hanfodol i sicrhau atebion llwyddiannus wedi cael eu nodi a'u datblygu drwy'r Tasglu. Mae’r rhain yn cynnwys: y Cyfrifiannell Maethynnau a'r Canllawiau dan arweiniad arbenigwyr, sy'n gwneud cynnydd da; Llawlyfr ar gyfer datblygwyr dan arweiniad Awdurdodau Lleol, sydd wedi gwneud cynnydd da yn y cam datblygu; a Grŵp Masnachu Credydau Maethynnau, sydd wedi cael ei sefydlu ac sy'n cwrdd yn rheolaidd. Bydd yr offerynnau a'r canllawiau hyn yn caniatáu i ddatblygwyr a swyddogion cynllunio nodi cyfraniad eu datblygiadau ac i roi mesurau lliniaru effeithiol ar waith. 

Fel y nodwyd yn fy natganiad blaenorol, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu cymorth ariannol i'r ardaloedd yr effeithir arnynt i sicrhau eu bod yn gallu rhoi'r offer a'r canllawiau newydd hyn ar waith yn gyflym, gan gynnwys dros £500,000 i Fwrdd Rheoli Maethynnau Gorllewin Cymru a chyllid o hyd at £1.5 miliwn dros dair blynedd i gefnogi Awdurdodau Lleol.

Mae'r Tasglu hefyd wedi ystyried Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLl) yn y dyfodol, ac mae'r Prif Swyddog Cynllunio yn gweithio'n agos gyda'r Prif Arolygydd Cynllunio, CNC, a'r Penaethiaid Cynllunio Awdurdodau Lleol i sicrhau y gall Cynlluniau Datblygu Lleol yn y dyfodol symud ymlaen drwy eu harchwilio o fewn y cyd-destun newydd. 

Mae aelodau'r Tasglu yn adrodd yn rheolaidd i'r Prif Weinidog, Ysgrifenyddion y Cabinet, arweinwyr a phrif weithredwyr Awdurdodau Lleol. Rydyn ni'n optimistaidd, drwy ymdrech barhaus yr holl bartïon i roi atebion ar waith yn gyflym, a thrwy ddechrau rhoi'r offerynnau a'r canllawiau newydd ar waith, ein bod yn creu llwybr clir i ddatblygiadau barhau.