Lee Waters AS, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Mae heddiw yn nodi union 6 mis nes i ddeddfwriaeth newid y terfyn cyflymder diofyn ar ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 30mya i 20mya ddod i rym. Mae Cymru'n arwain y ffordd o ran gwella ansawdd bywyd pobl - gan sicrhau bod ein strydoedd a'n cymunedau yn lle croesawgar mwy diogel, gan annog mwy o gerdded a beicio, a hefyd helpu i leihau ein heffaith amgylcheddol ar yr un pryd.
Mae'r dystiolaeth yn glir, mae gyrru yn arafach yn lleihau damweiniau ac yn achub bywydau. Mae cerddwyr tua phum gwaith yn fwy tebygol o gael eu lladd wrth gael eu taro gan gerbyd yn teithio ar gyflymder o 30mya na cherbyd yn teithio ar gyflymder o 20mya.
Yn y pellter mae'n cymryd car sy'n teithio 20mya i stopio, mae car 30mya yn dal i symud ar gyflymder o 24mya. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i osgoi gwrthdrawiadau.
Cyflymder cerbydau yw un o'r prif resymau pam nad yw pobl yn ystyried dewisiadau teithio llesol. Trwy gyflwyno cyflymderau is i draffig, bydd yn annog newid moddol, gan ganiatáu i bobl wneud dewisiadau cynaliadwy yn enwedig ar gyfer teithiau byr.
Dewiswyd wyth ardal treialu i benderfynu ar y ffordd orau o weithredu 20mya ledled Cymru ac i sefydlu monitro hirdymor ar gyfer y newid. Rydym yn parhau i gasglu data cyn y cyflwyno cenedlaethol a heddiw rydym wedi cyhoeddi'r Adroddiad Monitro Dros Dro. Mae hwn yn ddata cynnar iawn, fodd bynnag, mae'n galonogol iawn gweld:
- Ar gyfartaledd, bod modurwyr yn gyrru'n arafach ym mhob un o'r ardaloedd treialu;
- Ychydig iawn o effaith a fu ar amseroedd teithio a;
- Roedd cynnydd mewn teithio llesol yn fwy mewn ysgolion o fewn yr wyth cymuned o gymharu ag ysgolion eraill a gafodd eu monitro.
Byddwn yn parhau i gasglu data o ardaloedd treialu, gan ehangu'n raddol i fonitro mwy helaeth yn dilyn cyflwyno yn genedlaethol ym mis Medi.
Ochr yn ochr â'r adroddiad interim rydym hefyd yn lansio ymgyrch gyfathrebu genedlaethol, i helpu ein cymunedau i baratoi ar gyfer y newid ac rydym wedi bod yn gweithio'n agos â rhanddeiliaid allweddol i godi ymwybyddiaeth.
Mae hwn yn newid yn y terfyn cyflymder diofyn yn hytrach na newid cyffredinol ac mae ein cydweithwyr mewn Awdurdodau Lleol yn ymgysylltu â’u cymunedau i benderfynu pa ffyrdd ddylai gadw’r terfyn cyflymder 30mya, yn unol â chanllawiau eithriadau cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio map rhyngweithiol fydd yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i awdurdodau priffyrdd fynd drwy'r broses ymgynghori.
Rydym yn gwybod bod y cam hwn cymaint am newid safbwyntiau a meddyliau â gorfodaeth – ond dros amser, bydd 20mya yn dod yn norm. Yn ystod y misoedd nesaf byddwch yn gweld llawer mwy yn y newyddion, y cyfryngau cymdeithasol, ac o hysbysebion y tu allan i'r cartref wrth i ni ddatblygu'r ymgyrch ymhellach. Cewch yr wybodaeth ddiweddaraf am bopeth ar IS-BWNC Terfynau cyflymder 20mya a Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya: Cwestiynau Cyffredin