Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw mae'n Ddiwrnod Byd-eang y Plant. Mae dathliad arbennig eleni i nodi 25 mlwyddiant cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Mae gennym weledigaeth glir ar gyfer plant - rydym am i Gymru fod yn wlad lle mae hawliau plant yn cael eu gwireddu i bob plentyn. Dyna pam rydym yn rhoi cymaint o bwyslais ar yr CCUHP. Rhaid i blant gael y canlynol: diogelwch, mynediad at addysg dda, cartrefi da, gofod i chwarae, parch, llais a pheidio â bod dan anfantais yn sgil tlodi neu'r ardal lle maent yn byw.

Rydym wedi cynnwys yr CCUHP mewn cyfraith drwy roi Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) ar waith yn llawn ym mis Mai 2014. Cafodd ein Cynllun Hawliau Plant ei gymeradwyo gan Aelodau'r Cynulliad ym mis Ebrill 2014, ac mae gennym bellach brosesau a systemau yn eu lle sy'n ein helpu i roi sylw priodol i hawliau plant. Maent yn berthnasol i bob Gweinidog a Swyddog, ac felly'n effeithio ar ddeddfwriaeth, polisïau a chanllawiau. Mae hyn yn ei dro yn effeithio ar wasanaethau ar lawr gwlad a'r canlyniadau ar gyfer plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Mae'r Prif Weinidog wedi datgan bod y Llywodraeth hon yn canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer pobl Cymru. Rydym wedi symud tuag at ffordd o weithio sy'n gosod plant a phobl ifanc wrth galon pob penderfyniad Gweinidogol. 

Heddiw, bydd Gweinidogion y Cabinet yn dathlu Diwrnod Byd-eang y Plant drwy ymweld â gwahanol leoliadau plant a phobl ifanc, er mwyn gweld â'u llygaid eu hunain y gwahaniaeth cadarnhaol rydym yn ei wneud fel Llywodraeth. 

Bydd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth yn ymweld â Phlas Pawb; canolfan blant integredig a sefydlwyd i gynnig gwasanaethau chwarae, addysg, gofal, iechyd a chymorth i deuluoedd, gyda'r nod o ddarparu'r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant wardiau Cadnant a Pheblig yng Nghaernarfon.  Ar gyfer teuluoedd sydd yn cael cymorth drwy raglen Dechrau'n Deg yn yr ardal, mae nifer o wasanaethau ar gael dan un to, gan gynnwys gofal plant rhad ac am ddim i blant 2-3 oed, grwpiau rhianta a chyngor ar iechyd. 

Nod Dechrau'n Deg yw rhoi gwell dechrau mewn bywyd i blant. Yn y tymor hir, dylai hyn arwain at lai o anfanteision i bobl ifanc ar sail y cymunedau lle maent yn cael eu magu.  Yn y tymor byr, mae'r rhaglen yn cynorthwyo rhieni i gael sgiliau angenrheidiol i helpu gyda datblygiad eu plant, ac ar ben hynny mae'n rhoi cyfle iddynt gyrraedd at hyfforddiant a chymorth i wella'u cyfleoedd am swyddi, a thrwy hynny eu codi allan o dlodi. 
Dros y cyfnod o 4 blynedd rhwng 2012-16, darparwyd cyfanswm o £282.9 miliwn drwy'r Rhaglen Dechrau'n Deg. O ganlyniad mae nifer y plant sy'n elwa wedi dyblu o 18,000 i 36,000, drwy fwy o gymorth i deuluoedd, ymweliadau iechyd a llefydd mewn meithrinfeydd erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn yn 2016. 

Mae'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis yn ymweld â thair ysgol yn y gogledd i weld sut maent yn codi safonau. Bydd y newidiadau rydym yn eu cynnig i gymwysterau yn darparu system uchel ei hansawdd ac uchel ei pharch o gymwysterau cenedlaethol. Elfen ganolog o'r system well yw canolbwyntio o'r newydd ar lythrennedd, rhifedd a mwy o gywirdeb, a sicrhau bod y cymwysterau y mae'r bobl ifanc yn gweithio tuag atynt yn fwy priodol i'r oes fodern.

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd yn ymweld ag uned ganser y plant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Yno mae cleifion canser ifanc yn cael mynediad at driniaeth arbenigol a chyfleusterau sy’n cynnwys llety i'w teuluoedd, lolfa â mynediad i'r rhyngrwyd i bobl ifanc yn eu harddegau, ystafelloedd chwarae i blant iau a lolfa i rieni.

Fe fyddaf i'n cyfarfod arweinwyr Cabinet Addysg Awdurdodau Lleol i drafod ffyrdd o ddarparu gofal plant fforddiadwy, o ansawdd uchel i bawb. Un o'r prif sialensiau sy'n wynebu rhieni, yn arbennig rhieni plant anabl, yw talu am ofal plant.  Mae gofal plant yn hanfodol er mwyn galluogi rhieni i weithio neu gael addysg, ac o ganlyniad osgoi cael eu hallgáu'n gymdeithasol. Mae hyn yn hollbwysig i'r agenda trechu tlodi. Hefyd rydym wedi cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant newydd i Gymru. Bydd hyn, fel y Cynllun Gweithredu, yn canolbwyntio ar helpu rhieni i weithio. Cyhoeddwyd drafft o'r Strategaeth Tlodi Plant Ddiwygiedig ar gyfer cyfnod ymgynghori 12 wythnos.  

Cefais gyfarfod â’r Llywydd ddoe i drafod ffyrdd o gydweithio i ennyn diddordeb pobl ifanc a’u hannog i gymryd rhan. Roeddwn yn falch o glywed am waith ardderchog pwyllgorau’r Cynulliad i gynnwys lleisiau pobl ifanc yn eu gwaith, ac rwy’n croesawu ymgynghoriad y Llywydd ynghylch gostwng yr oedran pleidleisio i 16, sy’n cael ei lansio heddiw. Gyda’r dull gweithredu ar gyfranogiad cenedlaethol sy’n cael ei ddatblygu gan Plant yng Nghymru, ac mewn partneriaeth â’r gwaith blaengar ac ysbrydoledig ar gyfranogiad sy’n cael ei wneud gan Awdurdodau Lleol, rwy’n hyderus y byddwn yn cyrraedd at filoedd o blant a phobl ifanc, ac yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. 

Yfory, byddaf yn ymweld ag Ysgol Sant Christopher yn Wrecsam, sydd wedi llwyddo i gyrraedd lefel 2 Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF. Dyma un o nifer o ysgolion yng Nghymru sydd wedi gosod CCUHP wrth galon diwylliant yr ysgol drwy roi'r hawliau ar waith bob dydd.

Mae'r ymweliadau hyn a’r cyfle i weld hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu gwireddu yn parhau i ysbrydoli'r Llywodraeth. Gobeithio y byddwch yn ymuno â ni i ddathlu'r diwrnod ac ymfalchïo yn ein plant a phobl ifanc.