Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd , Llesiant a Chwaraeon

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau’n ymwybodol bod y trefniadau teirochrog sy’n bodoli rhwng Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn golygu y cynhelir cyfarfod bob hanner blwyddyn i drafod y trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd ar gyfer sefydliadau’r GIG. Caiff ystod eang o wybodaeth ei hystyried er mwyn nodi unrhyw faterion sy’n codi a threfnu bod cymorth yn cael ei drefnu i’w datrys.

Mae’r datganiad hwn yn rhoi gwybod i Aelodau’r Cynulliad am ganlyniad y cyfarfod diweddaraf.

Mae pedair lefel i’r fframwaith:

  • Trefniadau arferol 
  • Monitro manylach 
  • Ymyrraeth wedi’i thargedu  
  • Mesurau arbennig 

O ganlyniad i’r drafodaeth yn y cyfarfod teirochrog, cafodd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei symud i lawr o’r lefel ‘monitro manylach’ i’r lefel ‘trefniadau arferol’. Mae hyn yn adlewyrchu’r cynnydd sylweddol sydd wedi’i wneud gan yr Ymddiriedolaeth, a’r ffaith ei bod wedi cytuno ar gynllun tymor canolig gyda Phrif Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans a’r holl fyrddau iechyd. Bydd hyn yn sylfaen y gellir parhau i ddatblygu arno.

Mae tri sefydliad, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi’u codi i lefel ‘ymyrraeth wedi’i thargedu’ am y rhesymau a ganlyn:
Abertawe Bro Morgannwg: nid yw’r bwrdd iechyd wedi gallu cyflawni yn unol â’r cynllun integredig tymor canolig y cytunwyd arno. Mae hefyd yn parhau i wynebu heriau o ran ei berfformiad mewn meysydd megis canser a gofal heb ei drefnu. Nid oedd modd imi gymeradwyo cynllun integredig tymor canolig y Bwrdd ar gyfer 2016/17 – 2018/19 am nad oedd yn nodi sut yr oedd y sefydliad yn bwriadu mynd i’r afael â’r heriau y mae’n eu hwynebu.

Caerdydd a’r Fro: er bod gwelliant wedi bod ym mherfformiad y gwasanaethau mewn sawl maes allweddol, nid oedd cynllun y bwrdd iechyd ar gyfer 2016/17 – 2018/19 yn ennyn digon o hyder ynof fod gan y sefydliad gynllun tair blynedd fforddiadwy y mae modd ei gyflawni.

Hywel Dda: mae’r bwrdd iechyd yn wynebu nifer o heriau hirdymor, a hyd yma nid yw wedi gallu llunio cynllun i ymdrin â hwy. Mae angen ateb strategol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau Hywel Dda yn rhai cynaliadwy.

Bydd pob un o’r tri sefydliad yn paratoi cynllun blwyddyn ac yn cael eu monitro yn ei erbyn. Yn y cyfamser, bydd gwaith yn parhau i wneud yn siŵr bod y byrddau iechyd mewn sefyllfa i ddatblygu cynllun tair blynedd y gellir ei gymeradwyo, a hynny cyn gynted ag y bo modd.

Bydd yr holl sefydliadau eraill yn parhau ar yr un lefel ag o’r blaen. Mae’r tabl yn crynhoi statws diwygiedig y sefydliadau.  

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.