Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fis Ebrill y llynedd, cyhoeddais y byddai cyffur PrEP (pre-exposure prophylaxis) ar gyfer atal HIV yn cael ei roi drwy GIG Cymru i bawb a fyddai'n elwa arno yng Nghymru. Byddai'r cyffur yn cael ei ddarparu fel rhan o astudiaeth fonitro tair blynedd er mwyn gwerthuso pa mor effeithiol ydyw.

Mae darparu cyffur PrEP yng Nghymru yn rhan bwysig o'n dull ehangach o fynd ati i atal HIV. Rwy'n falch bod modd i Gymru arwain y ffordd o ran darparu'r cyffur hwn. Mae'n ymddangos bod PrEP eisoes yn dechrau gwneud gwahaniaeth ymysg y boblogaeth sy'n wynebu risg uchel.

Rwyf wedi ysgrifennu at Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r gweithwyr proffesiynol penodol sy'n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd rhywiol integredig i ddiolch iddynt am eu hymdrechion sylweddol i ddarparu PrEP i'r rheini a fyddai'n elwa ar y cyffur.

Mae arwyddion clir bod PrEP yn cael ei dargedu'n briodol at yr unigolion hynny sy'n ymddwyn mewn ffordd beryglus.  Yn galonogol, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod 386 o gleifion wedi defnyddio'r driniaeth ataliol ers i PrEP fod ar gael am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf 2017. Maent hefyd yn dangos nad oes unrhyw un yn y garfan hon wedi mynd ymlaen i ddatblygu HIV wrth gymryd y cyffur.