Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mawrth 2022, cyhoeddais ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc. Mae'n nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati i gyflawni ei hymrwymiad i blant a phobl ifanc Cymru.

Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi diweddariad i'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc, a fydd yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed mewn amrywiol feysydd i helpu i wella bywydau i bob plentyn a pherson ifanc Cymru. Bydd hefyd yn edrych ymlaen at yr hyn y byddwn yn ei wneud nesaf.

A hithau’n ganrif eleni ers mabwysiadu Datganiad Genefa o Hawliau’r Plentyn, mae cyhoeddi’r diweddariad hwn yn ailadrodd ein hymrwymiad parhaus i gefnogi pob plentyn yng Nghymru i wireddu ac arfer eu hawliau.

Hoffwn ddiolch i aelodau Cymru Ifanc a'r Grŵp Cynghori ar Hawliau Plant a gynorthwyodd i gynhyrchu'r diweddariad hwn.

Mae llawer o waith i'w wneud o hyd, ac edrychaf ymlaen at weld y cynnydd a wnawn yn ystod y cyfnod nesaf tuag at ein huchelgais i wneud Cymru'n lle gwych i dyfu, byw a gweithio, nawr ac yn y dyfodol.