Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ôl diwedd y cyfnod atal byr, rwy’n rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf am ymweliadau â chartrefi gofal.

Rwy’n deall yr effaith y mae cyfyngiadau ar ymweliadau yn ei chael, ar y rhai sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u hanwyliaid. Yn ystod y cyfnod atal byr, cafodd ymweliadau eu cyfyngu i amgylchiadau eithriadol yn unig ym mhob rhan o Gymru fel rhan o ymdrech genedlaethol i leihau nifer yr achosion o’r coronafeirws a diogelu unigolion mewn cartrefi gofal. Rwy’n gwybod pa mor anodd y bu’r cyfnod hwn.

Mae’r mesurau cenedlaethol newydd sydd ar waith ar ôl y cyfnod atal byr yn caniatáu i ymweliadau â chartrefi gofal ddigwydd – bydd pob awdurdod lleol yn rhannu gwybodaeth gyda’r darparwyr cartrefi gofal am y dull gweithredu yn eu hardal, a hynny’n seiliedig ar eu hamgylchiadau lleol.  

Rydym yn annog awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau am ymweliadau ar y cyd, gan ddefnyddio’r Tîm Rheoli Achos Lluosog lleol a gwybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd hyn yn golygu y gellir osgoi rhoi cyfyngiadau cyffredinol ar waith ac y gellir cefnogi ymweliadau yn yr ardaloedd hynny lle mae’r amodau’n golygu ei bod yn ddiogel gwneud hynny.   

Ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, bydd angen i ddarparwyr cartrefi gofal hefyd wneud penderfyniadau ynghylch sut y gallant gefnogi ymweliadau’n ddiogel yn eu cartrefi unigol, o ystyried eu bod yn gyfrifol am sicrhau diogelwch y bobl sy’n byw yno. 

Fel y nodwyd yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru i ddarparwyr cartrefi gofal ar ymweliadau â chartrefi gofal (https://llyw.cymru/ymweliadau-chartrefi-gofal-canllawiau-i-ddarparwyr) rydym yn annog dull o weithredu sy’n seiliedig ar asesiad risg deinamig o’r amgylchiadau yn y cartref gofal unigol, a’r bobl sy’n byw yno.

Hyd yn oed pan osodir cyfyngiadau ar ymweliadau rheolaidd, rydym yn gofyn i awdurdodau lleol a darparwyr cartrefi gofal sicrhau bod trefniadau priodol a sensitif yn cael eu gwneud i gefnogi ymweliadau o dan do mewn amgylchiadau eithriadol. Bydd hyn yn cynnwys, ond ni fydd yn gyfyngedig i, ymweliadau diwedd oes.

Rydym yn parhau i weithio gyda’n grŵp o randdeiliaid yn y sector ac yn adolygu ein dull a’n canllawiau yn rheolaidd. Rydym yn ystyried amrywiaeth o opsiynau i roi rhagor o gymorth i ddarparwyr allu caniatáu i ymweliadau ddigwydd ar ôl cynnal asesiad risg. Mae’r rhain yn cynnwys y posibilrwydd o gael rhagor o le ar gyfer ymwelwyr drwy ddefnyddio podiau neu unedau modiwlaidd a’r posibilrwydd o ddefnyddio technoleg profi cyflym.

Mae’r angen i gydbwyso hawliau pobl a chefnogi eu llesiant gyda’r dymuniad i ddiogelu pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal rhag y perygl o gael eu heintio yn parhau i gyflwyno heriau, ac rwy’n ddiolchgar i’r awdurdodau lleol a’r darparwyr am eu hagwedd gadarnhaol wrth fynd i’r afael â’r materion anodd hyn.

Rhaid inni wneud popeth posibl i helpu pobl i weld eu hanwyliaid yn y ffordd fwyaf diogel posibl.