Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn ymrwymiad a wnaed mewn Cyfarfod Llawn ar 11 Mawrth 2014, rwy'n darparu datganiad ysgrifenedig ynghylch y gwaith ffordd ar yr A40 yng Nghrucywel.

Codwyd y goleuadau traffig dros dro yng Nghrucywel yn sgil niwed i wal restredig wrth ochr y gefnffordd.  Niweidiwyd y wal, sydd dan berchnogaeth breifat, mewn gwrthdrawiad, ac fe osodwyd y goleuadau er mwyn caniatáu i'r wal gael ei sefydlogi am resymau diogelwch, ac i atal dirywiad pellach.

Mae swyddogion rheoli adeiladu Cyngor Sir Powys yn delio â pherchennog y wal, ac yn trafod hefyd gyda swyddogion CADW yn sgil ei statws rhestredig. Dywedwyd wrth fy swyddogion y dylai'r gwaith gymryd tua phythefnos i'w gwblhau, ond nad oes dyddiad cychwyn wedi'i gadarnhau hyd yma.  Mae fy swyddogion yn pwyso ar bob un o’r partïon i gadarnhau'r dyddiad hwnnw.

O ran ad-drefnu'r goleuadau traffig ar Heol Llanbedr a Ffordd Newydd, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion drafod blaenoriaethau'r goleuadau traffig gyda Chyngor Sir Powys, gan mai nhw yw'r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer y ddwy briffordd sirol.