Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers derbyn cyfrifoldeb am faterion morol a physgodfeydd yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog Cyfoeth Naturiol, bûm yn ystyried y ffordd orau o sicrhau ein bod yn rheoli ein hadnoddau naturiol yn yr amgylchedd morol mewn modd effeithiol a chynaliadwy yn unol â'm hamcanion polisi ehangach.  Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i'r amcanion a'r dull gweithredu a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Strategaeth y Môr a Physgodfeydd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2013, sef fframwaith ar gyfer moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. 

Ers hynny, mae'r Llywodraeth wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at weithredu'r dull gwahanol o stiwardio’r amgylchedd morol yr oeddem o'r farn bod ei angen.  Roeddem yn disgwyl iddo gymryd blynyddoedd i'w weithredu, ac mae hynny'n wir o hyd. Fodd bynnag, yn ystod yr 16 mis cyntaf, rydym wedi rhoi nifer o sylfeini pwysig ar waith ar gyfer gwneud cynnydd ac wedi cwblhau rhai camau byrdymor pwysig.  

Bydd y sawl sy'n ennill eu bywoliaeth o'r môr, neu'n ei ddefnyddio'n rheolaidd, yn cydnabod hyn. Dyna'r rheswm pam ein bod, ar y cyd â rhanddeiliaid defnyddiol iawn, wedi sefydlu'r prif dasgau sy'n ofynnol a'r prosesau ar gyfer gwneud hynny. Mae hynny oll, a'r agweddau cadarnhaol a'r ymdeimlad o gydweithredu sy'n bodoli bellach, yn sylfaen gadarn ar gyfer gwneud cynnydd. Rwyf am adeiladu ar hynny. Yn ystod y cyfnod sy'n weddill o dymor y Cynulliad hwn, bwriadaf ganolbwyntio mwy ar gyflawni'r prif agweddau. 

Dros y misoedd diwethaf, bu'n rhaid i ni ystyried popeth a wnawn ar draws fy mhortffolio mewn ffordd feirniadol ac adeiladol yng nghyd-destun y sefyllfa anodd a wynebir gan bob gwasanaeth cyhoeddus. Mae heriau ychwanegol wedi codi ar adegau ac mewn ffyrdd na allem fod wedi eu rhagweld, fel y gofynion i ddiogelu llamhidyddion harbwr a'r materion sy'n dod i'r amlwg o ran rheoli pysgodfeydd draenogiaid y môr.  

Yn unol â hynny, rydym wedi nodi'r materion â'r blaenoriaeth strategol pwysicaf y mae angen i ni eu cyflawni cyn gynted â phosibl. Credaf ein bod bellach mewn sefyllfa dda ac mae gennym amserlen glir i gyflawni'r blaenoriaethau hynny;  bwriadaf gadw at yr amserlen ar gyfer cyflawni'r blaenoriaethau hynny yn ystod y cyfnod sy'n weddill o dymor y Cynulliad hwn. 

Fy ngweledigaeth fel Gweinidog Cyfoeth Naturiol yw sicrhau ein bod yn diogelu ein hadnoddau mewn ffordd gyfrifol a rhesymol, ac yn unol â'n rhwymedigaethau gwarchod; ond hefyd mewn ffordd sy'n galluogi pobl i barhau i ennill bywoliaeth drwy ddefnyddio’r adnoddau hynny'n gynaliadwy, fel y maent wedi gwneud ers cenedlaethau mewn nifer o achosion.  Mae hyn yn arbennig o wir am y pysgodfeydd arfordirol bach sydd gennym yng Nghymru, sy'n pysgota'n benodol am granc a chimychiaid â chewyll, y mae cenedlaethau o deuluoedd wedi ennill bywoliaeth gynaliadwy ohonynt heb fawr ddim effaith ar yr amgylchedd.  Rwyf am ddarparu sylfaen gadarn er mwyn galluogi'r rheini sy'n ennill eu bywoliaeth ar hyn o bryd o weithgarwch pysgota effaith isel o'r fath barhau i wneud hynny. 

Rwyf am i bawb sy'n ennill bywoliaeth o'r môr yn uniongyrchol, ni waeth pa sector y maent yn perthyn iddo fel pysgota, ynni adnewyddadwy, neu dwristiaeth, a'r rheini sy'n dibynnu ar ein hardaloedd morol er mwyn cynnal eu gweithgareddau hamdden a chwaraeon, sylweddoli na ellir cymryd yr amgylchedd morol na'i adnoddau yn ganiataol. Mae ein harfordiroedd a'n moroedd yn adnoddau naturiol gwych, a gaiff eu mwynhau gan lawer o drigolion ac ymwelwyr, a'u defnyddio gan lawer o fusnesau. Lle y gellir cael mynediad iddynt am ddim, dylid sicrhau bod hynny'n parhau. 

Mae'n rhaid i ni ymddwyn mewn ffyrdd cyfrifol; a bod yn barod i wneud cyfraniad cadarnhaol at yr amgylchedd hwnnw er mwyn cael budd perthnasol ohono. Fel unrhyw amgylchedd naturiol arall, rhaid trin y môr fel rhywbeth sy'n rhoi budd i ni yn gyfnewid am rywbeth arall. I bysgotwyr masnachol, gallai hyn olygu gwarantu i roi gwybodaeth am y ddalfa neu dystiolaeth arall, yn gyfnewid am fynediad sicr i'r bysgodfa bob blwyddyn a dalfa ddibynadwy y gellir ei rhagweld. I enweirwyr môr hamdenol, gallai olygu bodloni gofynion o ran maint a nifer y pysgod yn gyfnewid am stoc dda y gallant barhau i bysgota amdani am ddim.  I'r rhai sy'n datblygu seilwaith morol mawr, megis ar gyfer ynni adnewyddadwy, gallai olygu buddsoddi yn yr economi leol, yn ogystal â ffi'r drwydded, yn gyfnewid am yr hawl i ddatblygu a rhedeg y safle dros nifer benodol o flynyddoedd.  I'r rhai sy'n rhedeg mentrau twristiaeth a'r rhai sy'n mwynhau nofio, syrffio neu hwylio, gallai olygu ymddwyn yn gyfrifol a chydymffurfio ag unrhyw reolau a chyfreithiau perthnasol, a rhoi gwybod am y sawl nad ydynt yn gwneud hynny, yn gyfnewid am yr hawl i barhau i fwynhau'r môr yn y ffordd honno.  Drwy wneud hynny, gall pob un ohonom fwynhau ein hamgylchedd morol; a bod yn hyderus y gallwn wneud hynny'n well yn y dyfodol. 

Er mwyn cefnogi'r dull gweithredu hwnnw, gan ystyried yr holl ofynion gwahanol ar ein hamgylchedd morol, mae angen i ni gael fframwaith priodol ar gyfer rheoli'r gweithgareddau gwahanol hynny. Mae nifer o sectorau, wrth gydnabod y cyfleoedd ar gyfer datblygu cynaliadwy a thwf, yn ystyried y môr a'i adnoddau naturiol yn gynyddol. Ceir cyfle i gysoni polisi a chynlluniau ar gam cynnar, ac i geisio goresgyn gwrthdaro a hyrwyddo meysydd cydfuddiannol. 

Mae Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol yn cynnig cyfle defnyddiol iawn i asesu cyflwr ein moroedd, ac i geisio eu gwella er budd pawb. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni ein rhwymedigaethau o dan y Gyfarwyddeb ac rydym ar y trywydd iawn i wneud hynny.  Mae'r Gyfarwyddeb yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-Wladwriaethau roi mesurau ar waith i ennill neu gynnal Statws Amgylcheddol Da ar gyfer eu moroedd erbyn 2020.  Mae'n gyson â gweledigaeth y DU i sicrhau 'cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol'. Mae'r broses o weithredu'r Gyfarwyddeb yn rhan o becyn o bolisïau a fydd yn helpu i gyflawni'r weledigaeth hon fel gweithredu Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir a diwygio'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Mae'r Gyfarwyddeb yn cynnwys diffiniad manwl o Statws Amgylcheddol Da ac 11 o ddisgrifyddion manwl o Statws Amgylcheddol Da y mae'n rhaid i Aelod-Wladwriaethau eu defnyddio fel sail i'w targedau a'u dangosyddion cenedlaethol.  

Ceir tri cham allweddol i'r broses o weithredu'r Gyfarwyddeb. Rydym wedi cwblhau Cam 1 o'r asesiad cychwynnol o statws presennol ein moroedd ac wedi nodi nodweddion Statws Amgylcheddol Da ar gyfer ein dyfroedd, ynghyd â thargedau a dangosyddion amgylcheddol mwy penodol i ategu hyn; a Cham 2 yn manylu ar y rhaglenni monitro i fesur cynnydd tuag at Statws Amgylcheddol Da.

O ran Cam 3, erbyn mis Rhagfyr 2015, mae angen i ni greu rhaglen o fesurau i ennill Statws Amgylcheddol Da erbyn 2020 (a ddylai fod yn weithredol erbyn 2016) a rhaglen o fesurau i'w chyflwyno i'r Comisiwn erbyn mis Mawrth 2016. Mae'r cynigion hyn yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus ledled y DU gyfan a fydd ar agor tan 27 Ebrill 2015. Fel rhan o'r broses ymgynghori, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad i randdeiliaid ar 6 Mawrth.  Roedd yn bleser gan Lywodraeth Cymru groesawu dros 40 o randdeiliaid amrywiol, yn cynrychioli amrywiaeth o sectorau. 

Rydym yn ymrwymedig i gyflawni Cynllun Morol, ac rydym eisoes wedi gwneud llawer o waith tuag at ei gyflawni. Ein bwriad yw i'r cynllun morol wneud y broses o gynllunio'r gweithgareddau amrywiol yn gliriach i bawb dan sylw. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ein moroedd yn gwireddu eu potensial i wneud cyfraniad mwy at ein lles, at gyflawni twf economaidd morol ("Twf Glas") ac at feithrin amgylchedd i gynyddu nifer y swyddi cynaliadwy. 

Mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â gweinyddiaethau eraill y DU, yn ymrwymedig i Ddatganiad Polisi Morol y DU a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2011.  Mae Cyfarwyddeb yr UE ar Gynllunio Gofodol Morol, a ddaeth i rym y llynedd, yn ategu gofynion ac egwyddorion Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009). Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd statudol i gyflwyno cynllun morol. Bydd y Cynllun Morol rydym yn ei ddatblygu yn chwarae rôl bwysig wrth reoli ein moroedd mewn ffordd gadarn a chynaliadwy a fydd yn sicrhau dyfodol hirdymor ein moroedd.  Bydd y Cynllun yn rhoi eglurder i wneuthurwyr penderfyniadau a'r rhai sy'n cynnal gweithgareddau morol. Bydd Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cwmpasu rhanbarth glannau (0-12 milltir fôr) a rhanbarth môr mawr (mwy na 12 milltir fôr) Cymru a bydd yn gynllun morol unigol i Gymru. 

Rydym bellach yn drafftio'r Cynllun, a byddwn yn parhau i gynnwys rhanddeiliaid drwy gydol 2015 wrth i ni wneud hynny. Cynhaliwyd cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus er mwyn hwyluso cyfranogiad yn ystod yr ymgynghoriad ar y weledigaeth a'r amcanion drafft. Mae'r rhan fwyaf o ymatebwyr a rhanddeiliaid yn croesawu'r system gynllunio newydd ac yn cefnogi'r cynigion yn gyffredinol. Cafwyd awgrymiadau defnyddiol o ran gwelliannau i'r weledigaeth, strwythur y Cynllun a'r Ymarfer Cwmpasu Strategol, sy'n llywio'r gwaith o ddrafftio'r Cynllun. 

Byddwn mewn sefyllfa i gyhoeddi Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer ymgynghoriad erbyn diwedd y flwyddyn.  Rydym wedi gwneud llawer o waith i gasglu tystiolaeth i gefnogi'r cynllun. Mae'r dystiolaeth hon bellach yn cael ei choladu a'i rhannu â'r bobl a'r sefydliadau allweddol yn y diwydiant sy'n gweithio gyda ni i ddatblygu'r Cynllun. Rydym hefyd wedi gallu sefydlu porth ar-lein sy'n darparu amrywiaeth eang o fapiau a gwybodaeth, a hynny am y tro cyntaf. http://lle.wales.gov.uk/apps/marineportal/?lang=Cy  

Mae rhai o'r materion i'w cynnwys yn y Cynllun Morol yn parhau i fod yn rhan o gymhwysedd Llywodraeth y DU, er bod hyblygrwydd yn amlwg ynghylch y sefyllfa ddatganoli ar hyn o bryd. Maent yn ymwneud ag amddiffyn, prosiectau ynni ar raddfa fawr a thrwyddedu a chadwraeth forol môr mawr.  Mae'r ansicrwydd ynghylch pwy sydd â chyfrifoldeb hirdymor am yr olaf o'r rhain wedi golygu ein bod wedi gorfod aros ychydig yn hirach na'r hyn a fwriadwyd yn wreiddiol cyn bwrw ymlaen â'r Cynllun Morol. Yn amlwg, bydd yr ymgynghoriad ar Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn ystyried y trefniadau cyfansoddiadol a fydd wedi datblygu erbyn hynny.

Cydnabyddaf bwysigrwydd diogelu ein hamgylchedd morol drwy fesurau cadwraeth priodol. Rwyf am bwysleisio fy ymrwymiad i gyflawni ein rhwymedigaethau i wneud hynny.  Mae rhannau sylweddol o'n moroedd eisoes wedi'u dynodi'n ardaloedd morol gwarchodedig, gan adlewyrchu eu pwysigrwydd cenedlaethol a rhyngwladol i fywyd gwyllt morol. Er mwyn gwella'r modd rydym yn ymdrîn ag Ardaloedd Morol Gwarchodedig, ac i ystyried tasgau ychwanegol, rydym wedi ail-gwmpasu ein gwaith er mwyn sicrhau y canolbwyntir ar sicrhau bod Cymru yn cyfrannu at rwydwaith ecolegol ystyrlon o Ardaloedd Morol Gwarchodedig ym moroedd y DU. 

Rydym eisoes yn ymwybodol o rai heriau yn y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig fel yr angen i nodi Ardaloedd Cadwraeth Arbennig er mwyn diogelu llamhidyddion harbwr.  Mae'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur wedi bod yn gweithio gydag asiantaethau'r pedair gwlad er mwyn cynnal y dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr a gynhaliwyd erioed o ddata ar lamhidyddion harbwr gyda'r nod o nodi safleoedd posibl i'w dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae'r broses hon wedi nodi nifer o safleoedd posibl ledled y DU sy'n cynnwys tair ardal forol yng Nghymru. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi dechrau rhannu gwybodaeth am y safleoedd posibl y gellid ymgynghori arnynt yn ddiweddarach eleni. Disgwyliaf gael argymhellion ffurfiol gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn gynnar yn yr haf. Os byddaf yn penderfynu bwrw ymlaen â'r cynigion, bydd y broses yn parhau yn ystod 2015, gydag ymgynghoriad ffurfiol dros yr haf. 

Gwyddom hefyd fod angen i ni ddosbarthu rhagor o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig er mwyn atgyfnerthu'r broses o ddiogelu adar o fewn y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Gan y bydd hyn yn cynnwys yr un ardaloedd o fôr â'r Ardaloedd Cadwraeth Arbennig posibl ar gyfer llamhidyddion harbwr, byddwn yn cyfuno'r gwaith hwn er mwyn rhoi darlun mwy cynhwysfawr i ddefnyddwyr morol o ardaloedd gwarchodaeth newydd posibl ym moroedd Cymru. Caiff y gwaith hwn ei ychwanegu at ein prosiect Ardaloedd Morol Gwarchodedig presennol gyda'r nod o ddosbarthu unrhyw Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig newydd a chyflwyno darpar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gyfer llamidyddion harbwr i'r Comisiwn Ewropeaidd erbyn diwedd 2015, gan ddilyn yr amserlen y cytunwyd arni ledled y DU.  

Bydd hyn yn cwblhau ein cyfres o Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ac Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn unol â'n rhwymedigaethau morol o dan Gyfarwyddebau 'Adar' a 'Chynefinoedd' Ewropeaidd. Byddwn yn defnyddio ein harchwiliad o'r rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a'n dadansoddiad o fylchau er mwyn nodi a oes angen i ni wneud unrhyw beth arall i gwblhau ein cyfraniad at y rhwydwaith drwy ddiogelu rhywogaethau neu gynefinoedd o bwys cenedlaethol. Byddwn yn ystyried ymestyn cwmpas y gwaith hwn os caiff ein cylch gwaith cadwraeth forol ei gynyddu i gynnwys yr ardal môr mawr. 

Gwnaed cynnydd da wrth ddatblygu dull gweithredu sy'n adeiladu ar arbenigedd presennol er mwyn sicrhau y caiff ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig eu rheoli mewn ffordd gyson ac effeithiol yn yr hirdymor. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym rwydwaith a reolir yn dda o safleoedd sydd mewn cyflwr da. Bellach, bydd angen ymestyn cwmpas y gwaith hwn er mwyn ystyried unrhyw Ardaloedd Cadwraeth Arbennig newydd ar gyfer llamhidyddion harbwr ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig ychwanegol cyn cytuno ar y ffordd ymlaen. 

Mae'n debyg mai pysgodfeydd yw ein gweithgarwch morol mwyaf hirsefydledig ac mae'n un sydd wedi gwneud cyfraniad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hanfodol at lawer o gymunedau ers canrifoedd. Maent yn parhau i wneud hynny ac rydym yn ymrwymedig i gefnogi a gwella ein pysgodfeydd masnachol, ac i weithio gyda'r diwydiant pysgota. Mae'n rhaid i ni fod yn realistig am y cyd-destun ehangach y mae'n rhaid i ni bellach weithredu a rheoli ein pysgodfeydd ynddo, a'r heriau sy'n gysylltiedig ag ef. 

Yn gyntaf, ledled y byd, mae llawer o stociau o rywogaethau o bysgod wedi lleihau dros y blynyddoedd diwethaf. Ceir canfyddiad ymhlith y cyhoedd, sydd weithiau'n anghywir, nad yw pysgodfeydd gwyllt yn gynaliadwy. Nid yw hynny mor wir am bysgodfeydd yng Nghymru, yn enwedig gan mai pysgod cregyn a dargedir yn bennaf. 

Yn ail, mae llawer o'n dyfroedd arfordirol wedi'u dynodi'n Safleoedd Morol Ewropeaidd ac mae'n rhaid iddynt gael eu gwarchod yn unol â'r rhwymedigaethau perthnasol. Efallai y bydd angen dynodi rhagor o ardaloedd, fel yr eglurwyd uchod. Dylid sicrhau bod caniatáu gweithgareddau pysgota priodol yn yr ardaloedd hyn yn uchelgais os oes stociau yn yr ardaloedd hynny y gellir eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy; ond, er mwyn gwneud hynny, mae angen llawer o dystiolaeth a chydweithrediad sylweddol gan bysgodfeydd. 

Yn drydydd, mae angen i ni gael sylfaen dystiolaeth lawer gwell am stociau pysgod a'r ecosystemau lle maent yn byw yn fwy cyffredinol, er mwyn ein galluogi i wneud penderfyniadau ynghylch pysgodfeydd yn unol â'n rhwymedigaethau o ran pysgota'n gynaliadwy (yn unol â'r Cynnyrch Cynaliadwy Mwyaf) o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin.  Mae gennym nifer o raglenni a mentrau ar waith i fynd i'r afael â hyn, gan weithio gyda physgotwyr sy'n chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni hyn. 

Yn bedwerydd, cydnabyddaf nad yw deddfwriaeth ar bysgodfeydd bob amser mor hyblyg a chyfredol ag y gallai fod.  Fodd bynnag, rydym yn parhau i adolygu'r ddeddfwriaeth bresennol yng Nghymru ar bysgodfeydd, gan gynnwys yr Is-ddeddfau a drosglwyddwyd i Lywodraeth Cymru o Bwyllgorau Pysgodfeydd Morol.  Byddwn yn diweddaru'r rhain ar sail blaenoriaeth, gan ystyried barn rhanddeiliaid. 

Yn bumed, cydnabyddaf fod y rhan fwyaf o bysgotwyr yng Nghymru yn rhedeg cychod bach a busnesau bach ac maent yn gweithio'n galed iawn i ennill bywoliaeth na ellir byth ei sicrhau.  Nid oes bob amser traddodiad cryf o gydweithredu rhwng pysgotwyr. Mae hynny wedi dechrau newid mewn ffordd gadarnhaol iawn dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Cymdeithas Pysgotwyr Cymru yn rhan allweddol o hynny. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i gynrychiolwyr llawer o gymdeithasau pysgota sy'n rhoi o'u hamser, eu profiad a'u syniadau wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru ar dri Grŵp Pysgodfeydd y Glannau.  Rhaid i'r cydweithrediad hwnnw â'r Llywodraeth, a rhwng pysgotwyr, barhau a gwella ymhellach er mwyn sicrhau'r manteision economaidd mwyaf posibl a rheolaeth gydweithredol effeithiol mewn pysgodfeydd. 

Mae'r cam hwnnw tuag at gyd-reoli eisoes yn llywio ein meddylfryd. Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn ffordd adeiladol iawn er mwyn nodi'r tasgau â blaenoriaeth y dylid eu datblygu o ran diweddaru ein deddfwriaeth ar bysgodfeydd a'r modd y cânt eu rheoli. Dros y misoedd nesaf, byddwn yn canolbwyntio ar adolygu'r pysgodfeydd ar gyfer draenogiaid y môr, cregyn bylchog a gwichiaid moch gyda'r nod o nodi mesurau newydd yn ystod y flwyddyn i ddod a'u gweithredu cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn ychwanegol at waith pwysig iawn sydd ei angen o dan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, yn enwedig i weithredu'r "gwaharddiad ar daflu pysgod yn ôl" arfaethedig. 

Blaenoriaeth arall eleni fydd nodi effaith y sector anfasnachol ar lawer o'n pysgodfeydd pwysig a phwysigrwydd economaidd y gweithgarwch hwn. Mae llawer o bobl sy'n mwynhau pysgota at ddibenion hamdden yn ein moroedd. Fodd bynnag, ni ddylai neb geisio gwerthu unrhyw bysgod a gaiff eu dal yn y ffordd hon yn anghyfreithlon. Mae hyn yn annheg ar bysgodfeydd masnachol a bwriadaf fynd i'r afael â hyn drwy roi gwybodaeth glir i fwytai a thafarndai am eu cyfrifoldebau wrth brynu pysgod a gaiff eu dal yn anghyfreithlon. Yn fwy cyffredinol, byddwn yn sicrhau yr eir i'r afael yn briodol ag effaith y rheini nad ydynt yn bysgotwyr masnachol trwyddedig ar stociau pysgod wrth i ni ddiweddaru deddfwriaeth ar bysgodfeydd gwahanol.   

Hefyd, bwriadaf gyflwyno Gorchymyn i'r Cynulliad i ddiweddaru ein deddfwriaeth ar gramenogion yn fuan.  Mae hwn yn ddarn pwysig o waith a ddatblygwyd dros y ddwy flynedd diwethaf er mwyn gwella cynaliadwyedd rhai o'n pysgodfeydd pwysicaf ar gyfer crancod a chimychiaid a'r modd y cânt eu rheoli.  Bwriadaf hefyd wneud datganiad yn fuan ar y mater yn ymwneud â "Hawliau Mynediad Hanesyddol", y gwnaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ar y pryd ddatganiad ysgrifenedig yn ei gylch ar 11 Chwefror 2014. 

Byddwn hefyd yn bwrw ymlaen â gwaith pwysig yn ystod y flwyddyn nesaf o ran y modd y caiff y pysgodfeydd cocos a'r bysgodfa morgathod eu rheoli, yn cynnal adolygiad o ddeddfwriaeth Prynwyr a Gwerthwyr Pysgodfeydd ac yn datblygu Cynllun Dyframaethu i Gymru. Disgwyliaf i'r tasgau hynny gael eu cwblhau yn y flwyddyn ar ôl diwedd Tymor y Cynulliad hwn ym mis Ebrill 2016.



Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.