Cefin Campbell AS, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol
Mae addysg uwch yn un o asedau cenedlaethol mwyaf Cymru: addysgu gweithlu’r dyfodol, ysgogi ymchwil ac arloesi, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus, cryfhau cymunedau, a chyfrannu at ein hiaith a’n diwylliant. Fodd bynnag, mae ein prifysgolion yn wynebu heriau difrifol sy’n gofyn am weithredu difrifol – diwygio beiddgar, strwythurol, yn hytrach na datrysiadau graddol.
Heddiw rwyf wedi cyhoeddi’r Cylch Gorchwyl ar gyfer adolygiad eang a chynhwysfawr o gyllid a threfniadaeth addysg uwch.
Mae’r cylch gorchwyl yn adlewyrchu fy uchelgais ar gyfer addysg uwch a difrifoldeb y sefyllfa. Bydd yr adolygiad yn archwilio cynaliadwyedd sefydliadau a sut mae myfyrwyr yn cael eu cefnogi i gael mynediad at addysg uwch a llwyddo ynddi. Bydd y gwaith yn cael ei wneud yn gyflym, gydag adroddiad interim ar gymorth i fyfyrwyr yn cael ei gyflwyno yn haf 2027 ac adroddiad terfynol llawn yn y gaeaf canlynol.
Bydd yr adolygiad hwn yn cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, ond bydd yn adolygiad annibynnol. Bydd yn cael ei arwain gan gadeirydd annibynnol a hynod brofiadol, gyda chefnogaeth panel arbenigol bach. Byddaf yn cyhoeddi enw’r cadeirydd ac aelodau eraill y panel maes o law. Bydd yr adolygiad yn dechrau ar y gwaith yn gynnar yn yr hydref. Bydd y panel yn cynnwys arbenigwyr ar bolisi addysg uwch o Gymru a thu hwnt.
Bydd yn hanfodol trafod â rhanddeiliaid a chael eu barn. Bydd grŵp cynghori rhanddeiliaid yn cael ei sefydlu i sicrhau bod ystod eang o leisiau yn cael eu clywed, a’u galluogi i rannu tystiolaeth bwysig, tra bod yr adolygiad yn parhau i fod yn annibynnol ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Rwy’n gweld yr adolygiad hwn fel cyfle i feddwl yn feiddgar am gyfraniad prifysgolion i Gymru yn y dyfodol a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn darparu’r budd mwyaf i ddysgwyr, cymunedau a’r genedl.
Rydym am gefnogi ac ymestyn ein dysgwyr mewn ysgolion a cholegau’n well, gan gynnwys y dysgwyr hynny sydd dan anfantais neu sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i gyflawni eu potensial, gan gynnwys mynd ymlaen i addysg uwch yng Nghymru.
Mewn perthynas ag Academi Seren, ein huchelgais yw datblygu rhaglen genedlaethol newydd ar gyfer cynnydd dysgwyr. Bydd un cynnig cydlynol i ddysgwyr ledled Cymru a fydd yn dwyn ynghyd elfennau cryfaf Academi Seren a’r Rhaglen Ymestyn yn Ehangach, sy’n cael ei hariannu gan Medr ar hyn o bryd.
Byddaf yn gweithio gyda Medr a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu cynigion ar gyfer cynnig cynnydd craidd sydd ar gael i bob dysgwr yn y Gymraeg a’r Saesneg, gan gynnwys anogaeth i archwilio cyfleoedd astudio a gyrfa yng Nghymru a chymorth wedi’i dargedu i ddysgwyr o gefndiroedd difreintiedig drwy integreiddio Ymestyn yn Ehangach, tra’n cadw elfennau ymestyn a herio Seren ac adeiladu arnynt.
Bydd trefniadau presennol Seren ac Ymestyn yn Ehangach yn parhau tra bod cynigion yn cael eu datblygu, a byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Aelodau yn fuan, gan gynnwys amserlenni dangosol ar gyfer gweithredu.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
