Eluned Morgan, Y Prif Weinidog
Ym mis Ionawr eleni, rhoddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Gwir Anrhydeddus Farwnes Hallett DBE, Cadeirydd Modiwl 1 Ymchwiliad COVID-19 y DU, ‘Gwydnwch a pharodrwydd y Deyrnas Unedig’.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnaed ers ein hymateb yn gynharach eleni
Strwythur a Llywodraethiant
Argymhelliad 1 – Strwythur symlach ar gyfer parodrwydd a gwydnwch system gyfan ar gyfer argyfwng sifil
Mae'r bygythiadau amrywiol ac sy'n esblygu sy'n wynebu'r DU a Chymru yn atgyfnerthu'r angen am brosesau rheoli risg a pharatoi effeithiol, a gwerth trefniadau cadarn ar gyfer ymateb i argyfyngau. Mae Llywodraeth Cymru ac ymatebwyr yn cydweithio'n agos i asesu effeithiau posibl risgiau sy'n esblygu a sicrhau bod trefniadau gwydnwch yn hyblyg i adlewyrchu'r dirwedd sy'n newid.
Gyda chymorth ymatebwyr, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y 12 mis diwethaf i addasu ac atgyfnerthu strwythurau gwydnwch, llywodraethiant, atebolrwydd a goruchwylio, a hynny yn Llywodraeth Cymru ac ar gyfer yr ymatebwyr brys.
Fel y nodwyd yn ein hymateb cychwynnol i adroddiad yr ymchwiliad, rydym bellach yn cynnal cyfarfod penodol o'r Cabinet bob blwyddyn i ystyried risgiau a pharodrwydd (ac i roi diweddariadau mynych os oes angen wrth i risgiau godi). Mae hyn yn adlewyrchu diddordeb parhaus yr holl weinidogion mewn parodrwydd am argyfyngau ac mae'n cynnal ffocws ar gynllunio at argyfyngau ar lefel uchaf y llywodraeth. Rydym eisoes wedi sefydlu strwythurau llywodraethiant Llywodraeth Cymru, sy'n dod ag uwch-swyddogion ynghyd.
Mae adolygiad hefyd wedi'i gynnal o'r trefniadau llywodraethiant ar gyfer Cymru gyfan. Ym mis Mai, cadeiriais fy nghyfarfod cyntaf o Fforwm Gwydnwch Cymru ar ei newydd wedd. Mae Fforwm Gwydnwch Cymru, a gefnogir gan Bartneriaeth Gwydnwch Cymru sydd wedi'i chryfhau, yn cydgysylltu prosesau gwneud penderfyniadau a chyflawni, gyda llinellau cyfrifoldeb clir.
Fel y nodwyd yn ymateb cychwynnol Llywodraeth Cymru i'r ymchwiliad, mae'r Pwyllgor Risg a Pharodrwydd yn rhan bwysig o drefniadau llywodraethiant a goruchwylio Llywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor, sy'n cyfarfod bob chwarter, yn dod â chyfarwyddwyr o bob rhan o Lywodraeth Cymru ynghyd i helpu i sicrhau bod strwythurau gwydnwch yn dal i fod yn effeithiol, yn benodol ac yn addas at y diben, ac mae'n ystyried gwersi a nodwyd o ddigwyddiadau, ymarferion a phroffil risg sy'n esblygu. Mae'r Pwyllgor yn pontio o swyddogaethau rheoli risg a pharatoi yn ystod ‘cyfnod o heddwch’, i swyddogaethau ymateb i argyfyngau gan oruchwylio trefniadau cydgysylltu.
Ers ein hymateb cychwynnol, mae'r Pwyllgor wedi cyfarfod ar dri achlysur i drafod ac ystyried cynigion ar amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys, ymhlith rhai eraill, Fframwaith Gwydnwch Cymru, gwersi a ddysgwyd o'r ymateb i Storm Bert a Storm Darragh, seiberfygythiadau a bygythiadau i ddiogelwch cenedlaethol, sy'n esblygu, paratoadau ar gyfer Ymarfer Pegasws, gwydnwch Seilwaith Cenedlaethol Hanfodol, a gwelliannau i brosesau rheoli data yn ystod argyfyngau.
Yn darparu cymorth i'r Pwyllgor Risg a Pharodrwydd ac yn cydgysylltu ac ysgogi'r gwaith cyflawni y mae'r Gweithgor Uwch-swyddogion, sy'n cyfarfod yn fisol.
Yng ngoleuni adroddiad Modiwl 1, gwnaethom adolygu'r trefniadau llywodraethiant hyn ym mis Ebrill 2025, ac, fel rhan o'n hymrwymiad i wella'n barhaus, caiff diben a chylch gwaith y Pwyllgor eu hadolygu'n flynyddol.
Byddaf yn adolygu'r trefniadau hyn yn barhaus, ond yng ngoleuni'r camau rydym wedi'u cymryd, rwyf o'r farn bod y broses o roi Argymhelliad 1 Modiwl 1 ar waith wedi'i chwblhau.
Argymhelliad 2: Arweiniad Swyddfa'r Cabinet ar gyfer argyfyngau sifil system gyfan yn y DU.
Yn ein hymateb cychwynnol i Gadeirydd Ymchwiliad COVID-19 y DU, gwnaethom nodi bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu'r model adran arweiniol ar gyfer pob cam o brosesau asesu risg, paratoi at argyfyngau, ymateb ac adfer. Rydym yn dilyn egwyddor hirsefydledig sybsidiaredd wrth gynllunio at argyfyngau, lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud ar y lefel isaf briodol, ac yn cael eu cydgysylltu ar y lefel uchaf sydd ei hangen.
Yn gyffredinol, mater i dimau polisi perthnasol yw arwain yr ymateb strategol i argyfwng, os yw'n rhan o'i gylch gwaith polisi. Pan fydd argyfyngau yn arwain at effeithiau y tu hwnt i un o dimau polisi Llywodraeth Cymru, rhoddir trefniadau cydgysylltu sydd wedi'u hymarfer yn dda ar waith i gefnogi'r ymateb strategol, prosesau gwneud penderfyniadau a'r broses o rannu gwybodaeth. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod angen atgyfnerthu'r dull gweithredu hwn, yn hytrach na chyflwyno un newydd yn ei le, yn achos argyfwng system gyfan estynedig, fel pandemig.
Mae ein trefniadau llywodraethiant newydd, drwy ein Pwyllgor Risg a Pharodrwydd a'n strwythurau rheoli argyfwng, yn darparu'r ymagwedd drawslywodraethol hon at barodrwydd ac ymateb, yn enwedig pan fydd digwyddid yn effeithio ar nifer o feysydd polisi gwahanol. Mae ein trefniadau llywodraethiant newydd hefyd yn golygu bod modd cynnal asesiad beirniadol o'n cynnydd tuag at liniaru'r risgiau blaenoriaeth uchel a nodwyd yn ein sail dystiolaeth risg newydd. Mae'r strwythurau cydgysylltu hyn yn sicrhau prosesau cydgysylltu a rhannu gwybodaeth a data mwy effeithiol.
Rydym yn cydnabod bod angen inni hefyd sicrhau bod ein prosesau ein hunain yn briodol, fel ein bod yn barod ar gyfer unrhyw heriau yn y dyfodol. Rydym yn cynnal adolygiad o barodrwydd y timau polisi arweiniol ac eisoes yn cyflwyno hyfforddiant newydd ar reoli risgiau, fel bod swyddogion yn parhau i feddu ar y sgiliau i ddarparu'r ymateb angenrheidiol. Er mwyn egluro ein prosesau, yn ogystal â rolau a chyfrifoldebau, rydym wedi datblygu Cysyniad Gweithrediadau mewn perthynas â'n hymateb rheoli argyfwng yn Llywodraeth Cymru.
Strategaeth, Data a Risg
Argymhelliad 3: Dull gwell o asesu risg.
Mae deall risg yn rhan hanfodol o baratoi gwydnwch, cynllunio ac ymateb. Mae'n llywio'r ffordd rydym yn lliniaru risg ac yn ein helpu i nodi'r galluoedd a'r strwythurau sydd eu hangen arnom i leihau effaith y risg honno pe bai'n cael ei gwireddu.
Tan yn ddiweddar, y prif adnodd asesu risg a ddefnyddiwyd yng Nghymru oedd Asesiad Risg Diogelwch Gwladol y DU, sef adnodd gan Lywodraeth y DU a oedd yn gosod y sail i asesu'r risgiau mwyaf difrifol yn y DU. Roedd yr adnodd yn cefnogi prosesau rheoli risg a chynllunio ar bob haen o system wydnwch y DU ond nid oedd yn mynd i'r afael â phob un o'r risgiau a oedd yn berthnasol i Gymru.
Mae angen inni feddu ar ddealltwriaeth lawn o'r risgiau sy'n benodol i Gymru. Mae angen inni hefyd ddeall risgiau byd-eang, a'r effaith y mae'r risgiau hyn yn ei chael ar nodweddion arbennig ein cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cyfres o adroddiadau ar risgiau sy'n benodol i Gymru er mwyn rhoi sail dystiolaeth well i ymatebwyr yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys Cofrestr Risgiau Cymru ddosbarthedig benodol, a gwblhawyd yn ystod hydref 2024. Mae'r gofrestr risgiau hon a gaiff ei hadolygu'n annibynnol yn defnyddio Asesiad Risg Diogelwch Gwladol y DU ond hefyd yn asesu'r risgiau mwyaf sylweddol sy'n benodol i Gymru dros y cyfnod o ddwy i bum mlynedd nesaf. Mae'r gofrestr hon bellach yn llywio ein parodrwydd am argyfyngau ac yn atgyfnerthu ein hymateb a'n gallu i adfer. Mae hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru ac ymatebwyr i nodi risgiau sy'n codi ar yr un pryd a thrwy hynny, lywio prosesau rheoli a chynllunio adnoddau dilynol.
Caiff y gofrestr risgiau ei hadolygu'n barhaus a'i diweddaru i adlewyrchu'r dirwedd risgiau sy'n newid yn barhaus. Byddwn hefyd yn parhau i lunio rhagolygon risg bob chwe mis.
Yn unol â'n hymrwymiad i wella prosesau asesu risg yn barhaus, rydym yn parhau i gydweithio'n agos â Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i atgyfnerthu prosesau asesu risg ar y cyd ledled y DU yn ogystal â chefnogi datblygiadau mewn methodolegau risg.
Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddatblygu Asesiad Risg Diogelwch Gwladol dosbarthedig y DU, ac i wella ffyrdd o ddeall risgiau a all achosi neu gynyddu tebygolrwydd risgiau eraill, neu risgiau a fyddai'n cael effaith sylweddol fwy pe baent yn dod i'r amlwg ar yr un pryd.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau cysondeb o ran y ffordd rydym yn asesu effaith risgiau ar bobl agored i niwed a phobl ag anghenion penodol. Mae hyn yn faes â blaenoriaeth ar gyfer y tîm tystiolaeth a data gwydnwch newydd Gan ddefnyddio'r gwersi a ddysgwyd o'r pandemig ac argyfyngau mwy diweddar, gan gynnwys Storm Bert a Storm Darragh ar ddiwedd 2024, a'r toriad yn y prif gyflenwad dŵr yng Ngogledd Cymru ar ddechrau 2025, rydym yn bwriadu adeiladu ar ymarferoldeb llwyfan data JISGO i ddarparu data gwell a chyflym i ymatebwyr i gefnogi'r ymateb amlasiantaethol yn ystod argyfyngau.
Argymhelliad 4: Strategaeth argyfwng sifil system gyfan ar gyfer y DU gyfan.
Mae Fforwm Gwydnwch Cymru a'i gynllun cyflawni ategol, a gyhoeddais ym mis Mai 2025, yn cadarnhau'r ffordd rydym yn gwella gwydnwch ledled Cymru. Mae'n cynnwys camau gweithredu penodol i wella'r ffordd rydym yn asesu risg, gan gynnwys yr effeithiau ar bobl agored i niwed a'n cynlluniau i weithio mewn partneriaeth ag ymatebwyr statudol i wella gwydnwch cymunedol er mwyn galluogi unigolion, busnesau a chymdeithas sifil i wella eu gwydnwch.
Fodd bynnag, gan nad yw argyfyngau yn parchu ffiniau, rydym yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig eraill i sicrhau bod gennym ddull cydgysylltiedig o ymdrin ag argyfyngau system gyfan ledled y DU ac i gysoni polisïau a hwyluso cydweithio agosach er budd ein holl ddinasyddion. I gefnogi hyn, rydym wrthi'n gweithio gyda llywodraethau eraill y DU i sefydlu Grŵp Rhyngweinidogol y Pedair Gwlad i gydweithio ar faterion a blaenoriaethau strategol ym maes gwydnwch a mynd i'r afael â nhw.
Argymhelliad 5: Data ac ymchwil ar gyfer pandemigau yn y dyfodol
Dros y chwe mis diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau breision i wella ei pharodrwydd am argyfyngau a'u gallu i ymateb mewn perthynas â data.
Rydym wedi dechrau sefydlu tîm data, tystiolaeth a dadansoddi a fydd yn integreiddio data mewn gweithgareddau cynllunio at argyfyngau ac ymateb. At hynny, cytunwyd ar femorandwm dealltwriaeth rhwng Canolfan Sefyllfa Genedlaethol y DU, a fydd yn cael ei lofnodi yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd hyn yn sicrhau darpariaeth data gytbwys yn ystod argyfyngau, gan bwysleisio ymrwymiad cadarn i wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata pan fydd argyfwng.
Ers ei sefydlu yn 2019, mae'r Rhaglen Adnodd Data Cenedlaethol wedi gwella seilwaith data iechyd Cymru. Mae dau wasanaeth – y Storfa Data Gofal a'r Llwyfan Data a Dadansoddeg Cenedlaethol – bellach yn weithredol, sy'n golygu bod modd datblygu prosesau rhannu data amser real sy'n seiliedig ar safonau ym mhob rhan o'r GIG yng Nghymru. Yn y dyfodol, bydd y datblygiadau hyn yn atgyfnerthu gallu Cymru i rannu data iechyd a lywodraethir â phartneriaid mewn modd amserol, yn enwedig wrth ymateb i argyfyngau.
Mae trefniadau llywodraethiant ffurfiol wedi'u sefydlu ar gyfer y rhaglen ac mae cyllid wedi'i ddyfarnu i Iechyd Cyhoeddus Cymru o'r Gronfa Buddsoddi mewn Blaenoriaethau Digidol i drawsnewid y system diogelu iechyd graidd fel ei bod hefyd yn gallu rheoli digwyddiadau mawr a gwaith olrhain cysylltiadau torfol, yn ogystal â gwella prosesau rhannu data a gwybodaeth. Mae gwaith yn parhau, yn sgil y cyllid a ddyfarnwyd ar gyfer y cam presennol, i gwblhau Achos Busnes Llawn erbyn mis Hydref 2025.
Mae cynnydd wedi'i wneud wrth gyflwyno Set Ddata Gofal Brys Cymru. Roedd disgwyl i'r ddau fwrdd iechyd arweiniol roi'r set ddata ar waith erbyn mis Ebrill 2025, ond bu rhywfaint o oedi o ganlyniad i faterion a nodwyd yn ystod y broses gyflwyno. Mae'r targed ar gyfer mabwysiadu'r set ddata yn llawn yn parhau, sef mis Awst 2026; ond mae risg o hyd y gallai pwysau gweithredol eraill oedi'r broses o'i rhoi ar waith y tu hwnt i'r dyddiad hwn.
Rydym wedi datblygu adnodd mapio System Gwybodaeth Ddaearyddol ar-lein er mwyn helpu i rannu data ag ymatebwyr brys yn ddiogel, fel bod modd blaenoriaethu help i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Caiff rhagor o waith ei wneud gydag ymatebwyr i ddeall sut y gellir gwella'r llwyfan hwn ymhellach er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion ymatebwyr.
Mae ymarfer bwrdd gwaith diweddar gyda phartneriaid allweddol ym mhob rhan o'r system iechyd a gofal wedi helpu i asesu parodrwydd am bandemig mewn perthynas â phrosesau casglu a rhannu data iechyd a gofal, a disgwylir i'r trefniadau hyn gael eu profi ymhellach yn ystod Ymarfer Pegasws.
Atebolrwydd, gwersi a ddysgwyd a heriau
Argymhelliad 6: Ymarfer ymateb pandemig rheolaidd ledled y DU
Yn ein hymateb i argymhellion Modiwl 1, gwnaethom nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ers tro bwysigrwydd hyfforddiant ac ymarferion fel rhan o waith cynllunio at argyfyngau ac ymateb i ddigwyddiadau mawr, ac ochr yn ochr â llywodraethau eraill y DU, byddwn yn cymryd rhan mewn ymarferion ar lefel genedlaethol a lleol sy'n rhoi sylw i bob un o risgiau trychinebus y DU drwy Raglen Ymarfer Genedlaethol ar gyfer ymarferion Haen 1.
Mae Llywodraeth Cymru yn chwarae rhan lawn yn y gwaith o gynllunio ymarfer pandemig cenedlaethol Haen 1 traws-system yn y DU (Ymarfer Pegasws), a gynhelir rhwng 17 Medi a 5 Tachwedd. Ymarfer Pegasws fydd yr ymarfer pandemig mwyaf a gynhaliwyd yn y DU erioed, a bydd yn cynnwys cyfranogiad ar lefel genedlaethol, datganoledig a lleol gan weinidogion, swyddogion, sefydliadau ymateb a'r trydydd sector. Rydym wedi sefydlu Grŵp Cydgysylltu Cymru i oruchwylio gwaith cynllunio a lefelau cyfranogi yng Nghymru, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob sefydliad allweddol sy'n rhan o'r ymarfer, gan gynnwys y trydydd sector. Mae ymarferion cynhesu wedi'u cynnal cyn y prif ymarfer, gan gynnwys Ymarfer SOLARIS a gynhaliwyd ar ran Llywodraeth Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 30 Ebrill, a oedd wedi'i anelu at yr haen ymateb leol (fforymau gwydnwch lleol), ac Ymarfer ALKARAB, wedi'i anelu at adrannau Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig, a gynhaliwyd ar 15 Mai.
Argymhelliad 7: Cyhoeddi canfyddiadau a gwersi o ymarferion argyfwng sifil
Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau a gwersi a ddysgwyd ar gyfer ymarferion argyfwng sifil Haen 1 (heblaw bod rhesymau dilys yn ymwneud â diogelwch neu ddiogelwch y cyhoedd dros beidio â gwneud hynny).
Fel rhan o'n hymrwymiad i wella'n barhaus, rydym eisoes wedi datblygu system rheoli gwersi yn Llywodraeth Cymru. Mae'r system hon yn ein galluogi i nodi gwersi o ymarferion, digwyddiadau ac ymchwiliadau ac i roi prosesau priodol ar waith i sicrhau bod y gwersi hynny'n cael eu rhoi ar waith. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod bod gwerth yn y ffordd rydym yn rheoli gwersi ar lefel Cymru gyfan, a bydd Academi Gwydnwch y DU yn gweithio gydag ymatebwyr i ystyried sut y gellir datblygu system rheoli gwersi i Gymru gyfan.
Argymhelliad 8: Adroddiadau cyhoeddedig ar barodrwydd a gwydnwch system gyfan ar gyfer argyfyngau sifil
Un o bedwar amcan Fframwaith Gwydnwch Cymru yw gwella tryloywder, cyfathrebu ac ymgysylltu. Fel rhan o'r amcan hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflwyno datganiad blynyddol i'r Senedd ar risgiau argyfyngau sifil a gwydnwch. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am risgiau presennol, ein perfformiad o ran gwydnwch, a'n parodrwydd ar hyn o bryd. Y nod yw cynyddu atebolrwydd cyhoeddus mewn perthynas â risg.
Byddwn hefyd yn cyflwyno Adroddiad ar Wydnwch gerbron y Senedd bob pedair blynedd a fydd yn nodi lefelau parodrwydd ledled Cymru. Bydd yn ystyried asesiadau ar lefel sefydliadol, rhanbarthol a chenedlaethol.
Argymhelliad 9: Defnydd rheolaidd o dimau coch
Mae timau coch eisoes yn un o nodweddion craidd ein rhaglen ymarfer. At hynny, fel rhan o'n hymrwymiad yn Fforwm Gwydnwch Cymru i sicrhau bod gennym y galluoedd priodol, byddwn yn archwilio cyfleoedd addas i ymgorffori timau coch yn ein hadolygiadau o alluoedd.
Argymhelliad 10: Corff statudol annibynnol ar gyfer y DU gyfan ar gyfer parodrwydd a gwydnwch system gyfan ar gyfer argyfyngau sifil
Rydym yn cytuno bod manteision i gyngor a chymorth annibynnol yn ein strwythurau gwydnwch, yn enwedig mewn perthynas â pharatoi ar gyfer argyfwng sifil system gyfan. Wrth adolygu'r argymhelliad hwn, rydym yn cytuno ag asesiad Llywodraeth y DU ac nid ydym o'r farn mai corff statudol annibynnol yw'r ymateb mwyaf priodol ac effeithiol gan y byddai'n dargyfeirio adnoddau hanfodol oddi wrth ein galluoedd i baratoi ar gyfer argyfyngau ac ymateb iddynt.
Gan weithio gyda Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig eraill, rydym wedi cytuno i ddatblygu paneli arbenigol annibynnol i'w cynnull gan Academi Gwydnwch y DU i ganolbwyntio ar y risgiau allweddol yn Asesiad Risg Diogelwch Gwladol y DU.
Bydd y paneli hyn yn ystyried parodrwydd am y risgiau hyn ledled y DU ac yn adrodd yn ôl i lywodraethau'r DU. Cynhelir proses beilot yn 2025 i brofi'r trefniant newydd hwn.
