Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf, yn amlinellu ein camau lefel uchel o dan amrywiaeth o themâu, i sicrhau bod y sector cartrefi gofal yn cael digon o gefnogaeth cyn pwysau’r gaeaf, gan ddysgu gwersi o bandemig COVID-19. Mae’r cynllun yn un elfen o Gynllun Diogelu’r Gaeaf gan Lywodraeth Cymru.

Ym mis Hydref, cyhoeddais grynodeb o’r cynnydd yn erbyn y chwe maes allweddol yn y cynllun gweithredu: atal a rheoli heintiau; cyfarpar diogelu personol; cymorth cyffredinol a chlinigol i gartrefi gofal; llesiant preswylwyr; llesiant gweithwyr gofal cymdeithasol a chynaliadwyedd ariannol. Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi diweddariad pellach yma: https://llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cartrefi-gofal

Roeddem wedi disgwyl y byddai’r gaeaf yn heriol, ac mae’n ymddangos bod hynny’n wir, yn enwedig yn rhai rhannau o Gymru lle rydym yn gwybod bod pwysau difrifol ar ein system gofal ar hyn o bryd. Ond unwaith eto, rydym wedi gweld y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol yn ateb yr heriau hyn, gan weithio gyda’i gilydd fel un i ddarparu cymorth i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae ein darparwyr cartrefi gofal a’u staff hefyd wedi parhau i weithio’n eithriadol o galed i gadw eu preswylwyr yn ddiogel ac yn iach yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rwy’n cymeradwyo pawb am eu hymrwymiad, eu hymroddiad a’u hagwedd broffesiynol. Maent wirioneddol wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

Nid yw iechyd a llesiant staff sy’n gweithio yn y maes gofal cymdeithasol erioed wedi bod mor bwysig, ac mae’n rhan allweddol o’n Cynllun Gweithredu. Rwy’n falch ein bod, drwy weithio gyda Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi gallu gwneud cynnydd mor dda yn y maes hwn, yn arbennig drwy sefydlu’r Rhaglen Cymorth i Weithwyr, yn darparu cymorth o ran iechyd a llesiant, gan gynnwys cwnsela un i un i holl staff gofal cymdeithasol ar draws y sector.

Gwyddom fod mwy o risg i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal ddal haint, a thrwy gydol y pandemig, rydym wedi gweithio i geisio taro cydbwysedd rhwng hawliau preswylwyr cartrefi gofal a’r angen i’w diogelu rhag y coronafeirws. Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Cartrefi Gofal yn nodi pecyn o fesurau atal a rheoli heintiau i helpu i reoli COVID-19 mewn cartrefi gofal yng Nghymru a chadw preswylwyr a staff yn ddiogel. Mae’r pandemig COVID-19 parhaus yn golygu bod angen i ni rannu dysgu a nodi meysydd ar gyfer gwella systemau. Mae’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran datblygu templed clinigol wrth gefn a strategaeth hyfforddi ddrafft i gefnogi cartrefi gofal, ochr yn ochr â rhaglen brofi well ar gyfer preswylwyr, staff ac ymwelwyr yn destun clod i bawb sy’n rhan o’r gwaith.

Caiff ein cynllun gweithredu cenedlaethol ei gefnogi gan gynlluniau gweithredu rhanbarthol gan bob un o’r 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru. Mae’r rhain yn dangos yn glir bod newid sylweddol wedi’i weld yn lefel y cymorth sydd wedi’i ddarparu i gartrefi gofal drwy gydol y pandemig. Mae mwy o weithio mewn partneriaeth a chyfathrebu yn digwydd â chartrefi gofal, a mae rhannu arferion da a gwersi a ddysgwyd yn nodwedd gyffredin. Hoffwn gydnabod yn arbennig y ffordd y mae byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’u partneriaid trydydd sector wedi cydweithio i fynd i’r afael â phrinder staff yn y sector cartrefi gofal annibynnol er mwyn eu galluogi i barhau i weithredu’n ddiogel.

Ym mis Mawrth 2021, bydd blwyddyn ers i’r cyfyngiadau gael eu cyflwyno i fynd i’r afael â COVID-19 a diogelu ein teuluoedd, ein cymunedau a’n gwasanaethau iechyd a gofal. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach bryd hynny, gan edrych ar y gwersi rydym wedi’u dysgu a’r camau nesaf.