Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rydym yn parhau i wneud cynnydd ar yr argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dwyn ymlaen o’r adroddiad gan Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardaloedd Twf Lleol Powys.

Yn Llandrindod, cytunais i beilota prosiect sy’n cael ei arwain gan fusnes, i helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i fynd i’r afael â chynaladwyedd economaidd y dref.  Mae criw bychan o bobl fusnes lleol wedi bod yn cyfarfod ers rhai misoedd, o dan arweiniad Justin Baird Murray, perchennog a Rheolwr Gyfarwyddwr Gwesty’r Metropole. Ymgynghoriad gyda’r sail busnes ehangach a rhanddeiliaid eraill yn y dref, sy’n ffurfio sail i’w gwaith.  Mae’r gwaith yn mynd rhagddo’n dda a bwriedir cyflwyno eu casgliadau a’u hargymhellion i mi'r haf hwn.

Yn y Drenewydd, mae fy Swyddogion yn gweithio gyda Sefydliad Sirolli, a chyda’r gymuned fusnes a’r gymuned leol, i archwilio’r potensial o sefydlu model o ddatblygu economaidd wedi’i seilio ar y gymuned, yn y dref ac o’i hamgylch.  Bu Ernesto Siriolli ei hun yn annerch cynulleidfa o dros 100 o bobl yn y dref ac yna, cynhaliwyd cyfarfodydd pellach er mwyn symud ymlaen gyda hyn.  

Yn Aberhonddu, mae gwefan leol FYInetwork, wedi ei lansio’n ddiweddar a hyd yma, cafwyd rhyw 11,000 o ymweliadau â’r wefan.  Y bwriad yw y bydd y rhwydwaith yn galluogi masnachwyr lleol i gyfathrebu a rhyngweithio gyda’u cwsmeriaid i helpu i gynyddu’r fasnach i fusnesau lleol.  Hyd yma, mae’r gwasanaeth yn darparu gwybodaeth gan gynnwys y straeon diweddaraf, siopau a gwasanaethau, bwyta allan, cymuned, beth sy’ ‘mlaen, diwylliant, chwaraeon, moduron, hanes, a chyfeirlyfr busnes a gwybodaeth gyhoeddus.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru wedi bod yn gweithredu ers mis Ionawr eleni, gyda swyddogion wedi eu lleoli yn y Drenewydd ac yn Aberhonddu.  Mae’r gwasanaeth, ynghyd â’r gefnogaeth a ddarparwyd drwy ein timau sector a’n gwasanaethau cychwyn busnes, yn ceisio mynd i’r afael ag anghenion busnesau a chynorthwyo swyddi a thwf yn y rhan hon o Gymru.

Tynnodd y Grŵp sylw at bwysigrwydd seilwaith trafnidiaeth fodern ac effeithlon i ddatblygiad yr economi leol ym Mhowys ac, yn benodol, roedd un o’r argymhellion trafnidiaeth allweddol yn eu hadroddiad yn ymwneud â ffordd osgoi’r Drenewydd. Yn fy Natganiad diweddar ar flaenoriaethau trafnidiaeth, cyhoeddais fy mod yn bwriadu parhau i fynd ymlaen â ffordd osgoi’r Drenewydd A483/A489.  Yn ogystal â hyn, cyhoeddais y byddaf yn mynd i’r afael â gwelliannau llai a dargedwyd er mwyn delio â mannau cyfyng a gwella effeithlonrwydd y rhwydwaith ar draws Cymru.  Mae hyn yn cynnwys gwelliannau i fynd i’r afael â thagfa’r A483 canol tref y Drenewydd, fydd yn cael eu cyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf.

Rwy’n parhau i fod yn ymrwymiedig i ddod â band eang y genhedlaeth nesaf i Ardaloedd Twf Lleol Powys ac mae BT Openreach yn parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith hwn.  Mae timau BT Openreach yn dal i wneud y gwaith sylweddol o gynllunio trefnu rhaglen Superfast Cymru, gan weithio i gynllunio a gwneud arolwg o aneddiadau allweddol yn Ardal Twf Lleol Powys.  O ystyried maint y rhaglen, a’r amrywiol ddibyniaethau technegol, mae hwn yn rhan allweddol hanfodol o’r gwaith.  

Roedd yr adroddiad yn cynnwys cyfanswm o tua 40 o argymhellion, a nifer ohonynt i’r Awdurdod Lleol eu hystyried a symud ymlaen gyda nhw.  Mae’r cynnydd ar gyflwyno’r argymhellion hyn yn fater felly i Gyngor Sir Powys adrodd arno.

Yn olaf, rwyf wedi ymestyn cysyniad yr Ardaloedd Twf Lleol i Ddyffryn Teifi, a chyhoeddwyd yn ddiweddar ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen er mwyn archwilio’r cysyniad yn yr ardal honno.  Fe roddaf ddiweddariad pellach wrth i’r gwaith fynd rhagddo.