Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o barhau i gyd-gadeirio'r Tasglu Hawliau Pobl Anabl gyda'r Athro Debbie Foster. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud.

Rwy'n falch o weld y gwaith hwn yn cael ei wneud drwy gydgynhyrchu gyda phrofiad uniongyrchol pobl anabl yn sylfaen iddo. Credaf yn gryf fod cydgynhyrchu yn rhan annatod o fynd i'r afael â'r bwlch rhwng uchelgais polisi a’r hyn sy'n cael ei ddarparu ar gyfer pobl anabl.

Mae gweithgorau'r tasglu yn cwmpasu amrywiaeth o randdeiliaid – o sefydliadau sy'n cefnogi pobl anabl i unigolion â phrofiad uniongyrchol.

Mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cydnabod ein hawydd i gryfhau hawliau pobl anabl a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maent yn parhau i’w hwynebu. Rwy'n falch bod Sian Gwenllian AS, yr Aelod Dynodedig, yn mynychu cyfarfodydd y tasglu'n rheolaidd i glywed am y camau breision yr ydym yn eu cymryd.

Rydym wedi ymrwymo i'r Model Cymdeithasol o Anabledd a gyda'n gilydd byddwn yn sicrhau llwyddiant y tasglu.

Bydd allbwn y tasglu hwn yn Gynllun Gweithredu newydd ar gyfer Hawliau Pobl Anabl, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi yng Ngwanwyn 2024. Fodd bynnag, ni fyddwn yn aros tan hynny – rydym yn gweithredu nawr.

Mae gwaith y tasglu yn seiliedig ar ddealltwriaeth gyffredin o'r Model Cymdeithasol o Anabledd, hawliau dynol, a chydgynhyrchu. Mae pob aelod o'r tasglu a'r gweithgorau wedi cael cynnig hyfforddiant ar y Model Cymdeithasol o Anabledd a ddarparwyd gan Anabledd Cymru.

Sefydlodd y tasglu grŵp blaenoriaethu i nodi'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer ei raglen waith: 

  • Gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd (ar draws Cymru)
  • Mynediad i wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
  • Byw'n annibynnol: iechyd a lles
  • Byw'n annibynnol: gofal cymdeithasol
  • Teithio
  • Cyflogaeth ac incwm
  • Tai fforddiadwy a hygyrch
  • Plant a phobl ifanc

Gwreiddio a deall y Model Cymdeithasol o Anabledd
Rydym wedi gorffen y cyfarfodydd hyn, a gadeiriwyd gan yr Athro Debbie Foster.

O ganlyniad i'r gwaith a wnaed, mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cael hyfforddiant pwrpasol mewn gwreiddio a deall y model cymdeithasol o anabledd, ac rydym yn gweithio gydag Arolygiaethau eraill i gyflwyno hyn ymhellach.

Byw'n annibynnol: gofal cymdeithasol
Mae cyfarfodydd y gweithgor ar gyfer y maes blaenoriaeth hwn wedi gorffen. Roedd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol yn y cyfarfod olaf i glywed yr argymhellion.

Byw'n annibynnol: iechyd a lles
Dan gadeiryddiaeth Willow Holloway, mae sesiynau ychwanegol yn cael eu cynnal er mwyn cynnwys mynediad pobl anabl i ddiwylliant, chwaraeon a thwristiaeth yng Nghymru.

Mynediad at wasanaethau (gan gynnwys cyfathrebu a thechnoleg)
Mae'r gweithgor, dan arweiniad Dr Natasha Hurst, wedi dod i ben ac wedi cyflwyno ei gamau gweithredu a’i argymhellion i'r tasglu.

Teithio
Mae’r gweithgor, sy'n cael ei gadeirio gan Andrea Gordon o Guide Dogs Cymru, wedi cynnal dau gyfarfod. Mynychodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd un o'r cyfarfodydd i glywed gan aelodau sut y mae materion trafnidiaeth gyhoeddus yn effeithio ar fywydau pobl anabl.

Cyflogaeth ac Incwm

Mae’r gweithgor yn cael ei gadeirio gan yr Athro Debbie Foster ac mae newydd ddechrau ar ei waith.

Mae disgwyl i'r Gweithgor Tai Fforddiadwy a Hygyrch a'r Gweithgor Plant a Phobl Ifanc ddechrau ar eu gwaith yn y misoedd nesaf.

Bydd Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Llywodraeth Cymru yn mentora arweinwyr polisi ar draws y llywodraeth i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu hystyried, a bod eu profiadau yn cael sylw llawn.

Mae hwn yn brosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono. Byddwn yn gweithio’n galed i weithredu'r newidiadau sydd wedi'u nodi gan y gweithgorau a’r tasglu i sicrhau bod Cymru'n genedl gynhwysol o ran anabledd.

Mae gwe-dudalen y tasglu hawliau pobl anabl ar gael nawr.