Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters , Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ers dod yn Gadeirydd y tasglu diwedd y llynedd, rwyf wedi bod yn trafod â'r aelodau sut y gallwn wneud y mwyaf o'r cyllid o £25m a ddyrannwyd ar gyfer ei waith. Rwyf wedi cwrdd ag arweinwyr awdurdodau'r Cymoedd i holi am arferion gorau y gellid eu cyflwyno ar draws ardal y tasglu, ac rwyf hefyd wedi gofyn barn Aelodau’r Cynulliad. 

Er y bydd y tasglu'n parhau i weithio i gyflawni'r holl gamau gweithredu yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni, bydd ein hymdrechion yn canolbwyntio'n benodol ar saith maes blaenoriaeth.

  • Tai
  • Yr economi sylfaenol
  • Entrepreneuriaeth a chymorth busnes
  • Trafnidiaeth
  • Canolfannau strategol
  • Cronfa arloesi tasglu'r Cymoedd
  • Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Fel cam cyntaf i gyflawni'r dull gweithredu newydd hwn, rwy'n cyflwyno menter ar draws pob awdurdod lleol yn ardal tasglu'r Cymoedd er mwyn defnyddio cartrefi gwag unwaith eto.

Rwy'n awyddus bod yr atebion yr ydym yn eu cefnogi i adfywio cymunedau'r Cymoedd yn seiliedig ar arferion da o'n cymunedau. Ers 2016, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi gweithredu'r cynllun grant 'Cartrefi Gwag' sy'n cynnig cymorth i ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i gefnogi cyflwyno'r fenter ym mhob awdurdod lleol yn ardal y tasglu yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol ar hyn o bryd i drafod y manylion ac yn cynnig neilltuo tua £10 miliwn ar gyfer y cynllun hwn dros y ddwy flynedd nesaf.

Dyma waith cyffrous iawn, a fydd yn ymdrin yn uniongyrchol â'r pryderon a godwyd yn ystod y trafodaethau cychwynnol â chymunedau'r Cymoedd.  Bydd yn creu cartrefi fforddiadwy y mae gwir eu hangen ar breswylwyr y Cymoedd ac yn cefnogi'r economi sylfaenol drwy gynnwys busnesau lleol yn y gwaith adnewyddu.

Mae hefyd yn enghraifft o gydweithio go iawn gan y bydd tasglu'r Cymoedd yn gweithio ochr yn ochr â Rhondda Cynon Taf ac awdurdodau lleol eraill, ac ar draws Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynllun ar gael mewn cymunedau ar draws ardal y tasglu, ac nid yn unig yn yr ardaloedd hynny a nodwyd fel canolfannau strategol. Yn wir, rwy'n falch o gyhoeddi y bydd ffiniau'r tasglu'n cael eu hymestyn er mwyn cynnwys cymoedd Gwendraeth ac Aman. Mae Prif Weinidog Cymru wedi cytuno i ymestyn y ffiniau gan fod yr ardaloedd hyn yn rhan ddiwylliannol o faes glo De Cymru, gyda'u treftadaeth unigryw o ran mwyngloddio glo carreg, a rennir gyda'r Cymoedd cyfagos i'r dwyrain.

Edrychaf ymlaen at eich diweddaru ymhellach ar hyn a'r meysydd blaenoriaeth eraill yn y misoedd nesaf. Byddaf yn rhoi datganiad mwy manwl i'r Cynulliad ym mis Medi pan fydd cyfle i Aelodau’r Cynulliad drafod ein cynigion yn llawn.