Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mehefin 2013 cyhoeddwyd ymchwil Prifysgol Caeredin ynghylch y ddarpariaeth addysg ar gyfer plant a phobl ifanc a gaiff eu haddysgu y tu allan i’r ysgol. Ar ôl ystyried yr ymchwil hwn cyhoeddais ymateb a oedd yn derbyn deunaw argymhelliad, un ai’n llwyr, yn rhannol neu mewn egwyddor. Ymrwymais bryd hynny i gyflwyno’r diweddaraf ynghylch hynt y gwaith o weithredu’r argymhellion hyn.

Fel y nodais yn fy ymateb ffurfiol, bydd y canllawiau ynghylch Cynnwys a Chynorthwyo Disgyblion yn cael eu hadolygu a’u hadnewyddu er mwyn mynd i’r afael â llawer o’r argymhellion hyn. Caiff y canllawiau diwygiedig eu cyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol yn 2015. Trwy ymwneud â gwahanol randdeiliaid er mwyn adolygu’r ddogfen ganllaw hon yn drylwyr gallaf sicrhau bod camau’n cael eu cymryd ynghylch saith o’r argymhellion rwyf wedi’u derbyn. Bydd y canllawiau diwygiedig yn:

  • Cydnabod effaith gwaharddiadau (argymhelliad 1), 
  • Darparu canllawiau ynghylch cofrestru a monitro disgyblion, ac yn arbennig disgyblion benywaidd (argymhelliad 9 ac 19), 
  • Annog datblygiad nodau a dibenion clir ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol a rhannu arferion da (argymhelliad 15 ac 18),
  • Hybu camau i reoli ymddygiad (argymhelliad 17), 
  • Sicrhau bod y derminoleg a gaiff ei defnyddio ym maes Addysg Heblaw yn yr Ysgol yn gyson. 
Er mwyn helpu i nodi enghreifftiau o arferion da sydd eisoes i’w gweld mewn lleoliadau Addysg Heblaw yn yr Ysgol, mae fy swyddogion wedi bod yn cydweithio â rhai awdurdodau lleol i ddatblygu astudiaethau achos o arferion da. Rwyf hefyd wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad thematig o’r ddarpariaeth bresennol. Disgwylir adroddiad ar yr adolygiad yn haf 2015. Ar ôl i Estyn gyhoeddi ei hadroddiad byddaf yn ystyried yr arferion da sydd wedi’u nodi a bydd fy swyddogion yn datblygu astudiaethau achos ychwanegol, fel y bo’n briodol. Caiff sianeli cyfathrebu presennol Llywodraeth Cymru, fel gwefan Dysgu Cymru a chylchlythyr wythnosol Dysg, eu defnyddio ar gyfer dosbarthu’r astudiaethau achos hyn. Byddwn yn disgwyl i awdurdodau lleol a chonsortia ystyried yr offer a’r adnoddau a gaiff eu darparu gan Lywodraeth Cymru er mwyn adolygu eu darpariaeth o safbwynt Addysg Heblaw yn yr Ysgol a llywio’r ddarpariaeth honno.

Er mwyn sicrhau bod unedau cyfeirio disgyblion yn cael eu rheoli’n effeithiol rwyf wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd sy’n rhoi sail statudol i bwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion. Bydd y gofyniad newydd hwn yn helpu i sicrhau cysondeb o safbwynt rheoli unedau cyfeirio disgyblion o ddydd i ddydd, a hefyd gysondeb o safbwynt ansawdd y gwasanaethau a gaiff eu darparu i blant a phobl ifanc. Caiff y gofyniad newydd hwn ei ategu gan ganllawiau statudol ynghylch sut y dylai pwyllgorau rheoli gael eu sefydlu, ynghyd â’u rolau a’u cyfrifoldebau. Bydd fy swyddogion yn cynnal y gynhadledd flynyddol ynghylch unedau cyfeirio disgyblion ym mis Rhagfyr ac rydym yn bwriadu cynnwys gweithdai er mwyn trafod datblygiad fframweithiau meincnodi ar gyfer gwerthuso deilliannau a gwerth am arian o safbwynt Addysg Heblaw yn yr Ysgol. Mae fy swyddogion yn parhau i ymwneud â rhanddeiliaid ar bob lefel, o staff sy’n gweithio mewn lleoliadau Addysg Heblaw yn yr Ysgol i reolwyr-gyfarwyddwyr consortia rhanbarthol. Mae’r gwaith yma’n fanteisiol ar gyfer pennu diwygiadau i ganllawiau a nodi agweddau ar Addysg Heblaw yn yr Ysgol lle y gallai fod angen canllawiau arferion da ychwanegol er mwyn sicrhau y gall yr holl argymhellion sydd wedi’u derbyn gael eu gweithredu.