Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 18 Mai byddwn yn dathlu Diwrnod Cenedlaethol y Plant, a fydd yn gyfle i ni dynnu sylw at y gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghymru i gefnogi plant i arfer eu hawliau.

Ym mis Rhagfyr, fe roiais ddiweddariad i Aelodau'r Senedd ar ein dull o godi ymwybyddiaeth o hawliau plant. Rwyf am fanteisio ar y cyfle heddiw i dynnu sylw at werth ymgysylltu â phlant ar draws Cymru i gyfoethogi a llywio ein polisïau.

Mae ein hymrwymiad i hawliau plant wedi'i ymgorffori yn y gyfraith drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 - y cyntaf o'i fath yn y DU.

Mae Gweinidogion Cymru yn awyddus iawn i gryfhau’r cyfleoedd i leisiau plant gael eu clywed. Pan fydd penderfyniadau'n cael eu gwneud am blant, dylid eu gwneud gyda nhw. Plant yw'r arbenigwyr ar eu bywyd eu hunain. Mae eu safbwyntiau nhw yn ein helpu i lunio polisïau gwell, mwy ymatebol. 

Mae holl Ysgrifenyddion a Gweinidogion Cabinet Cymru wedi ymrwymo i gyfarfod â phlant bob blwyddyn o leiaf i drafod eu polisïau â nhw - gyda phob un ohonom yn elwa ar y sgyrsiau hyn gyda phlant am y materion sy'n bwysig iddynt, sy’n dylanwadu ar y dewisiadau polisi a wnawn. 

Yn flynyddol, rydym yn mynychu digwyddiadau fel y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol sy'n rhoi cyfleoedd i blant siarad yn uniongyrchol â Gweinidogion ac i ni gael ystod eang o safbwyntiau ar nifer o bynciau.

Ym mis Tachwedd, ymunodd y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig â 320 o ddisgyblion yn y COP Ieuenctid 2024 i drafod materion hinsawdd brys gan gynnwys effaith dewisiadau bwyd, pwysigrwydd lleihau gwastraff bwyd a blaenoriaethu cynaliadwyedd. Mae fideo gwych wedi’i greu o'r diwrnod gan Maint Cymru, y gallwch ei wylio yma (dolen allanol).

Ym mis Chwefror, mynychais gyfarfod preswyl o Gymru Ifanc, a oedd yn gyfle i mi drafod yn uniongyrchol â nhw sut y gallant gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu polisi. Cefais wybodaeth werthfawr am y rhwystrau y mae rhai pobl ifanc yn eu hwynebu wrth geisio cymryd rhan a'r hyn y gall y Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i fynegi eu barn. Ers hynny, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip a'r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant hefyd wedi bod yn gweithio gydag aelodau o Gymru Ifanc i edrych yn fanwl ar faterion yn ymwneud ag iechyd meddwl, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb LHDTC+. 

Mae ein Huwchgynhadledd Gofal flynyddol yn dwyn ynghyd pobl ifanc sydd â phrofiad o fyw mewn gofal a Gweinidogion Llywodraeth Cymru. Yn gynharach y mis hwn, cawsom gyfle i glywed eu barn ar gynnydd y gwaith o gyflawni'r weledigaeth ar gyfer trawsnewid gofal cymdeithasol plant. Byddwn yn defnyddio eu hadborth i adolygu'r Datganiad Diwygio Radical a gwneud unrhyw ddiweddariadau angenrheidiol. 

Mae'r pethau hyn yn ychwanegol at y ddeialog reolaidd a pharhaus yr ydym yn ei chael gyda phlant. Rydym yn ymweld yn rheolaidd ag ysgolion, clybiau ieuenctid a lleoedd lle mae plant yn bresennol, i wrando a dysgu. Mae plant wedi dylanwadu ar y gwaith o lunio deddfau ar blastigau untro, yn fwyaf diweddar ar fêps untro, ac ar ddatblygu fframwaith NYTH / NEST sy'n mynd i'r afael ag iechyd meddwl a datblygu adnoddau sy'n codi ymwybyddiaeth o'n gwaith i wella’r gyllideb. 

Mae plant wedi cyfrannu at ymchwil i ansawdd bwyd mewn ysgolion, arferion da o ran teithio gan ddysgwyr, a sut y dylai diwrnodau HMS weithio. Maent wedi dweud wrthym sut beth yw gofal plant o safon yn ei profiad nhw ac mae hyn wedi dylanwadu ar ein Safonau Gofynnol Cenedlaethol. Yn ogystal, mae plant ag anghenion dysgu ychwanegol wedi ein helpu i ddeall eu profiadau o'r system addysg, gan gyfrannu at ein prosesau gwerthuso a chraffu.

Rydym eisiau Cymru i bob plentyn lle mae’n gallu arfer ei hawl i ddweud ei ddweud yn y penderfyniadau sy'n effeithio arno a lle mae ei lais yn cael ei glywed, ei barchu a’i werthfawrogi. Edrychwn ymlaen at adeiladu ar y gwaith hwn yn y flwyddyn i ddod, gan sicrhau bod plant yn parhau i fod wrth wraidd popeth a wnawn.