Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething MS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Diweddariad i’n Strategaeth Frechu Genedlaethol. Cyhoeddwyd ein Strategaeth ar 11 Ionawr. Er mai dim ond 6 wythnos yn ôl oedd hynny, mae llawer iawn wedi digwydd yn y cyfamser. Mae ein rhaglen wedi mynd o nerth i nerth. Mae dros 900,000 o bobl yng Nghymru – llawer ohonynt ymysg y rhai mwyaf agored i ganlyniadau gwael pe baent yn dal y coronafeirws – bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlynnau sy’n achub bywydau. Mae ail ddosau, sy’n bwysig i ddiogelu pobl yn fwy hirdymor, hefyd yn dechrau cael eu darparu. Mae dros 80,000 o bobl nawr wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn.

Rwy’n falch o gadarnhau ein bod wedi newid dau ddyddiad targed allweddol yn ein rhaglen er mwyn cyflawni ein targedau yn gynt. Ein nod nawr yw cynnig y brechlyn i bob grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill ac i’r boblogaeth oedolion ehangach erbyn diwedd mis Gorffennaf. Fodd bynnag, rhaid imi ei gwneud yn glir iawn bod yr amcanion hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar gyflenwad y brechlynnau, sy’n parhau i fod y ffactor cyfyngol. Mae’n galonogol bod Llywodraeth y DU wedi trefnu y bydd rhan o ddyraniad cyflenwad Cymru ar gael yn gynt, ond o’r wybodaeth sydd ar gael inni ar hyn o bryd mae yna bryderon ynghylch y math o gyflenwad a’r amseriad o ran ei ddarparu. Rydym bob amser wedi dweud y gallen ni weithredu’n gyflymach pe bai’r cyflenwad ar gael. Rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth y DU gadw at ei hymrwymiadau i’n galluogi i gyflymu ein rhaglen.

Mae’r Diweddariad i’n Strategaeth yn ystyried rhai o lwyddiannau ein rhaglen hyd yma, 12 wythnos ers inni ddechrau brechu. Mae hefyd yn nodi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i ddod. Yn ogystal, mae’n cadarnhau ein bwriad – yn unol â gwledydd eraill y DU – i ddilyn y cyngor interim y mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi’i roi heddiw ynglŷn â blaenoriaethu yn ystod ail gam y rhaglen.

Mae’r Diweddariad hefyd yn darparu gwybodaeth am y dystiolaeth arwyddocaol a chalonogol iawn sy’n dechrau dod i’r amlwg ynglŷn ag effaith brechu. Er bod rhaid inni barhau i fod yn ofalus ac yn bwyllog, mae’n ymddangos bod lle i fod yn obeithiol yn sgil llwyddiant ein rhaglen frechu.