Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig - Diweddariad ar ymweliad diweddar â Seland Newydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnes i ymweld â Seland Newydd, gan fwriadu meithrin cysylltiadau a rhannu gwybodaeth.  Fel Cymru, mae Seland Newydd yn genedl allblyg sy’n masnachu’n fyd-eang ac y gellir dadlau sy’n gor-gyflawni yn sylweddol o ran ei safle yn y farchnad fyd-eang. Wrth i’r DU adael yr UE mae gan Gymru lawer i’w ddysgu gan wledydd fel Seland Newydd yn enwedig ym meysydd fel bwyd a diod. Er ein bod ni fel Llywodraeth yn parhau i ddadlau dros fynediad llawn a dirwystr i’r Farchnad Sengl ac i fod yn rhan o undeb tollau gyda’r UE, rydym wedi ymrwymo i ryng-genedlaetholdeb ac yn derbyn yn llwyr bod cyfleoedd masnachu sylweddol i’w harchwilio y tu allan i Ewrop.

Tra yn Seland Newydd, gwnes i gyfarfod â busnesau cig eidion, cig oen a llaeth, ffermwyr a’r sefydliadau allweddol perthnasol o fewn y diwydiant ac o ganlyniad, rwyf yn fwy argyhoeddedig nag erioed bod cyfnod trawsnewidiol yn hanfodol wrth i Lywodraeth Cymru a rhanddeiliaid weithio’n agos gyda’i gilydd i ystyried dyfodol ein gwlad mewn byd y tu allan i’r Polisi Amaeth Cyffredinol.

Rwy’n ddiolchgar i dîm Uchel Gomisiwn y DU a fu’n gweithio’n agos gyda ni i lunio rhaglen mor gynhwysfawr. Roedd y rhaglen hefyd yn cynnwys nifer o gyfarfodydd â Gweinidogion ac Uwch swyddogion a oedd yn cynnwys pynciau  yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, cynhyrchu ynni adnewyddadwy, tlodi tanwydd, coedwigaeth, dileu TB, masnach a chynaliadwyedd amgylcheddol. Rydym wedi datblygu cysylltiadau sy’n ein galluogi i gyfnewid syniadau a’r gwersi a ddysgwyd. Roeddwn yn falch o allu cynnig profiadau mewn meysydd fel ailgylchu lle rydyn ni’n arweinwyr gwirioneddol fyd-eang.

Roedd hefyd yn anrhydedd gweld baner Cymru yn chwifio y tu allan i Senedd Seland Newydd ar y diwrnod y croesawodd y Senedd fi ac rwyf yn obeithiol mai’r daith hon yw dechrau’r daith i adeiladu ymddiriedaeth a phartneriaeth, gan ganiatáu i ni edrych ar feysydd a fydd o fudd i’r ddwy ochr.

Mae pryderon ynghylch natur unrhyw Gytundeb Masnach Rydd gyda Seland Newydd yn parhau a thynnais sylw Vangellis Vitalis, Dirprwy Weinidog dros Faterion Tramor a Masnach yn Llywodraeth Seland Newydd at y pryderon hyn. Roeddwn yn falch o glywed eu bod yn cydnabod ein pryderon ac yn barod i weithio gyda’r Gweinyddiaethau Datganoledig ar y materion hyn.